Ffilmiau Arswyd 2014, Rhan 1

Do’n i ddim yn arfer bod o ffan o Galan Gaeaf. Do’n i’m yn gweld y pwynt. Do’n i hefyd ddim yn ffan o ffilmiau arswyd. Ond ar ryw bwynt dros y blynyddoedd diwetha, wnes i newid fy marn ar ffilmiau arswyd – yn rhannol oherwydd cyfres wych James Rolfe o Cinemassacre.com, “Monster Madness”. Mae’r boi yna’n gwbod ei stwff.

Ers hynny, dwi ‘di dechrau dod yn ffan o Galan Gaeaf hefyd. Achos wyddoch chi be? Mae ffilmiau arswyd a Calan Gaeaf yn mynd efo’i gilydd fel ffilmiau trist a diwrnod Santes Dwynwen. Felly dwi ‘di bod yn treulio’r misoedd Hydref diwetha yn pwmpio ffilmiau arswyd yn syth i mewn i fy ngwythiennau, yn gwneud i fyny am yr holl flynyddoedd o guddio y tu ôl i’r soffa.

Mae gen i 13 ohonyn nhw yn disgwyl yn faleisus ar y silff. Ac mewn tri o erthyglau y mis yma, dwi am fynd drwyddyn nhw efo chi, fesul un. ‘Da chi’n mynd i ista lawr fanna yn hapus braf a darllen amdanyn nhw i gyd. Dallt?

man-tied-to-chair-and-gagged

The Silence Of The Lambs

OK, do’n i erioed ‘di gweld The Silence Of The Lambs o’r blaen. Be ‘da chi am wneud am y peth?

Ond dwi wedi ei weld o bellach. A dyma ni fy marn controfyrsial: mae o’n dda iawn. Iawn, gewch chi symud mlaen rŵan.

Dim go-iawn. Ond dwi ddim yn siŵr be alla i ddeud am y ffilm yma dydi pobol ddim wedi ei ddeud gant o weithia o’r blaen. Do’n i ddim yn meddwl bod cymeriad y llofrudd Jame “Buffalo Bill” Gumb wedi heneiddio’n dda iawn, ac ella y bysa rhywun yn gallu ei gysidro braidd yn dransffobig erbyn hyn. Ond oni bai am hynny… ia. Da. Ddylsa’r boi Anthony Hopkins ‘na ddal i actio, yn fy marn i. Mae ganddo fo ddyfodol disglair.

Un peth: do’n i ddim yn siŵr cyn gwylio hwn oedd o wir yn ffilm arswyd, ta’n fwy o thriller. Ar un llaw, fyswn i’n sicr ddim yn disgrifio Red Dragon a Hannibal fel ffilmiau arswyd. A rŵan, wedi ei weld o, dwi ddim rhy siŵr. Mae ‘na ddarnau brawychus ynddo fo, wrth gwrs – y cyfarfod tyngedfennol rhwng Jame Gumb a Clarice Starling yn fwy dychrynllyd na’r un arall, mae’n debyg – ond oni bai am hynny, a pherfformiad eiconig Anthony Hopkins, wrth gwrs, ydi o’n cydffurfio i batrymau ac adeiledd y genre arswyd yn gyffredinol? Dwi ddim yn gwbod. Achos dwi dal braidd yn ddi-glem am hyn i gyd. Trafodwch ymysg eich gilydd.

Sgôr: pum ffeuen fava allan o bump

They Live

O’r gwych i’r gwachul, myn diawl.

Mae They Live in ffilm o 1988, wedi ei gyfarwyddo gan John “Big Trouble In Little China” Carpenter, ac yn serennu “Rowdy” Roddy Piper. A ddylsa hwnna fod yn ddigon i chi weithio allan fysa chi’n mwynhau’r ffilm ‘ma ai peidio.

Yn hwn, mae cymeriad Mr. Piper yn dod o hyd i sbectol haul hud sy’n gadael iddo fo weld bod y byd yn cael ei reoli gan gymdeithas gudd o deithwyr o ddeimensiwn arall. Mae o’n swnio’n debyg iawn i syniadau pobol fel David Icke, sy’n meddwl bod y byd yn cael ei redeg gan llwyth o genau goeg maleisus… neu gan aliens… neu rwbath. A gan bod ‘na bethau reit anghynnes am y fath syniadau, o’n i’n barod i ddrwglicio They Live.

Ond mae o jyst yn rhy stiwpid i’w ddrwglicio’n llwyr – ac mae o hefyd yn cynnwys y defnydd cynta o’r linell “I’m here to kick ass and chew bubblegum… and I’m all out of gum”, wedi ei ddefnyddio nes ymlaen, wrth gwrs, yn y gêm Duke Nukem 3D. Hefyd, ffeit sy’n para bron i chwe munud. Sy’n hollol ddi-bwynt.

O, a’r peth mwya syfrdanol am y ffilm? Mae Roddy Piper, yn y sylwebaeth ar y DVD, yn cyfadde ei fod yn credu bod They Live in ffilm ddogfen. Wir. Darllenwch hwn.

Yeesh.

Sgôr: dau stribed o wm cnoi a hanner allan o bump

Let The Right One In

Mae Let The Right One In yn beth rhyfeddol: ffilm sy’n gorffen yn waedlyd iawn, iawn, efo…

SPOILERS

… llwyth o blant yn cael eu rhwygo’n ddarnau mewn ac o gwmpas pwll nofio…

DIWEDD SPOILERS

… ond mae o rhywsut yn llwyddo i gynhesu eich calon chi ar yr un pryd. Achos mae’r berthynas rhwng y ddau brif gymeriad, Oskar (hogyn deuddeg oed) ac Eli (vampire sy’n edrych fel merch ddeuddeg oed) mor hyfryd. Er bod Oskar yn seicopath llwyr. Ac er bod Eli yn llofruddio pobol rownd y rîl. Ond wir. Mae eu perthynas nhw’n hyfryd. Caewch hi.

Mae ‘na fersiwn Americanaidd o’r ffilm wrth gwrs, sef Let Me In, ond mae o i’w weld yn reit debyg i’r fersiwn gwreiddiol yma o Sweden, felly dwi’m yn meddwl wna i foddran efo hwnna. Ac os ‘da chi, fel fi, yn gallu darllen is-deitlau heb orfod glafoerio fatha byffŵn, dwi’m yn gweld pam ddylsa chi foddran chwaith. Mae o’n dipyn o glasur, ac er dwi ddim yn meddwl y bydd o’n cracio’r rhestr o fy hoff ffilmiau arswyd (The Omen, Frankenstein, a The Blair Witch Project, diolch am ofyn), mae o’n ffilm berffaith i sticio mlaen ar noson Galan Gaeaf stormus, eich cariad wrth eich ymyl. Mae o beth cythraul yn well na Twilight, o leia.

Sgôr: pedwar plentyn heb ben allan o bump

Troll Hunter

O Sweden i Norwy, ac o vampires i’r trol. Dim mor frawychus, medda chi?

Meddyliwch eto.

Yn steil The Blair Witch Project, mae criw o fyfyrwyr yn gwneud ffilm ddogfen sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw grwydro i mewn i goedwig dywyll, heb lawer o blan. Yn ddigon buan, mae nhw’n ymuno efo heliwr trols swyddogol llywodraeth Norwy, ac yn gorfod gwynebu byddin o’r diawliaid. Ho hym.

Mae ‘na elfen gref o hiwmor yn Troll Hunter, efo lot o’r cast, yn ôl pob son, yn ddigrifwyr Norwyaidd. Mae hynny’n angenrheidiol dwi’n meddwl, achos dydi’r syniad o drols yn rhedeg yn wyllt o gwmpas y lle ddim yn un hawdd i’r gymryd o ddifri – yn enwedig pan eu bod nhw’n sticio at yr holl stereoteips o’r hen straeon tylwyth teg. Mae’r trols yma’n licio llechu dan bontydd, yn gallu ogleuo gwaed dynion Cristnogol, ac yn y blaen. Tysa’r syniadau yma’n cael eu cyflwyno’n hollol strêt, fysa’r peth yn gwbwl hurt. Ond eto, ‘da ni’n ddigon hapus, yn Let The Right One In, i dderbyn yr holl stereoteips am Eli. Dwi’m yn siŵr iawn pam. Atebion ar gerdyn post.

Eto, mae’r ffilm yn llwyddo bod yn frawychus ar adegau, ac mae o’n cael y balans yn iawn rhwng arswyd a chomedi ar y cyfan. Dydi o ddim yn gwneud unrhywbeth gwreiddiol, dwi’m yn meddwl, ond mae o’n dipyn o laff. Ac mewn ffilm o’r math yma, dyna i gyd ‘da chi isio, deud y gwir.

Sgôr: tri bwced o waed dyn Cristnogol a hanner allan o bump

Os ‘da chi’n gwylio rwbath sbwci mis yma, rhowch wbod yn y sylwadau. Mwy wythnos nesa, pan fydda i’n edrych ar ffilm gan Cronenberg, pâr o glasuron Prydeinig, ac un o’r llu o addasiadau Stephen King. Dyddiau da.

– Elidir

4 comments

Leave a comment