Ydy ni am weld elfenau o fytholeg Cymru am y tro cyntaf ar Netflix? Cawn weld yn fuan efo rhaglen deledu The Witcher.
gan Daf Prys
Os oes unrhyw gem dwi a Dr Elidir Jones yn medru cytuno arno fydd yn codi i’r brig ymysg y cwestiwn mawr o ‘Beth Yw’r Gem Orau Erioed’, yna, wele The Witcher 3. Nid oes profiad tebyg efo sgwenu lliwgar, naratif dwys, a chreu byd syfrdanol. Mae’r amrywiaeth yn ddi-baid, a’r cymeriadau yn disgleirio efo dyheuadau unigryw a cefndiroedd patrymog – dyma ein adolygiad.
Ar ben hyn, mae sawl stori wedi ei ysbrydoli gan fytholeg a straeon gwerin Cymraeg/Brythoneg, ac mae sawl cymeriad, lle a gwrthrych efo enwau Cymraeg:
- Cleddyf o’r enw ‘Disglair
- Ffugenw’r cymeriad canolog yw Gwynbleidd (yn llythrenol o White Wolf)
- Bwystfil o’r enw Morvudd a.y.y.b.
Pe baw imi rhestri popeth byddaf yma am fflipin ages… Ond mae mwy, mae sawl stori o fewn y gem yn cymryd strwythur adnabyddedig o’r Mabinogi, mae Elidir a finau wedi sgwenu am hwn o’r blaen.
Felly pam ydw i’n trafod y peth eto? Achos mae’r lluniau cyntaf wedi ymddangos o’r cymeriadau, efo Superman (neu Henry Cavill) yn chwarae’r prif gymeriad, Geralt. A dyma fo:

Ac ie, *byddwn* (geith e falle dynu’r dodgy wig gynta).
So y cwestiwn mawr yw, ydy cwmniau sy’n edrych ar hwn – a Game of Thrones sydd newydd orffen (diolch byth) – efallai yn gweld potensial i ddatblygu rhywbeth tebyg, ond yn mynd at y ffynhonell gwreiddiol, y Mabinogi?
I fod yn hollol flaen, mae digon o fytholeg Dwyrain Ewrop (ymysg eraill) yn The Witcher, dwi’m yn trio dweud dim llai. Ond diddorol bydd gweld rhywbeth llawer agosach i straeon Mabinogaidd ar ein teledu, a pa fath o ymateb y ceith. Ac a fydd hwn yn arwain at rhywun, o’r diwedd, yn creu rhywbeth prif-ffrwd wedi seilio yn llawn ar ein straeon gwych? Dyna’r gobaith.
Ac ydw, dwi yn cofio rhaglen wedi animeiddio gan S4C ond oedd hwnna yn … timo … weird.
Wele fwy o gymeriadau eraill ar ffrwd Instagram y rhaglen.
O/N Ydw, dwi yn sgwenu geiriau efo un ‘n’ yn unig, mae’r ffaith fod ni efo geiriau ‘nn’ yn hollol wirion.