Gemau 2018

gan Daf Prys, Elidir Jones, a Joe Hill 2018, eh? Phwoaaar. ‘Na chi flwyddyn. Eh? Phwoaaar. Mowredd. Phwoaaar. ‘Di’r flwyddyn prin ‘di dechra eto, Daf. Phwoaaar. Ond y gemau, ddyn. Y gemau. PHWOAAAR. Meddwl ddylsen ni adael e gŵlio lawr am sbel, Elidir? Aye. OK, Joe. PHWOAAAR. Rhestr o gemau mwya’r flwyddyn? Rhestr o gemau…

Hearthstone: Cyflwr y Gêm, 2018

gan Elidir Jones (Nodyn: mae ein rhagolwg o gemau 2018 yn dod wythnos nesa. Am y tro, mwynhewch y sleis sylweddol yma o nyrdrwydd.) Ddwy flynedd yn ôl – i’r diwrnod – fe wnes i ddarn am Hearthstone, y gêm gardiau ar-lein gan Blizzard yn seiliedig ar World of Warcraft. Ar y pwynt yna, ro’n i wedi bod yn…

Gemau’r Flwyddyn 2017

gan f8 Mae’r twrci a / neu’r nut roast wedi ei orffen. Nain wedi deffro o’r coma ddisgynodd hi iddo fo ar ôl potel gyfan o sheri. The Muppet Christmas Carol oddi ar y teli, a Muppet Treasure Island yn ei le. Be arall i’w wneud ond edrych yn ôl ar gemau gorau’r flwyddyn, a’u rhoi nhw’n dwt mewn rhestr? Briliant….

Goreuon 2017

gan Elidir Jones Mae’n golwg yn ôl ar 2017 yn parhau. Yr wythnos yma, holl oreuon y flwyddyn sydd ddim yn gemau fideo. Ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth, gemau bwrdd, a rhaglenni teledu. Heb fwy o oedi, felly… Ffilm: The Disaster Artist Dim ffilm Star Wars ar frig y rhestr flwyddyn yma. Dwi dal ddim yn siŵr be i feddwl am The…

Wyth Uchaf 2017

gan f8 Mae diwedd y flwyddyn yn prysur agosau. Amser i edrych ymlaen at holl ddanteithion 2018, ond hefyd i edrych yn ôl ar y deuddeng mis diwetha. Fe fyddwn ni’n treulio gweddill mis Rhagfyr yn gwneud yn union hynny, gan ddechrau drwy fynd drwy’r eitemau gennym ni sydd wedi profi’n fwyaf poblogaidd efo chi –…

Gemau Platfform 3D: Heddiw, Ddoe ac Yfory

gan Elidir Jones Wnes i orffen Super Mario Odyssey yn ddiweddar. Wel. Dwi’n deud ‘gorffen’… dwi wedi gweld y diweddglo, do. Ond rhywle o gwmpas 250 o leuadau – y brif ffordd o barhau drwy’r gêm – sydd gen i, ac mae ‘na 999 ohonyn nhw i gyd. Rhag eich cywilydd chi, Nintendo. Ta waeth. Er syndod…

Nefoedd ac Uffern Animal Crossing: Pocket Camp

gan Elidir Jones Mae blwyddyn fawr Nintendo yn parhau, wrth i’r cwmni ryddhau gêm fawr ar ôl gêm fawr, wythnos ar ôl wythnos. Y diweddaraf, allan wythnos diwethaf, ydi Animal Crossing: Pocket Camp. Dyma gêm hir-ddisgwyliedig sy’n parhau i wthio ffiniau newydd Nintendo ar ffonau, gan ddilyn Miitomo, Super Mario Run, a Fire Emblem Heroes. ‘Da ni ar f8 wedi trafod o’r…

Y Gwener Ddu

Dîls dîls dîls, dewch i llenwi’ch berfa efo dîls dîls dîls! ‘Da ni yn f8 ddim wir yn credu yn y nonsens Black Friday yma, onibai fod chi’n sôn am noson shaclad Gwener dwethaf cyn Dolig, ond gan fod Daf yn dod o Geredigion yna mae o yn llwyr grediniol mewn safio pob ceiniog. Felly…

Skyrim: Y Gêm Wnaiff Ddim Marw

gan Elidir Jones Mae ‘na restr fer o gemau sydd wedi cael effaith mawr arna i. Super Mario Bros. Earthbound. Hearthstone. Un arall sy’n sicr yn haeddu bod ar y rhestr ydi The Elder Scrolls V: Skyrim – a heb y clasur yma o 2011, mae’n deg dweud na fyddai Fideo Wyth yn bodoli o gwbwl yn ei ffurf…

Stranger Things: Lovecraft ar Ffilm

gan Elidir Jones Tua blwyddyn ar ôl pawb arall, dwi wedi darganfod y rhaglen Stranger Things. Bys ar y pyls, fel arfer. Wna i ddim mynd i ddyfnder mawr am y rhaglen ei hun, achos mae pawb a’i gath wedi cael dweud eu dweud yn barod. Dim ond bod yr actio (yn enwedig gan y plant)…

Fideo Wyth ar Hansh: Rhan 2

gan f8 Nodyn bach heddiw i’ch atgoffa bod ein fideos ar wasanaeth Hansh yn parhau. Fe allech chi wylio / ail-wylio ein pum fideo cynta fan hyn. Pob math o nonsens wedi ei gynnwys fan’na. Ac mae’r hwyl yn parhau. Fe fydd y pump fideo nesaf yn mynd i fyny fan hyn, felly cadwch olwg…

Gemau’r Nadolig 2017: Wyth o’r Goreuon

gan Elidir Jones Mae Calan Gaeaf bron yma. Felly mae’n hen bryd dechrau trafod y Dolig. Mae’n wir ddrwg gen i. Ond y gwir ydi, mae’r llif cyson o gemau newydd sy’n arwain i fyny at yr ŵyl bob blwyddyn wedi dechrau’n barod. Mae ‘na dair gêm fawr i gyd yn cael eu rhyddhau heddiw. Neno’r tad….