gan f8
Nodyn bach heddiw i’ch atgoffa bod ein fideos ar wasanaeth Hansh yn parhau. Fe allech chi wylio / ail-wylio ein pum fideo cynta fan hyn. Pob math o nonsens wedi ei gynnwys fan’na.
Ac mae’r hwyl yn parhau. Fe fydd y pump fideo nesaf yn mynd i fyny fan hyn, felly cadwch olwg ar y dudalen yma. Neu ar ein Twitter a Facebook, a chyfrifon lu Hansh, wrth gwrs.
Am y tro, mwynhewch y fideo cyntaf yma o’r set newydd. Ac mae’n un da. Pa gemau sy’n cynnwys y cyfeiriadau gorau at Gymru fach, meddech chi?
‘Co ni off.
8 o Gemau Cymreig