Nefoedd ac Uffern Animal Crossing: Pocket Camp

gan Elidir Jones Mae blwyddyn fawr Nintendo yn parhau, wrth i’r cwmni ryddhau gêm fawr ar ôl gêm fawr, wythnos ar ôl wythnos. Y diweddaraf, allan wythnos diwethaf, ydi Animal Crossing: Pocket Camp. Dyma gêm hir-ddisgwyliedig sy’n parhau i wthio ffiniau newydd Nintendo ar ffonau, gan ddilyn Miitomo, Super Mario Run, a Fire Emblem Heroes. ‘Da ni ar f8 wedi trafod o’r…

Y Gwener Ddu

Dîls dîls dîls, dewch i llenwi’ch berfa efo dîls dîls dîls! ‘Da ni yn f8 ddim wir yn credu yn y nonsens Black Friday yma, onibai fod chi’n sôn am noson shaclad Gwener dwethaf cyn Dolig, ond gan fod Daf yn dod o Geredigion yna mae o yn llwyr grediniol mewn safio pob ceiniog. Felly…

Skyrim: Y Gêm Wnaiff Ddim Marw

gan Elidir Jones Mae ‘na restr fer o gemau sydd wedi cael effaith mawr arna i. Super Mario Bros. Earthbound. Hearthstone. Un arall sy’n sicr yn haeddu bod ar y rhestr ydi The Elder Scrolls V: Skyrim – a heb y clasur yma o 2011, mae’n deg dweud na fyddai Fideo Wyth yn bodoli o gwbwl yn ei ffurf…

Stranger Things: Lovecraft ar Ffilm

gan Elidir Jones Tua blwyddyn ar ôl pawb arall, dwi wedi darganfod y rhaglen Stranger Things. Bys ar y pyls, fel arfer. Wna i ddim mynd i ddyfnder mawr am y rhaglen ei hun, achos mae pawb a’i gath wedi cael dweud eu dweud yn barod. Dim ond bod yr actio (yn enwedig gan y plant)…

Fideo Wyth ar Hansh: Rhan 2

gan f8 Nodyn bach heddiw i’ch atgoffa bod ein fideos ar wasanaeth Hansh yn parhau. Fe allech chi wylio / ail-wylio ein pum fideo cynta fan hyn. Pob math o nonsens wedi ei gynnwys fan’na. Ac mae’r hwyl yn parhau. Fe fydd y pump fideo nesaf yn mynd i fyny fan hyn, felly cadwch olwg…