Far Cry 5: Y Gêm Wnaeth Bron Fy Nhorri

gan Elidir Jones

Dwi’n hoff o orffen y gemau dwi’n eu cychwyn. Nid pawb sy’n gwneud, ond wna i frwydro i orffen gêm, hyd yn oed os dwi’n casau’r profiad. Ella bod gen i broblem. Dwn i ddim.

Wnes i brynu Far Cry 5 ar y diwrnod ddaeth y gêm allan. Mawrth 27, 2018. A ddoe – Ionawr 31, 2019 – wnes i orffen. Chwaraeais i ddim yr un gêm arall ar y Playstation 4 yn ystod y cyfnod yna.

Oes. Mae gen i’n sicr broblem.

Mae ‘na sawl rheswm am hyn.

  • Dwi ddim yn hoff o adael pethau ar eu hanner.
  • Dwi wedi bod yn dod ymlaen yn lot gwell efo’r Switch, thanciw.
  • Roedd gen i briodas i’w threfnu, yn enw popeth sanctaidd. A roedd o’n briliant, diolch am ofyn.

Ond y rheswm mwyaf ydi bod Far Cry 5, yn fy marn broffesiynol i, fymryn bach yn rybish.

Gawn ni ddechra efo gwleidyddiaeth y peth.

Gafodd y gêm ei rhyddhau yn ystod cyfnod tanllyd yn hanes y byd. Roedd Donald Trump wedi dod yn arlywydd ddeufis ynghynt, wedi ei sgubo i rym gan don o ddynion gwyn blin, eu credoau honco wedi eu hatgyferthnu gan ‘fudiadau’ eithafol fel Gamergate.

Ac yn sydyn reit, dyma gêm oedd yn gaddo taclo’r holl bynciau llosg ‘ma. Ac nid gêm indie, arti-ffarti, o ddiddordeb yn unig i bobol fel fi, sy’n meddwl ein bod nhw’n glyfrach nac ydyn nhw. Gêm fawr, AAA, wedi ei chyhoeddi gan Ubisoft, o bawb. Ubisoft! Y cwmni wrthododd roi cymeriad benywaidd yn Assassin’s Creed Unity oherwydd bod o’n golygu gormod o waith animeiddio.

Dyma gêm sy’n sticio eich cymeriad yng nghanol Montana, yn delio efo cwlt efo arweinydd carismataidd wrth y llyw, oedd yn bygwth rhwygo’r Unol Daleithiau’n ddarnau. Swnio’n gyfarwydd?

far-cry-5-1522348931238_1280w

Ddylien ni wedi gwybod o’r cychwyn bod gêm AAA, yn cynnig ymdriniaeth gywrain o wleidyddiaeth, yn beth rhy berffaith i fodoli. Mae Far Cry 5 yn para degau o oriau, yn mynd â’ch cymeriad ar draws map anferth, yn llawn cymeriadau lliwgar…

… ac yn y broses, mae’n dweud bygyr-ôl am unrhywbeth.

Dydi’r cwlt ddim yn adlewyrchu unrhyw un sydd erioed wedi bodoli yn y byd go-iawn. Maen nhw’n dilyn y rhannau mwya’ tanllyd o’r Beibl, dipyn bach fel y Westboro Baptist Church neu rywbeth tebyg… ond yn aml-ethnig ac yn croesawu dynion a merched i mewn i’w rhengoedd. Felly nid fel y Westboro Baptist Church o gwbwl. Mae’n dod drosodd weithiau fel comiwn o hipis o’r 60au… ond un sy’n ateb bob problem drwy saethu ato fo efo AK47, a – dwi’n cymryd – yn coelio pob math o bethau gwallgo’, adain-dde. Dydyn ni byth yn clywed be ydyn nhw, serch hynny.

Mae o fel bod Ubisoft wedi cychwyn efo syniad da, gwirioneddol gyffrous. Ond, rhywle ar hyd y daith, wedi cachgïo a gwneud pa bynnag fetaffor oedd gennyn nhw ar y cychwyn mor niwlog fel bod o ddim yn fetaffor nac yn drosiad o unrhyw fath erbyn gorffen.

Ond mae ‘na broblemau eraill hefyd. O, oes.

Mae’r profiad chwarae jest mor undonog. Crwydro o un lleoliad i’r llall, derbyn ordors gan gymeriadau sydd byth – yn – stopio – siarad, a wedyn mynd off ac ufuddhau iddyn nhw. 80% o’r amser, fydd hynny’n golygu cyrcydu uwchben gwersyll yn llawn gelynion, yn trio eu lladd nhw i gyd o’r pellter cyn i un eich sbotio chi, codi larwm, a denu degau o elynion eraill.

Mae hynny’n digwydd bob tro, gyda llaw. Os ‘dach chi’n ffans o gemau stealth fel Hitman neu Dishonored, arhoswch yn glir.

Dwi’n cofio, ar fy noson gynta efo’r gêm, fy ngwraig (cariad, bryd hynny) yn gofyn i mi pam fy mod i’n ailchwarae’r un darn, dro ar ôl tro. Do’n i ddim, wrth gwrs. Dim ond edrych felly oedd o. Ond yn teimlo yn union ‘run peth.

Rŵan dychmygwch deimlo felly am flwyddyn gyfan. Blecch.

Mae ‘na fwy o bethau allwn ni sôn amdanyn nhw. Y bygs – fel y tro ‘na ddilynais i un cymeriad ar hyd y map am dri chwarter awr cyn sylweddoli bod y gêm wedi torri, a’i fod o’n mynd rownd mewn cylchoedd.

Roedd hyn ar ôl i’r holl batshys gael eu rhyddhau, gyda llaw.

Wedyn dyna’r ffaith bod y gêm byd-agored, bob hyn a hyn, jest yn stopio, wrth i gymeriadau eich herwgipio chi (ar ôl cael sgwrs braf, di-bwynt, wrth gwrs) a’ch gorfodi i chwarae rhannau sy’n teimlo mwy fel stondin saethu. Fel fersiwn gwannach, anemig o Virtua Cop.

Ych. Fyswn i yn gallu mynd ymlaen, ond dwi wedi wastio bron i flwyddyn ar y gêm ‘ma’n barod, a dwi isio i bopeth ddod i ben rŵan, diolch yn fawr.

Ar ôl gorffen, dreuliais i tua hanner awr efo Thronebreakera chael mwy allan o’r profiad yn y cyfnod byr yna na wnes i efo Far Cry 5 dros ddeng mis.

Dwi’n licio gemau fel’na, ‘dach chi’n gweld. A roguelikes. Zelda. Dark Souls. A gemau platfform retro. Mae hynny’n ddigon. Does dim rhaid i fi foddran efo stwff fel Far Cry dim mwy. Mae bywyd yn rhy fyr.

Dwi’n edrych ‘mlaen at brofi llwyth o bethau gwahanol dros y misoedd nesa’, rŵan bod yr hunllef ‘ma drosodd. Gewch chi ddarllen am bopeth yma, wrth gwrs.

Ac ymddiheuriadau, gyda llaw, am fod yn dawel yn ddiweddar. Dwi wedi bod yn gweithio ar lyfr ffantasi i bobol ifanc, efo’r arlunydd Huw Aaron, sy’n ffit perffaith ar gyfer ein gwefan bach ni. Disgwyliwch lot mwy am y prosiect bach yna ar f8 dros y misoedd i ddod…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s