gan Elidir Jones
Rhybudd: mae’r cofnod yma’n cynnwys mymryn o sbwylwyr ar gyfer ‘Pandemic Legacy’. Dim byd mawr. Dwi’n dda fel’na.
Ddechreuodd yr holl beth ar Fawrth 27, 2018.
Roedd y tri ohonom ni wedi dod at ein gilydd yn nhafarn y Grange, Caerdydd, ar gyfer un o nosweithiau gemau bwrdd y siop Rules of Play. Roedden ni wedi bod yno cwpwl o weithiau – fel arfer i brofi gemau newydd, wedi eu benthyg gan y siop, yng nghwmni pobol eraill. Ond tro ‘ma, roedden ni wedi dod â’n gêm ein hun. Un cyfarwydd, ond yn newydd ar yr un pryd. A’r tri ohonom ni – a neb arall – fyddai’n chwarae. Pandemic Legacy.
Daeth y bocs i lawr ar y bwrdd. Bocs mawr a thrwm, fyddai’n dod yn wacach ac yn ysgafnach wrth i’r misoedd nesa fynd yn eu blaenau.
Roedd y tri ohonom ni’n gyfarwydd efo Pandemic – y gêm am ymladd afiechydon ar draws y byd sy’n llwyddo i fod yn gyfeillgar ac yn hollol arswydus ar yr un pryd. Roedd Daf a fi (fersiwn blonegog ohona i, beth bynnag) hyd yn oed wedi trafod y gêm yn un o’n ymddangosiadau cynnar ar Y Lle.
“Ebola.”
“Swine flu.”
Clasur.
Ond Pandemic… Legacy? Be ddiawl mae hynny’n feddwl?
Mae gemau ‘legacy’ yn dipyn o is-genre o fewn gemau bwrdd erbyn hyn. Mae’r syniad yn weddol syml: maen nhw wedi eu cynllunio i’w chwarae eto ac eto, yn ddelfrydol efo’r un grŵp o bobol yn union, efo dechrau a diwedd pendant. Unwaith i chi chwarae hyn a hyn o gemau (rhwng 12 a 24, yn achos Pandemic Legacy), dyna ni. Mae’r profiad ar ben.
A thrwy’r cyfnod yna, mae’r gêm yn newid. Rheolau (a rheolau, a rheolau) yn cael eu hychwanegu, sticeri yn cael eu adio i’r bwrdd, cardiau yn llythrennol yn cael eu rhwygo’n ddarnau bach. Os oes OCD gennych chi, arhoswch yn glir. Ac ar ddiwedd y profiad, fydd eich copi chi yn wahanol i unrhyw gopi arall yn y byd.
Mae ‘na stori yn cael ei adrodd, o fath. Am bedwar o afiechydon – ac un yn arbennig, sy’n tyfu allan o reolaeth. Chi fydd yn eu henwi nhw. Yr un mwya peryglus yn ein gêm ni? ‘Mormons’.
Chi ydi’r arbenigwyr sy’n gwneud eu gorau i ddal y don o afiechydon yn ôl. Fyddwch chi’n enwi’ch cymeriadau hefyd. Yn ffurfio perthnasau efo nhw. Mae’n berffaith bosib y bydd un, neu fwy, yn marw yn ystod yr ymgyrch. Allwch chi ddim eu cael nhw’n ôl. Mae coli un yn brofiad ysgytwol, annifyr, rhwystredig… a briliant, yn ei ffordd.
Ac yn eich cefnogi chi ar hyd y daith mae holl lywodraethau’r byd… ond ydyn nhw’n edrych ar ôl buddiannau’r bobol go-iawn? Ta oes ‘na amcanion sinistr yn llechu rhywle’n y cefndir?
Ond mae gwir apêl y gêm yn dod o’r straeon mae’r chwaraeon yn eu creu ar hyd y daith. Straeon sy’n gwbwl unigryw.
– Ei henw oedd Gwen Gotsome. (Daf enwodd hi.) Roedd hi’n arbenigrwaig ar roi dinasoedd mewn cwarantin. Ac roedd hi’n farw.
Roedd gosod cwarantin yn ganolog i’r ymgyrch. Yn un o’r unig ffyrdd o ennill gemau. Roedd colli Gwen wedi’n gollwng ni ynddi’n llwyr… tan i ni sylwi ar ambell i sticer, wedi cuddio’n ddwfn yn y bocs, y medrwn ni eu defnyddio i roi pwerau Gwen i gymeriad arall. Nid yr union rai. Cybolfa o hanner-pwerau, fyddai’n rhoi rywfaint o obaith i ni. Dim lot. Ond rhywfaint.
Wastion ni ddim amser yn eu trosglwyddo i Renton Wetwipe. (Enw Daf eto.) Ddaeth o’n fath o fwystfil Frankenstein fyddai – tysa ni’n lwcus iawn – yn medru ennill gemau i ni. Ac, yn bwysicach byth, efallai… yn cadw ein hatgofion o Gwen yn fyw.
Mae Pandemic ei hun – y gêm sylfaenol, fyddwch chi’n ei chwarae ar gychwyn ymgyrch Legacy – yn ddigon syml. Ychydig o gamau uwchben Monopoly neu Cluedo, ond dim byd rhy gymhleth. Ond mae ‘na gymaint o reolau’n cael eu hychwanegu wrth i’r ymgyrch fynd yn ei flaen – mwy a mwy o opsiynau a dewisiadau, a’r rhan fwya’n golygu agor bocs mawr pryfoclyd, neu roi sticeri hyfryd i lawr ar y bwrdd.
Hanner ffordd drwy’r ymgyrch, mae chwarae Pandemic Legacy yn teimlo fel mai chi ydi Neo yn syllu i mewn i’r Matrix. ‘Dach chi’n siŵr bod yr ateb yn cuddio yn rhywle… ond ble? Ac efo tri (neu ddau, neu bedwar) ohonoch chi’n trafod a dadlau ynghylch y peth gora i’w wneud… mae’n wallgofrwydd, o’r math gora posib.
– Un tro, heb lawer o reswm na threfnu na rhesymeg, ollyngon ni fom atomig ar Seoul, Corea. Fyddai’r afiechydon byth yn codi yno eto.
Ac wrth gwrs, roedd pawb yno’n farw.
Sori.
Wrth i’r ymgyrch barhau, nid y cymeriadau yn unig sy’n dod yn fwy byw, ond y bwrdd hefyd. Yn ein hachos ni, roedd Ewrop yn weddol dawel. Llefydd fel Llundain, Madrid ac Essen yn lochesi, o fath, rhag y gwallgofrwydd o’u cwmpas ym mhob man.
Asia, ar y llaw arall? Anghofiwch am y peth. Yno roedd y Mormons ar eu cryfa, ac roedd mentro i mewn i lefydd fel Beijing, Tokyo neu Taipei fel camu drwy gatiau Uffern. A, diolch i un foment difeddwl ar ran y tri ohonom ni, fe ledodd y Mormons i mewn i America. O Santiago i San Francisco, roedd y cyfandir cyfan dan warchae… tan i ni rywsut lwyddo i’w troi nhw’n ôl, a chreu lloches i’r ddynol ryw yn y patshyn o dir rhwng Atlanta a Miami.
Fydd eich bwrdd chi’n gwbwl wahanol, wrth gwrs. Eich straeon yn gwbwl wahanol. Dyna, yn fwy na dim, ydi prif atyniad y gêm.
– Mis Tachwedd oedd hi. Yn y gêm, ac yn y byd go-iawn. Am unwaith, roedden ni’n ennill. Dim ond un peth oedd angen eiwneud i ddod â’r gêm i ben, a rhoi buddugoliaeth bwysig i ni – dod o hyd i driniaeth i’r afiechyd melyn. Sef ‘Stigmata’.
Roedd gan Daf y driniaeth yn ei law. Yr oll oedd angen gwneud oedd cyrraedd ei dro, fel ei fod o’n medru ei ddefnyddio. Roedd popeth yn edrych yn dda…
Tan i’r cerdyn nesa droi drosodd. Daeth pla o Formons i ymosod ar ddinas Manila, cyn lledu i Sydney… a cholli’r gêm i ni.
Eisteddodd y tri ohonom ni rownd y bwrdd yn gegrwth. Methu credu’r peth. Rhag cywilydd y gêm yn chwarae tric fel’na. Doedd y peth ddim yn deg.
Yna, edrychodd fy ngwraig ar y bwrdd. Ei astudio’n ofalus. Roedd ei chymeriad reit wrth ymyl Manila.
“Fyddwn i wedi medru mynd i Manila yn lle Jakarta,” meddai hi. “Fyddwn i wedi medru stopio hynny rhag digwydd.”
Edrychodd Daf a fi at ein gilydd, a nodio.
“Dyna be wnes ti.”
Cafodd y cloc ei droi’n ôl. Roedden ni’n fuddugol.
Twyllo? Ella. Ond pan mae buddugoliaeth o fewn eich gafael yn Pandemic Legacy, mae’n rhaid i chi ei gymryd.
Mae ‘na ormod yn y fantol.
Mae Pandemic Legacy, tra mae’n para, yn rheoli eich bywyd. Er gwell neu er gwaeth, mae’n anodd meddwl am unrhyw beth arall tra’n chwarae.
Wnaeth ein hymgyrch ni ymestyn dros naw mis, yn dod i ben o’r diwedd – ar ôl ugain o gemau – ar Dachwedd 2, 2018.
Ella – ella – bod hynny’n gyfnod rhy hir. Erbyn y diwedd, dwi’n meddwl bod y tri ohonom ni isio symud ymlaen a chwarae rhywbeth arall. A roedd y cwpwl o gemau ola un yn… siomedig. Y profiad – dim ond am y gemau yna – wedi troi’n broses o chwilota drwy hap a damwain am y cardiau penodol fyddai’n rhoi buddugoliaeth i ni. A tasen nhw’n digwydd peidio troi fyny? Tyff. Game over.
Fyddwn ni’n sicr ddim yn chwarae gêm legacy arall am sbel. Roedd chwarae hwn fel darllen nofel fawr a chymhleth, neu gael marathon o ffilmiau David Lynch. Ar ôl gorffen, i gyd ‘dach chi isio gwneud ydi sticio pennod o Friends ymlaen, neu fflicio drwy rifyn o Take A Break.
Ella jyst fi ‘di hwnna.
Fyddai trio ailgreu’r profiad – efo Pandemic Legacy: Season 2, er enghraifft – braidd yn ddi-bwynt. Ella bod o’n well gwneud hyn unwaith, a symud ymlaen.
Ond peidiwch â chamddeall – i unrhyw un sy’n hoff o gemau bwrdd, mae’r profiad yn un hanfodol. Bythgofiadwy. Os allech chi ddod o hyd i rhwng un a thri o ffrindiau eraill sy’n fodlon mynd ar y daith, does dim byd cweit fel Pandemic Legacy, a dim byd o gwbwl fel y profiad a’r straeon unigryw fydd yn codi o’ch hymgyrch chi.
Mae ‘na gymaint mwy ohonyn nhw i’w hadrodd, coeliwch fi. Ond… sbwylwyr.