Wedi bod yn sbel ers y fideo diwetha, dydi? Amser gwneud rwbath am hwnna felly.
Ydi, mae Huwcyn bach yn ôl. Ac mae o wedi dod ag Elin Fflur efo fo.
Nodyn bach ar y gêm yn y fideo ‘ma: mae Octodad: Dadliest Catch yn lot fawr iawn o hwyl. Ymysg y gemau mwya digri dwi erioed ‘di chwarae. Dim ond dwy awr mae o’n para, felly os oes ganddoch chi dipyn o amser i wastio un noson a ddim isio gwatshiad ffilm, rhowch go iddo fo. Mae o ar gael ar Windows a’r PS4.