gan Elidir Jones
Blwyddyn newydd dda!
Efo 2019 yn rowlio’n ddiog allan o’r gwely, a Brexit yn llechu’n fygythiol oddi tano fo, cyllell waedlyd yn ei law, mae’n bryd edrych ymlaen at y flwyddyn mewn gemau. Os allwch chi feddwl am y fath beth rhwng casglu bwyd at yr apocalyps.
Och. Blwyddyn newydd dda.
Dim rhestr enfawr rhwng tîm f8 i gyd flwyddyn yma, ond dyma chydig o ddewisiadau gen i. Wyddwn ni ddim be yn union sy’n dod allan i gyd, wrth gwrs, ond dyma ambell beth alla i fod yn eitha sicr fydd yn ymddangos cyn diwedd y flwyddyn… neu cyn i Brydain suddo i’r môr dan bwysau’r holl senoffobia. Pa bynnag un sy’n dod gynta.
Cyberpunk 2077
Plis. Plis gadewch i Cyberpunk ryddhau flwyddyn yma, o’r diwedd.
Dyma ddilyniant hirddisgwyliedig CD Projekt Red i The Witcher 3 – y gêm byd-agored gorau hyd heddiw, mae’n siŵr gen i. Y pecyn cyflawn, efo’r profiad chwarae, y graffeg, y gerddoriaeth a’r ysgrifennu yn uno’n berffaith i greu rhywbeth gwirioneddol fythgofiadwy. Fel nofel ffantasi swmpus, ar ffurf gêm. Ac mae pawb yn caru rheini.
Wel… dwi’n eu caru nhw, o leia’. Peidiwch â ‘marnu i.
Allwn ni ddisgwyl mwy o’r un peth, am wn i, ond mewn bud ffuglen wyddonol yn seiliedig ar y gêm chwarae rôl o’r 80au, Cyberpunk 2020.
Ac efo’r stori a’r profiad wedi ei fireinio yn ymhellach fyth? Ydi hynny hyd yn oed yn bosib?
Amser a ddengys…
Sekiro: Shadows Die Twice
Efo Demon’s Souls, Dark Souls 1 – 3, a Bloodborne, mae From Software wedi creu genre newydd: y Soulslike. Gemau antur, yn y trydydd person, eithriadol o anodd, efo marwolaeth yn rhan anatod o’r profiad, sydd wedi creu dilyniant cwlt, i ddweud y lleiaf.
Mae ‘na gant a mil o ddilynwyr wedi ‘benthyg’ y fformiwla. Mae Nioh, The Surge, Salt and Sanctuary, a Lords of the Fallen ymysg y mwya’ amlwg, ond mae elfennau o’r gemau yma i’w cael ym mhob un twll a chornel erbyn hyn.
Mis Mawrth, mae’r meistri yn ôl, i ddangos i bawb arall sut mae gwneud petha. From Sofware sydd y tu ôl i Sekiro – ond nid copi syml o’r fformiwla gyfarwydd allwn ni ddisgwyl fan hyn. Yr un math o ymladd llyfn, a’r un lefel o galetwch, ond mae ‘na hefyd ffordd wahanol o addasu eich cymeriad, mwy o bwyslais ar stori amlwg, a lefelau mwy agored.
Dal am fod yn blwmin’ briliant, cofiwch.
The Last of Us: Part 2
‘Dan ni ddim yn siŵr ydi hon allan flwyddyn yma chwaith, ond mae’r lefel o heip mor uchel, does dim posib bod y datblygwyr, Naughty Dog, am ein cadw i ddisgwyl lot hirach?
Does dim rhaid i fi ategu pa mor wych oedd The Last of Us. Os oes gan fyd y gemau ei fersiwn o’r Godfather, dyna oedd o. Profiad tynn, efo’r stori a’r chwarae yn uno’n berffaith, a diweddglo sy’n gwneud i chi awchu am fwy.
A dyma ni o’r diwedd. Gawn ni i gyd ddarganfod be ddigwyddodd i Joel ac Ellie… ac ydi’r byd wedi parhau i suddo i mewn i apocalyps hunllefus yn llawn y meirw byw? Mae’n siŵr bod hynny’n bwysig hefyd.
Paratowch eich hun. Mae pinacl gemau storïol am dyfu hyn yn oed yn uwch.
The Settlers
Dreuliais i gymaint o oriau – dyddiau – dedwydd yn fy mhlentyndod yn chwarae The Settlers ar yr Amiga. Gêm strategaeth, arbennig o heddychlon, yn canolbwyntio mwy ar adeiladu pentre bach neis nac ymladd efo pawb a phopeth.
Er, mae ‘na ymladd yma. Gêm ydi hi, wedi’r cyfan.
Mae ‘na sawl dilyniant wedi bod ers hynny, â minnau wedi tincro efo ambell un, ond dydi’r un ohonyn nhw wedi cyrraedd hud a naws y cynta’.
Bellach, efo UbiSoft yn gwneud reboot llawn, y gobaith yw mai dyma’r gêm fydd yn codi’r gyfres o farw’n fyw. Os ydych chi’n chwilio amdana i ar bnawn Sul yn 2019, felly, fydda i’n lordio hi dros fy mhentre fy hun, yn gytûn i gyd… cyn dechra rhegi ar y sgrîn achos bod ‘na ddim digon o ff***** bren.
Animal Crossing
Dwi wedi gadael yr un gora’ tan ola’.
Does ‘na ddim trelyr ar gyfer yr Animal Crossing newydd, ar y Switch. Dim lluniau o’r gêm, hyd yn oed. Ond mae’r fformat yn siwtio’r system mor berffaith, does dim ffordd fydd hon yn medru methu.
Allwn ni ddim disgwyl unrhyw beth cwbwl newydd, mae’n siŵr gen i. Yr un ydi patrwm Animal Crossing bob tro, fwy neu lai: symud i bentre newydd, gwneud ffrindiau efo’r anifeiliaid bach ciwt sy’n byw yno, a threulio eich dyddiau’n pysgota, hel ffrwythau a palu am ffosiliau er mwyn talu eich morgais enfawr, cael tŷ mwy (a mwy, a mwy), a gwella’r dre.
Ond mae hi wedi bod mor hir ers y gêm diwetha’ yn y gyfres. Saith mlynedd, i fod yn benodol. (Na, dydi’r rhei ar y Wii U a ffonau symudol ddim yn cyfri.) Dwi’n barod i fynd drwy’r profiad cyfarwydd ‘na unwaith eto.
Mwy na pharod.
Dwisio hwn rŵan.
***
Mae ‘na gymaint, gymaint mwy o stwff ar y ffordd, wrth gwrs. Oes gennych chi unrhyw gêm ‘dach chi’n edrych ymlaen ati’n arbennig?
Animal Crossing. Animal Crossing. Animal Crossing,
Rhowch wybod yn y…
Animal Crossing.
… sylwadau.