Pod Wyth #10: “Nid Aur Yw Popeth Retro”

gan f8

Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu’r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo’r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi.

Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be ‘dan ni’n ei ddweud yn y bennod):

– Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni’n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau ‘battle royale’.

– Yn y newyddion: blwyddyn aruthrol gyntaf y Nintendo Switch, newidiadau ar y ffordd i’r PS4, ac Assassin’s Creed yn mynd yn addysgiadol.

– Gemau bwrdd! Ein hoff beth. Yn y byd. Clywch ein hargraffiadau o Inis, Kingdomino, Hanamikoji. Wel, ai nefar.

– Be ydi ystyr ‘retro’? Daf sy’n trio esbonio, ac Elidir yn saethu tyllau yn ei ddadl.

– Yr ‘ogia’n trafod y dadlau ynghylch Kingdom Come: Deliverance, Kickstarter, a mudiad Gamergate. Pethau’n mynd bach yn dywyll, bois.

Gwrandewch fan hyn:

Neu ar iTunes, Stitcher, a TuneIn.

Mwynhewch, a disgwyliwch mwy o bodlediadau, bach a mawr, ar y ffordd yn fuan!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s