gan Elidir Jones
Mae ‘na lot o bethau allwn i ddweud am y gêm fwrdd Fury of Dracula.
Y ffaith bod y gêm yn cymryd ffurf dilyniant answyddogol i’r nofel wreiddiol, efo Van Helsing, Lord Godalming, John Seward a Mina Murray yn mynd ar drywydd Draciwla, y dyn ei hun, sydd wedi codi o farw’n fyw.
Bod y gêm – yn anarferol ymysg gemau bwrdd heddiw – wedi bod o gwmpas am gyfnod hir. Ers 1987, i fod yn berffaith gywir, ac wedi symud o berchnogaeth Games Workshop, i Fantasy Flight Games, ac yn ôl eto, efo fersiwn newydd – y pedwerydd cynhyrchiad – newydd ei gyhoeddi.
Y bydd un chwaraewr yn cymryd rhan Draciwla, a’r gweddill yn rhannu baich y cymeriadau eraill i gyd, gan greu deinamig unochrog, gelyniaethus rhwng chwaraewyr.
Fyswn i’n medru dweud hyn i gyd. Ond wna i ddim boddran. Achos mae ‘na un peth am Fury of Dracula sy’n rhaid i chi wybod cyn hyn i gyd. Rhywbeth hollbwysig. Bythgofiadwy.
Mae Abertawe yn y gêm.
Go-iawn.
Ydi, mae o lle mae Caerdydd i fod ar y map. Ond, mewn byd lle mae Pitching In yn bodoli, dwi’m yn meddwl bod hynny’n rhy ffôl.
Dyna Abertawe. Aber – blwmin’ – Tawe. Mewn gêm fwrdd! Cartref Catherine Zeta-Jones… Rhodri Owen…
… ambell un arall, mae’n siŵr.
Ac yn y gêm yma, mae Draciwla – Draciwla! – yn medru gwneud ei gartref yno hefyd. Am gyfnod, o leia’.
Achos pwrpas Draciwla ydi gwneud ei ffordd o amgylch map o Ewrop, yn defnyddio cardiau i symud yn llechwraidd o leoliad i leoliad, yr helwyr yn gwneud eu gorau i’w ddarganfod. Os ydi Draciwla yn marw, mae’r helwyr yn ennill. Yn amlwg. Ond, os ydi Draciwla yn byw yn ddigon hir, ac yn llwyddo i ymestyn ei ddylanwad dros y cyfandir – wrth drechu helwyr a chuddio fampirod eraill o amgylch y lle – mae’n fuddugol, ac oes newydd o dywyllwch yn lledu ar draws y byd.
Pob lwc.
Fe wnaeth criw f8 chwarae Fury of Dracula am y tro cynta nos Sul. Neu, i fod yn berffaith gywir, rhwng pedwar y prynhawn ac wyth y nos. Dydi hon ddim yn gêm fer.
Roddon ni gerddoriaeth sbwci ar Spotify – mae ‘na restr chwarae arbennig ar gyfer y pwrpas yma’n union – a chychwyn arni. Fel rhywun gafodd ei magu ar hen ffilmiau Universal Horror, roedd y wraig yn mynnu chwarae rhan Draciwla. Yn ei herbyn? Daf a fi.
Be all fynd o’i le?
Ciw oriau o Draciwla’n rhedeg rownd y map, footloose and fancy-free, efo pedwar o helwyr amaturaidd ofnadwy yn dilyn. Bob tro ddaethon ni’n agos i ddal y gwalch, llithrodd Draciwla drwy ein gafael.
Aeth sbel go hir heibio cyn i ni wneud unrhyw ymladd, hyd yn oed. Yn y man, ar ôl ryw ddwy awr neu fwy, dyma Lord Godalming yn gwynebu un o’r fampirod lleia’ peryglus roedd gan Draciwla i’w gynnig… a bron â marw yn y broses.
Erbyn diwedd y gêm, roedden ni wedi llwyddo cornelu Draciwla – fwy neu lai – yn nwyrain Ewrop. Y rhwyd yn dechrau cau, o’r diwedd. Ond roedd hi’n rhy hwyr. Wrth i’r gêm barhau, mae dylanwad Draciwla yn tyfu’n gryfach ac yn gryfach. Mae ‘na gyfyngiad amser, o fath, i unrhyw fuddugoliaeth. Ac erbyn hynny, roedd tywysog y tywyllwch jest yn rhy bwerus.
Yn ninas Varna, ar arfordir dwyreiniol Bwlgaria, daeth popeth i ben, gyda Draciwla yn fuddugol, a phawb arall wedi gwneud… lot o ddim byd, i ddeud y gwir.
Mae Fury of Dracula yn gêm o ddau hanner. Dydi’r broses chwarae ei hun ddim yr un peth rhwng y ddwy ochr, efo’r “ochr ddrwg” a’r “ochr dda” yn chwarae cardiau ac yn gwneud symudiadau mewn ffyrdd gwahanol iawn i’w gilydd. Fel rheol, fe fydd yr helwyr yn chwarae ddwywaith i bob un o symudiadau Draciwla.
Ro’n i’n poeni, cyn cychwyn, bod profiad Draciwla yn mynd i fod fymryn yn unig a diflas, fel canlyniad. Ond yn ôl ein trafodaeth ar ôl y gêm…
… ac mae ‘na lot o drafodaeth ar ôl gêm, efo pawb yn trin ac yn trafod be aeth o’i le, a phryd, a pha mor agos oedd pethau at newid yn llwyr…
… Draciwla gafodd yr amser gorau allan o bawb. Oherwydd mai’r chwaraewr yna ydi’r unig un sy’n gweld popeth sy’n digwydd ar y bwrdd, ar bob adeg, ac yn medru ymfalchïo pan maen nhw’n dianc am y degfed gwaith. Ymfalchïo’n dawel, fel bod neb arall yn gwybod pa mor agos oedden nhw at lwyddo.
Mae ‘na ddirgelwch mawr yn gwynebu pawb arall, 99% o’r amser. A thrwy hynny, mae ‘na rwystredigaeth yn dilyn, yn reit naturiol. Mae colli’r trywydd yn llwyr a gorfod dechrau dod o hyd i Draciwla o’r newydd ymysg y teimladau mwyaf anobeithiol mewn gemau bwrdd.
Ond, unrhyw bryd i ni brofi gêm fwrdd newydd am y tro cynta’, mae ‘na broses o ddysgu sut mae’r systemau’n gweithio, reslo efo’r rheolau, a gwneud ambell i gamgymeriad ar hyd y ffordd. Mae hynny’n arbennig o wir am gêm efo set o reolau digon crynshi fel Fury of Dracula.
Hefyd, mae hon yn gêm lle mae’r broses o gydweithio rhwng helwyr – trin a thrafod, a phenderfynu ar y symudiad nesa’ – yn hollbwysig. Sydd dipyn bach yn anoddach pan does gan yr un o’r helwyr syniad be maen nhw’n wneud.
Profiad cymysg ar ôl y sesiwn gynta, felly, ond dwi’n dal i edrych ymlaen i weld sut mae Fury of Dracula yn datblygu wrth i ni ddysgu sut mae cardiau a mecanweithiau’r gêm yn gweithio’n iawn. Ac, os ydych chi’n hoff o arswyd gothig yn eich gemau bwrdd, does ‘na ddim lot o brofiadau mwy atmosfferig i’w cael. Yn enwedig efo’r trac sain iawn yn y cefndir.
Tro nesa, ella mai fi fydd yn chwarae rôl Draciwla. Ella ro i adroddiad arall i chi unwaith i fi goncro’r byd.
Ond mae gen i un anfantais fawr yn fy ngwynebu. Wedi’r cwbwl, mae pawb yn gwybod lle fydda i’n cuddio…