Chance and Counters: Bar Gemau Bwrdd Cynta Cymru

gan Elidir Jones

Does ‘na ddim lot o sôn wedi bod yn y cyfryngau, ond ar Dachwedd 21, cafodd menter fwya cyffrous Cymru ei agor.

Ta ta, Stadiwm y Mileniwm. Adios, Pont Britannia. Hasta la vista, Amgueddfa Wlân Cymru. Mae’ch amser ar ben.

Mae Chance and Counters yn gaffi / bar newydd ar Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd. Ewch i gyfeiriad y Castle Arcade, edrychwch i’r chwith i fynedfa bar coctel Nest 23, a welwch chi ddrws bach digon di-nod. Y tu hwnt iddo, set o risiau yn arwain am i fyny. Ac ar y top…

Fel unrhyw far gwerth ei halen, mae Chance and Counters yn gweini dewis da o gwrw, wisgi a mwy. Mae ‘na fwyd hefyd – prydau poeth a byrbrydau, i blesio pawb. Hyd yn oed figans.

Fel figan, alla i ddweud hynny heb bechu neb.

Ond y peth sy’n gwneud Chance and Counter yn arbennig ydi’r gemau bwrdd. Nid y dewis ‘dach chi wedi arfer ei weld mewn tafarn arferol – copiau o Trivial Pursuit Monopoly, y bocsys wedi malu, hanner y darnau ar goll. Na. Dyma ddewis go-iawn, o gemau go-iawn.

47507588_670853616649578_2583223821234339840_n

Er mwyn tegwch, mae’n rhaid i fi ddweud bod ‘na gopi o Monopoly yn llechu yn y canol ‘na’n rwla. Rŵan gawn ni anghofio amdano fo, a symud ‘mlaen.

Ers 2016, mae ‘na far tebyg wedi bod ar agor ym Mryste. Fe ddechreuodd yr holl beth efo ymgyrch codi arian ar wefan Kickstarter, ond mae o bellach wedi dod yn ran anatod o ganol y ddinas, ger marchnad St. Nicholas. Y peth amlwg i wneud wedi hynny oedd gwneud y naid fach ar draws yr Hafren ac agor ail leoliad.

Mae Caerdydd yn berchen ar safle gemau bwrdd eiconig yn barod, wrth gwrs – siop Rules of Play, sydd jest rownd y gornel. Diolch byth, dydi Chance and Counters ddim yn unrhyw fath o gystadleuaeth i Siop Orau Cymru. O fewn y bar, mae stondin fach wedi ei rhedeg gan Rules of Play – a’r un peth bellach yn wir am y bar ym Mryste.

Cyd-weithio. Gwneud ffrindiau. Peidio dadlau. A, gemau bwrdd. Dwi’n eich caru chi.

Mae sesiwn bedair awr yn Chance and Counters yn costio £5 yr un – meddyliwch amdano fel deposit ar gyfer y gemau fyddwch chi’n eu llusgo oddi ar y silff a rhwygo ar agor yn llawn cyffro i gyd. Ond mae ‘na hefyd gerdyn aelodaeth i’w gael – £25 y flwyddyn, sy’n cynnig disgownt ar y gost yna. Werth y pres, os ydych chi’n bwriadu dod yma wythnos ar ôl wythnos fel fi.

Nos Wener, aeth Daf a fi i fyny’r grisiau ‘na am y tro cynta, i dreulio noson gyfan yn Chance and Counters. Ar gyfer ymchwil, ‘dach chi’n dallt. Druan ohonom ni.

Ddechreuon ni efo Small World – gêm dwi wedi bod isio ei chwarae ers blynyddoedd maith, ac erioed wedi cael y cyfle i wneud tan rŵan.

DSC_0057

Dyna be sy’n wych am lefydd fel hyn – maen nhw’n rhoi cyfle i chi drio gemau sydd ddim yn eich casgliad, a phenderfynu ydi hi’n werth mynd amdani. Dwi’n llygadu’r copi ‘na o Zombicide ar y silff yn barod…

Daf enillodd, gyda llaw. Ei fyddinoedd o ddewinod, cewri a ffermwyr yn lledu ar draws y map fel pla… a fi’n styc efo’r trols.

Peidiwch byth â dewis y trols.

Nesa, gêm o’r enw King and Assassins. Do’n i erioed wedi clywed am hon o’r blaen – ond mae staff y bar yn medru argymell gemau i chi, wrth gwrs. A dysgu’r rheolau i chi, os oes angen. Nid bod King and Assassins yn arbennig o gymhleth. Ond mae’n lot o hwyl, a’r thema yn gweithio’n berffaith.

DSC_0058

Mae’n gêm i ddau chwaraewr yn unig. Fydd un ohonoch chi’n chwarae fel brenin cas a’i warchodion ffyddlon, yn trio gwneud eu ffordd drwy sgwâr farchnad tua’r castell. Mae’r chwaraewr arall yn rheoli’r werin bobol sy’n crwydro o amgylch y sgwâr… ond yn eu plith, yn rhywle, mae tri llofrudd yn disgwyl am eu cyfle i ddatgelu eu hunain a lladd y brenin.

Mae’n gêm o strategaeth dactegol, ddim yn annhebyg i ddraffts neu wyddbwyll yn ei hanfod, ond yn lot mwy lliwgar, ac efo elfen gryf iawn o flyffio. Mae’r chwaraewr sy’n rheoli’r brenin wastad yn gwylio symudiadau’r cymeriadau eraill efo llygad barcud. Os ydyn nhw’n symud yn agosach, ydyn nhw’n lofrudd? Ta ydi’r chwaraewr arall yn trio tynnu’ch sylw chi i un cyfeiriad, efo’r gwir elyn yn llechu yn y cysgodion rhywle arall?

Hoff iawn o hwn. Dwi’m yn gweld fy hun yn chwarae King and Assassins ddegau o weithiau, ond roedd y sesiwn fach yma yn lot o hwyl.

Daf ennillodd. Ddwywaith. Dim ots. Dim ots. Dwi dros y peth. Wir yr.

Yn ola oedd Tokaido. Unwaith eto, gêm sydd wedi bod o gwmpas ers sbel, ond un do’n i na Daf erioed wedi ei phrofi.

DSC_0060

Drychwch hapus ydi o.

Gêm dipyn mwy sidêt tro ‘ma… ar yr wyneb, o leia. Fyddwch chi’n chwarae fel twristiaid yn gwneud eu ffordd drwy Siapan, a’r nôd ydi… mwynhau eich hun. Bwyta’r bwyd gora, prynu’r casgliad gora o swfenirs, ac yn y blaen. Ond mae’r chwaraewyr eraill yn trio gwneud yr un peth, wrth gwrs. Yn medru eich rhwystro chi rhag mynd lle ‘dach chi isio. Ac yn gwneud, sawl gwaith. Roedd ‘na fwy o regi rhyngddon ni yn ystod sesiwn o Tokaido nac yn ystod unrhyw gêm arall, a’r cwpwl druan drws nesa i ni oedd yn chwarae Operation ddim yn gwbod be i feddwl.

Ia. Operation. Dwi’m yn gwbod pam, chwaith.

Fyswn i ddim yn oedi cyn ychwanegu Tokaido at fy nghasgliad, ac yn edrych mlaen at chwarae eto.

Ac ella ennill tro nesa. Clean sweep gan Daf. Hurt bost.

Mae’r nifer o brofiadau gwahanol allech chi eu cael mewn lle fel hyn yn wirioneddol ddiddiwedd. Mae ‘na gannoedd o gemau ar y silffoedd yn barod, a mwy yn dod allan bob wythnos. Os ydych chi’n weddol ddibrofiad, gewch chi ddechra efo rhywbeth syml…

… ond pam Operation? Pam? …

… ac o fewn dim, fyddech chi wedi symud ymlaen at y bocsys mawr, trwm, ar ben pella’r silff. Y stwff da. Dead of Winter. Star Wars: Rebellion. Cosmic Encounter. Ia plis.

Yn barod, dyma fy hoff far yng Nghaerdydd, a dim ond gwella wneith o. Os ydych chi’n ffeindio eich hun yn y brifddinas rywdro, cymrwch sbec i mewn, ac ella welwch chi fi yn y gornel, yn rowlio dis, yn chwarae cardiau, ac yn joio byw. Mae croeso i chi ymuno…

… jest peidiwch â dewis y trols.

O! Un peth arall. Wnes i anghofio dweud bod croeso i gŵn yn Chance and Counters. Ac, os ydych chi’n lwcus iawn, y gwnewch chi ella gyfarfod ci swyddogol y bar. Spaniel bach ciwt o’r enw Whitney Houston.

Ddylswn i wedi cychwyn efo’r wybodaeth yna, siŵr o fod.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s