Tetris 99 (a Fflêc)

gan Elidir Jones

Mae tueddiad Nintendo i gyhoeddi eu holl newyddion drwy gyflwyniadau fideo Nintendo Direct wedi arwain at ganlyniadau cymysg dros y blynyddoedd. Am bob cyhoeddiad enfawr, sy’n gosod y we ar dân, mae ‘na ymdriniaeth hirwyntog, annealladwy Smash Bros. Iei.

Ond mae’n deg dweud bod y Nintendo Direct ar ddydd Mercher wedi ei chnocio hi allan o’r parc.

Yn gynta’, wrth gwrs, dyna gyhoeddi fersiwn newydd o’r clasur Game Boy, The Legend of Zelda: Link’s Awakening, ar y Switch. Ac mae’n edrych yn wirion o brydferth.

Dyna Super Mario Maker 2, allan fis Mehefin…

Ar ben hynny, roedd ‘na gêm newydd o’r enw Astral Chain gan wneuthurwyr Bayonetta, llwyth o stwff Dragon Quest Final Fantasy, a dyddiadau cadarn ar gyfer llwyth o gemau ar y ffordd rhwng rŵan a mis Mawrth. Assassin’s Creed! Mortal Kombat! Mae’r gang i gyd yma.

Gan gynnwys Tetris. Ac er pa mor gryf oedd y leinyp ar y cyfan, mae’n bosib iawn mai’r clasur yma – sy’n dathlu ei benblwydd yn 30 flwyddyn yma – oedd seren y sioe.

Mae’n syniad mor syml. Yn dilyn llwyddiant PUBG Fortnite, mae pob un gêm yn benthyg y fformiwla ‘battle royale’ erbyn hyn – llwyth o bobol yn chwarae yn erbyn ei gilydd, gydag un dyn neu ddynes fach ar ôl erbyn y diwedd.

Yma, mae 99 o bobol yn chwarae Tetris. Ar unwaith.

Iyp. Naw deg naw.

Tra bod y fformiwla yna’n swnio’n ddigon syml – a mae o – mae’n falch gen i ddweud bod Tetris 99 yn cynnwys haen ar ôl haen o strategaeth, sy’n gwneud y gêm yn glasur yn syth, yn fy marn i.

Fel mewn unrhyw gêm Tetris, mae clirio un rhes o friciau’n grêt, ond y tric ydi lirio dau, tri, neu bedwar ar unwaith. Pan mae hynny’n digwydd, fyddwch chi’n gyrru lot mwy o friciau i ymosod ar un o’r 98 o chwaraewyr eraill. Ac nid chwaraewyr ar hap (er, mae gwneud hynny’n opsiwn hefyd). Fe allwch chi ddewis.

Bwa ha ha.

Felly, os ydych chi isio mynd ar ôl pwy bynnag sydd wedi meiddio ymosod arnoch chi, mae croeso i chi wneud. Ac mae’n hynod o foddhaol. Ond, mae’n dod efo risg. Os ydych chi’n chwarae’n ymosodol, mae’n fwy tebyg y bydd pawb arall yn dod ar eich hôl chi. Mae ‘na rywbeth i’w ddweud, felly, dros chwarae’n fwy amddiffynnol, a chadw’ch bwrdd yn glir heb drio clirio llwyth o linellau ar unwaith. Dwi erioed wedi dod ar draws hynny mewn gêm Tetris o’r blaen.

Fe allech chi anelu at pwy bynnag sy’n debyg o gael eu cnocio allan nesa – ac os ydych chi’n llwyddo tynnu rhywun o’r gystadleuaeth, fyddwch chi’n dod yn agosach at ennill ‘bathodynnau’. Mae rhein yn eich gwneud yn fwy peryglus o lawer, ac yn lluosogi’r nifer o friciau ‘dach chi’n eu saethu at bawb arall.

Y dewis olaf ydi anelu am y pobol sydd wedi casglu’r mwyaf o fathodynnau… sydd, fwy na thebyg, am gynnwys y chwaraewyr gora. Felly watch owt.

Mae Tetris yn anodd ac yn llawn tensiwn fel mae o. Ychwanegwch yr holl bethau eraill ‘ma i’w cysidro yng nghanol popeth, ac mae’r gêm yn cyrraedd lefel newydd o dyndra wrth i’r holl beth gyflymu, ac wrth i’r gerddoriaeth yna atseinio yn eich clustiau.

Ar hyn o bryd, does ‘na ddim llawer o gymhelliad i ddal i chwarae, oni bai am weld eich lefel yn mynd yn uwch ac yn uwch. Fydd ‘na bethau yn cael eu hychwanegu, dwi’n siŵr… ond i fod yn onest, mae’r gêm mor hwyl, does dim angen llawer mwy.

O, a’r rhan gorau oll? Os oes gennych chi danysgrifiad i Nintendo Online (sy’n dod yn well ac well opsiwn wrth i fwy o gemau gael eu hychwanegu at y gwasanaeth), mae Tetris 99 am ddim. Ac yn sydyn, mae’r pecyn yma’n dod yn hanfodol i unrhyw un sy’n berchen ar Switch.

Dwi’m yn gwbod am be ‘dach chi’n ddisgwyl, wir. Mae’r wythnos bron ar ben. Be wnewch chi ar eich amser i ffwrdd? Mynd allan? Pff. Bŵtiwch eich Switch i fyny, a wela i chi arlein.

Gyda llaw… wnaeth o gymryd fy holl nerth i beidio galw’r cofnod yma yn “I Got 99 Problems (But A Brick Ain’t One).”

Doedd ‘na ddim ffordd ‘mod i ddim am ddefnyddio’r jôc yna yn rhywle.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s