Gêm y Flwyddyn Fideo Wyth!

Mae’r amser wedi dod. Pa gêm, meddwch chi, wnaeth sefyll uwchben y gweddill i gyd yn 2014? Pa gêm wnaeth droi criw Fideo Wyth yn ddau ynfytyn, Beavis and Butthead-esque?

beavis-butthead-628

Cofiwch, cyn i chi ddechrau cwyno, mai dim ond barn Daf ac Elidir ydi hwn. Ond ar yr un pryd, mae’n barn ni yn wyddonol gywir. Ffaith.

Cyn datgelu’r gêm, ella y byddwch chi’n cofio ein bod ni, yn gynharach yn y flwyddyn, wedi pigo Hearthstone fel un dewis posib. Ac er ein bod ni wedi mwynhau’r gêm lot fawr iawn, gydag un aelod o’r tîm – ei enw’n swnio dipyn bach (ond dim lot) fel “Budur Trôns” – yn dal i’w chwarae bron bob diwrnod, dydi o ddim cweit wedi gwneud y cyt. Fel i ni sgwennu hwn, mae’r estyniad mawr Goblins vs Gnomes bron iawn a chael ei ryddhau yn Ewrop, sydd yn gaddo newid popeth. Ac efo mwy o estyniadau fel’na ar y ffordd, mae’n debyg y bydd Hearthstone yn cael ei chwarae am flynyddoedd i ddod. Mae’r balans rhwng symlder a chymhlethdod yn berffaith, mae’r ffaith ei fod o’n gymysgedd o gêm fideo a gêm gardiau fel Magic: The Gathering yn briliant, mae’r gwaith celf  a chyflwyniad y peth yn wych, ac – o ia – mae o am ddim. ‘Da ni’n ei argymell i bawb, yn hên ac yn ifanc. Ond mae ‘na un gêm sydd, rhwng y ddau ohonon ni, wedi rhoi mwy o amseroedd da i ni nag unrhywbeth arall.

Ac heb fwy o oedi…

… fe allwn ni gyhoeddi…

… mai’r gêm yna…

… ydi…

Destiny!

Os ‘da chi’n hollol newydd i Destiny… wel, lle ‘da chi ‘di bod? Dyma Daf i roi ei farn (swyddogol a gwyddonol, cofiwch) am y gêm.

Dyma’r peth. Mae ‘na gymaint o bethau o’i le efo Destiny. Y mwya ohonyn nhw, ella, ydi’r stori. Fe wnaeth rywun ar-lein ddisgrifio’r peth i fi fel dechrau darllen Lord Of The Rings yn y canol, heb unrhyw syniad pwy ydi neb. Ond mae hynny’n bod yn rhy garedig i Destiny, dwi’n meddwl. Achos does ‘na ddim stori. Dim go-iawn. Dim ond rhestr o enwau a llefydd a jargon a nonsens. Ac mae hynny’n iawn mewn lot o gemau. Dydi Mario ddim angen stori, er enghraifft, na Tetris, na Pac-Man, na Flower, na Minecraft. Ond dydi’r gemau yna hefyd ddim yn smalio bod ‘na ryw stori fawr, ddwys y tu ôl i’r peth. A dyna be sy’ mor annifyr am Destiny.

Hefyd, mae’r byd (neu’r bydoedd, ddylswn i ddweud), jyst yn rhy fach. A does ‘na ddim digon i’w wneud. Nid byd Azeroth o World Of Warcraft mohono, o bell ffordd.

Ond ‘da ni wedi gwneud yr holl bethau yna gymaint o weithiau. Drosodd. A throsodd. A throsodd. Achos mae’r broses syml o chwarae Destiny – y broses o saethu, a neidio, a tharo gelynion yn y gwyneb, a chasglu heliwm…

… ia, casglu heliwm…

… jyst mor hwyl, ‘da chi’n anghofio am yr holl broblemau ‘ma. ‘Da chi wastad yn edrych am y gwn neu’r helmed nesa, ac mae ‘na löyn byw bach hapus yn hedfan o gwmpas eich bol bob tro i chi ddod o hyd i un. Dydi o wir ddim yn wahanol iawn i chwarae peiriant slot, ond yn hytrach na jyst sefyll yna’n farwaidd yn tynnu lefer, ‘da chi’n cymryd rhan yn un o’r gemau FPS mwya meistrolgar erioed. Pan ‘da chi’n chwarae Destiny, mae’ch cymeriad yn teimlo fel estyniad o’ch corff. ‘Da chi wir yn teimlo fel eich bod chi’n gwibio ar draws y blaned Mawrth ar gefn beic yn syth allan o Return Of The Jedi, neu’n mentro lawr i’r ogofeydd sinistr o dan wyneb y Lleuad.

A ‘da ni ddim yn gwadu bod Destiny yn gêm ddadleuol iawn. Mae ‘na rai pobol sy’n meddwl ei fod yn brofiad diflas a di-bwynt. Ond – sori -mae’r bobol yna’n anghywir. Yn un peth, ella eu bod nhw ddim wedi chwarae’r gêm digon. Tan lefel 20, mae’r broses o ddatblygu eich cymeriad yn un digon arferol, cyfarwydd. Ond wedi hynny, mae’r broses yna’n newid yn llwyr, a ‘da chi angen jyglo bob math o ddeunyddiau gwahanol er mwyn mynd ymlaen. Mae o’n hollol ddryslyd a gwallgo i ddechrau, ond pan ‘da chi’n dod i ddeall popeth, a setlo i’r rhythm newydd, mae’r gêm yn trawsnewid o fod yn eitha da i fod yn hollol syfrdanol. Sticiwch efo fo, bobol.

Hefyd, ella bod ‘na rai wedi drwglicio’r gêm oherwydd eu bod nhw wedi chwarae Destiny ar eu pennau eu hunain. Mae hwnna’n ffordd braidd yn rybish o brofi’r peth. Ers mis Medi, mae Daf ac Elidir wedi treulio nosweithiau hwyr di-ri yn brwydro drwy’r gêm, a hyd yn oed wedi ffurfio clan Fideo Wyth, sy’n un o’r clans mwya poblogaidd yn y gêm erbyn hyn. Wir. Dydi hwnna ddim yn gelwydd. Nope.

Ac mae hi hyd yn oed yn bosib gwneud ffrindiau newydd drwy Destiny, ac yn llawer haws gwneud hynny erbyn hyn. Mae un aelod o’n tîm bach ni – ei enw’n swnio dipyn bach (ond dim lot) fel “Gafr Pys” – wedi gwneud hyn droeon, a bellach yn ffrindiau efo llwyth gwyllt o chwaraewyr ifanc o Ogledd Lloegr, ac yn teyrnasu drostyn nhw fel Fagin.

Felly dyna ni. Destiny. Gêm y flwyddyn 2014 gan Fideo Wyth. ‘Da ni’n hollol sicr y bydden nhw’n sticio hwnna ar y bocs.

Ond be am yr holl gemau eraill gafodd eu rhyddhau dros y flwyddyn? Dyma’r rhai wnaeth yr argraff mwya ar o leia un o dîm Fideo Wyth, efo lincs i adolygiadau fideo o bob un, os ydi o’n bodoli. Os ‘da chi’n edrych am gêm i sticio yn eich hosan, ewch chi ddim yn bell o’i le efo rhein.

Bayonetta 2
The Last Of Us Remastered
Mario Kart 8
Middle-Earth: Shadow Of Mordor
Never Alone
Shovel Knight
South Park: The Stick Of Truth
The Walking Dead: Season 2
Watch Dogs

Mae ‘na un neu ddau o bethau newydd eu rhyddhau sy’n addawol iawn – Far Cry 4 Super Smash Bros. yn eu mysg. Ond ‘da ni ddim wedi chwarae digon ar rheini i allu sticio nhw yn y rhestr eto.

Waw. Mae’n gwneud i ni ddechrau edrych ymlaen at be fydd gan 2015 i’w gynnig. Gobeithio y byddwch chi yno efo ni.

– f8

4 comments

Leave a comment