Gemau Diweddar, Rhan 18

gan Elidir Jones

Mae hi wedi bod yn rhy hir ers i fi redeg drwy’r gemau dwi wedi bod yn eu chwarae’n ddiweddar. Naw mis, i fod yn benodol.

Sori.

Nid ‘mod i ddim wedi bod yn brysur yn chwarae. Ond dwi wedi bod yn gwneud lot mwy o neidio o brofiad i brofiad, heb drafferthu i orffen lot. Mae gen i lwyth o stwff ar ei hanner, felly gobeithio fydd yr un nesa o rhein ddim mor hir yn cyrraedd.

Celeste (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2018)

Celeste

Wnes i drafod Celeste ar un o bodlediadau f8 (fan hyn), felly cerwch i wrando ar hwnna os ‘dach chi isio. Ac oes, mae angen i ni atgyfodi’r podlediad. Diolch am atgoffa fi.

A hefyd wedi gwneud cofnod cyfan amdani. Fan hyn.

Ond, os ‘dach chi’n rhy ddiog i glicio ar yr un o’r lincs yna – dyma gêm hyfryd, ond eithriadol o anodd, yn steil rhywbeth fel Super Meat Boy, ond efo lot mwy o oomph artistig.

Fyddwch chi’n chwarae fel merch ifanc sy’n trio dringo’r mynydd Celeste, sy’n datblygu’n ddigon buan i fod yn fetaffor am ei iselder hi ei hun. Ydi, mae’r profiad chwarae yn wych, ond mae’r ysgrifennu’n well byth. Dydi’r metaffor byth yn rhy amlwg nac yn rhy gynnil, a’r cast o gymeriadau lliwgar ‘dach chi’n dod ar eu traws ar y daith yn ategu’r prif themâu yn berffaith. Nid jest ysgrifennu da a chymharu efo gemau eraill, ond ysgrifennu da, ffwl stop. Dyna, heb os, un o’r pethau pwysicaf i fi mewn gêm – hyd yn oed mewn gêm blatfform eitha traddodiadol fel hon.

Perl fach ydi Celeste. Dwi’n argymell y profiad yn llwyr.

Vs. Super Mario Bros. (Arcêd / Switch, 1986)

Ffaith: yn yr 80au, doedd datblygwyr Siapan ddim yn meddwl bod pobol y gorllewin yn medru chwarae gemau. O gwbwl.

Mae lot o bobol yn gwybod am Super Mario Bros: The Lost Levels (neu Super Mario Bros. 2 yn Siapan). Dilyniant i’r Super Mario Bros. cynta, gafodd ddim ei ryddhau yn y gorllewin tan y 90au achos bod y gêm yn “rhy anodd”.

A wedyn dyna Vs. Super Mario Bros. – mashup o’r ddwy gêm, ddaeth i arcêds Siapan yn 1986. Ac i’r gorllewin, ar y Switch… 32 o flynyddoedd wedyn.

Dydi’r profiad ddim yn un mor wreiddiol fel ei fod werth yr holl ddisgwyl. Os ydych chi’n gyfarwydd efo yr un o’r ddwy gêm (a pwy sy’ ddim?), fyddwch chi’n gwybod be sy’n cael ei gynnig fan hyn. Ond mae o’n fwy o Mario. Sydd byth yn beth drwg.

Super Bomberman R (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2017)

Blecch.

Gêm gafodd ei rhyddhau ar ddiwrnod cynta’r Switch… ac mae’r ffaith ‘mod i wedi ei gorffen o’r diwedd chydig fisoedd yn ôl yn profi cyn lleied wnes i fwynhau’r profiad.

Wnes i ddim chwarae lot efo pobol eraill, lle mae gwir enaid Bomberman, wrth gwrs. Ond alla i ddim dweud bod y profiad i un chwaraewr wedi fy nghyffroi lot.

Mae’r rhan fwya o’r ymgyrch yn ddigon confensiynol. Ond yna ‘dach chi’n cyrraedd y bosys. Gelynion anferth sy’n llwyddo, rhywsut, i osgoi 99% o’ch ymosodiadau. Mae eu brifo nhw’n dibynnu ar lwc pur. A gan bod gennych chi nifer anfeidrol o fywydau, mae un ymdrech i’w curo nhw yn para oesoedd. Munudau ar ben munudau o redeg rownd, taflu bomiau i bob cyfeiriad… a gobeithio.

Ar ben hynny, mae’r darnau bach anime rhwng penodau yn arbennig o annifyr a phlentynnaidd. Fel y rhan fwya’ o anime, thgwrs.

Ych. Fel gêm i lawnsio system, mae ‘na rai gwaeth wedi bod. Ond un sy’n sicr ddim werth eich amser erbyn hyn.

Slay The Spire (PC, 2018)

Wna i ddim sôn gormod am Slay The Spire fan hyn, achos dwi’n bwriadu gwneud cofnod llawnach am y gêm o fewn y dyddiau / wythnosau nesa.

Ond, am y tro, mae’n ddigon i ddweud mai hon ydi fy hoff gêm o’r flwyddyn, yn cyfuno brwydro efo cardiau ac elfennau roguelike – dau o fy hoff bethau mewn gemau, siŵr o fod.

Dim ond allan ar y PC ar hyn o bryd, ond mae ‘na fersiwn Switch ar y ffordd. Alla i ddim dychmygu platfform sy’n ffitio’r profiad yn well. Mwy am Slay The Spire yn fuan iawn…

Bloodstained: Curse Of The Moon (PC / PS4 / Xbox One / Switch / 3DS / Vita, 2018)

Gêm fach syml, sy’n efelychu Castlevania ar y NES, wedi ei datblygu’n wreiddiol i hysbysebu’r profiad llawnach, Bloodstained: Ritual Of The Night, sydd eto i ddod allan.

Gêm fer, felly. Ond un sy’n haeddu’ch sylw, beth bynnag, yn enwedig os wnaethoch chi dyfu fyny yn yr oes 8-bit. Mae Curse Of The Moon yn efelychu gemau o’r adeg yna’n berffaith – ond efo dipyn bach mwy o dacteg a gwaith meddwl, sy’n dod o’r 30-ish mlynedd o ddatblygu gemau sydd wedi bod ers hynny.

Mae ‘na ddewis o bedwar cymeriad, pob un efo’i bwerau gwahanol sy’n siwtio rhannau gwahanol o’r lefelau. Mae’r her yn dod o ddewis ym mha drefn i ddefnyddio’r cymeriadau – achos os oes un yn marw, allwch chi ddim ei ddefnyddio eto tan y “rownd” nesa o fywydau.

Tip: anwybyddwch yr hen ddyn. Mae o’n rybish.

Dim byd sy’n mynd i roi’r byd ar dân fan hyn, ond mae’n brofiad bach digon teidi, os ydach chi wedi ‘laru ar gemau enfawr fel Red Dead neu Fallout 76.

Dead Cells (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2018)

Wnes i ddim cyffwrdd Dead Cells pan gafodd ei ryddhau eleni, achos bod y profiad yn edrych yn weddol debyg i Hollow Knight – gêm o’n i wedi ei phrofi (ond ddim wedi ei gorffen) yn gynharach yn y flwyddyn.

Troi allan ‘mod i wedi mwynhau Dead Cells lot mwy.

Profiad “Metroidvania” sydd yn y ddwy gêm – fyddwch chi’n crwydro byd 2D, yn datgloi pwerau ac offer newydd er mwyn agor rhannau newydd ohono, a churo unrhyw fosys sy’n eich herio ar hyd y daith. Y gwahaniaeth mawr ydi bod Dead Cells yn roguelike – bob tro ‘dach chi’n marw, mae’r byd yn ffurfio o’r newydd eto. Does dim rhaid i chi gofio lle mae bob un llwybr yn mynd, sef un o’r rhesymau mawr dwi erioed wedi clicio efo gemau fel hyn. Yr unig beth sy’n rhaid cofio ydi map bras y gêm gyfan, sy’n ddigon hawdd gwneud.

Mae’n gallu bod yn rhwystredig ar adegau – yn enwedig pan mae cyrraedd y bos ola yn medru cymryd awr a hanner, a ‘dach chi’n methu ar y funud ola. Ond mae datgloi arfau newydd a dod i ddeall y systemau yn parhau i fod yn foddhaol, hyd yn oed os ydi’r profiad chwarae yn gallu bod fymryn yn undonog.

Ar y cyfan, mae Dead Cells yn parhau i fod ymysg fy hoff gemau o’r flwyddyn, er ambell i wendid.

Ond i glywed mwy am fy hoff brofiad o’r flwyddyn gyfan, a pham dwi wedi disgyn mewn cariad efo Slay The Spire, gwyliwch y gofod hwn…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s