Gêm y Flwyddyn 2018: Dewis Elidir

gan Elidir Jones

Efo llai na mis i fynd tan diwedd 2018 (Sut? Sut?), mae’n hen bryd i ni ddewis uchafbwyntiau’r flwyddyn.

I fi, y prif un ydi Slay the Spire: gêm fach annibynnol, allan ar hyn o bryd ar y PC, efo fersiwn Switch yn glanio yn fuan, sy’n llwyddo curo Red Dead Redemption 2, Spider-Man, God of War… yn bennaf achos ‘mod i ddim wedi chwarae yr un o rheini. Ond dwi’n eitha siŵr mai’r un fyddai’r canlyniad beth bynnag.

Yn wahanol i’r holl gemau yna, dydi Slay the Spire ddim yn cynnig byd agored mawr, allech chi fynd ar goll ynddo am wythnosau. Mae pethau’n lot symlach na hynny. Yn lot symlach.

slaythespireElla bod rhai ohonoch chi’n edrych ar y llun ‘na a meddwl bod y gêm yn edrych braidd yn rybish. Ac mae hynny’n ddigon teg. Y steil celfyddydol ydi’r rhan gwannaf o’r profiad, heb os nac oni bai. Ond mae popeth arall yn ticio’r bocsys i gyd. Mae’n anodd meddwl, deud y gwir, am gêm sy’n fy siwtio i’n fwy.

Fyddwch chi’n cychwyn fel cymeriad o’r enw “The Ironclad”. Mae’n foi mawr cry efo cleddyf mwy. Dyna’r oll sydd angen i chi wybod am y boi. Fyddwch chi’n teithio i fyny tŵr – “spire”, os hoffech chi – efo tri llawr…

Wel… pedwar erbyn hyn. Ond mae’r un ola’n gyfrinach…

… yn gwneud eich gorau i drechu’r holl elynion ar hyd y ffordd. A’r unig ffordd o wneud? Chwarae cardiau! Ies!

Fyddwch chi’n cychwyn efo’r un set o gardiau syml bob tro. Ond wrth fynd yn eich blaen, fyddech chi’n ychwanegu llawer mwy at eich dec. Y tric ydi dod i adnabod y cardiau, sut maen nhw’n gweithio (neu ddim) yn erbyn y gelynion gwahanol, ac efo ei gilydd.

Ond nid gelynion syml yn unig fydd yn sefyll rhyngddoch chi a thop y tŵr. Mae ‘na hefyd…

  • Siopau, sy’n gadael i chi dalu er mwyn ychwanegu cardiau i’ch dec, tynnu rhei o ‘na sydd ddim yn gweithio’n dda, neu brynu relics – eitemau sy’n rhoi pwerau arbennig i chi. Y rhan o’r gêm sy’n achosi’r rhan fwya o wallgofrwydd, mae’n debyg. Mae pentyrru relics ar bennau ei gilydd yn gadael i chi wneud petha hurt bost.
  • Elites – gelynion llawer anoddach nac arfer (bww!), sydd hefyd yn gollwng relics os ‘dach chi’n eu trechu nhw (iei!).
  • Cistiau. Un ar bob llawr, sy’n rhoi relic i chi. Job done.
  • Tanau gwersyll. Lle i chi un ai orffwys er mwyn adennill nerth, neu wella un o’ch cardiau. Ond dewiswch yn ddoeth, achos ‘dach chi ddim isio gwynebu gelyn anodd efo dim iechyd, ond cerdyn sgleiniog yn disgwyl yng ngwaelod eich dec.
  • Marciau cwestiwn. Rhein sy’n dda. Maen nhw’n medru smalio bod yn siopau neu’n elynion neu’n danau, y petha bach chiclyd iddyn nhw, ond maen nhw fel arfer yn eich gorfodi i ddarllen mymryn o destun, a wedyn gwneud penderfyniad, fel y llyfrau Fighting Fantasy gynt. Ac mae pawb yn gwybod pa mor wych oedd rheini. Yn dibynnu ar eich ateb, ella bydd gofyn i chi ymladd gelynion arbennig, chwarae cardiau efo coblyn bach, ymuno â chwlt, troi’n vampire, tynnu eich hun allan o gors, neu gant a mil o bosibiliadau eraill. Dyma, yn fwy na phopeth arall, sy’n ychwanegu lliw i Slay the Spire.
  • Bosys. Un ar ddiwedd bob llawr. Diawliaid trici. Oni bai am y sleim ar ddiwedd y llawr cynta. Mae o’n hawdd.

slaythespire2

Mae’r map yn newid bob tro. Y cardiau a’r relics sy’n cael eu cynnig yn newid. Gewch chi byth yr un profiad ddwywaith. Yn enwedig ar ôl i chi ddatgloi dau gymeriad arall: “The Silent”, sy’n eitha gwan, ond yn medru amddiffyn ei hun tra’n gwenwyno’r gelyn; a fy ffefryn i – “The Defect”. Y cymeriad mwya cymhleth i’w chwarae, ond y mwya hwyl hefyd, unwaith i chi ddallt y dalltins. Mae o’n ddewin, o fath, yn ymladd drwy ddefnyddio cyfres o orbs hud sy’n hedfan uwch eich pen. Mae’n hwyl gwyllt, yn enwedig os ‘dach chi’n medru casglu dwsin neu dri ohonyn nhw, i gyd yn chwyrlîo ac yn taflu hud i bob cyfeiriad ar yr un pryd.

Mae gan bob cymeriad, gyda llaw, set cwbwl wahanol o gardiau. Ac mae’r datblygwyr, MegaCrit, wedi gaddo mwy o gymeriadau unwaith i Slay the Spire lawnsio’n llawn. Hyn, yn fwy na dim, fydd yn rhoi bywyd hir i’r gêm. Nid bod angen ychwanegu llawer mwy. Allwch chi gael eich llusgo i mewn i Slay the Spire am oriau ar y tro, neu samplo’r profiad dros ambell awr ginio, fel dwi’n dueddol o wneud.

Alla i ddim meddwl am gêm sy’n fwy perffaith i fi na hon. Ers Hearthstone, dwi wedi obsesu fymryn dros unrhyw gêm sy’n cynnwys cardiau brwydro, ac mae’r elfen roguelike – efo’r profiad yn newid yn sylfaenol bob tro ‘dach chi’n marw – hefyd yn un o fy hoff bethau mewn gemau. Cyfunwch y ddau, a llongyfarchiadau. Mae ‘mhres i bellach yn perthyn i chi. Gwariwch o’n gall.

Dwi’n edrych yn mlaen yn fawr at weld sut mae Slay the Spire yn datblygu dros y misoedd a blynyddoedd i ddod. Ac at gael gafael ar y fersiwn Switch ‘na, wrth gwrs.

Ac… ac at guro’r gêm. Achos dwi ddim wedi gwneud eto.

Mae Slay the Spire yn anodd, bois.

O. Sbiwch. Bron yn amser cinio.

Un tro arall arni, sbo…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s