Celeste, a’r Grefft o Ddweud Stori

gan Elidir Jones

Dwi wastad wedi bangio’r drwm pan mae’n dod at allu gemau i ddweud stori. Bron nad alla i ddweud bod y sgript yn bwysicach i fi na’r profiad chwarae ei hun. Un rheswm pam nad ydw i erioed cweit wedi clicio efo GTA.

Nid bod angen naratif gref bob tro, wrth gwrs. Mae Tetris yn gweithio’n iawn heb unrhyw fath o stori yn y byd.

(Er, mae rhai wedi trio ychwanegu un. O diar.)

Hyd yn hyn, straeon mwy sinematig sydd wedi denu fy sylw ac edmygedd yn fwy na dim. Y gemau ‘na sy’n dweud yr un math o stori fyddech chi’n disgwyl ei gweld ar y sgrîn fawr neu mewn drama glosi gan HBO.

The Last Of Us, er enghraifft. Os oes gan fyd y gemau ei fersiwn ei hun o The Godfather, dyma hi. (Fwy neu lai achos bod diweddglo’r gêm wedi ei ddwyn yn uniongyrchol o’r ffilm gyntaf.)

Hyd heddiw, cyfres gyntaf The Walking Dead gan Telltale ydi’r enghraifft orau o’r gêm antur episodig. Mae’n sicr yn well na’r gyfres deledu. Yn enwedig y stwff diweddar. Wff.

A dyna The Witcher 3 wedyn, sy’n teimlo, wrth chwarae, fel eich bod chi’n suddo’n ddwfn i mewn i gadair esmwyth efo nofel ffantasi maint bricsen yn eich dwylo. Gêm sy’n llwyddo i jyglo dwsinau o straeon, bach a mawr, a gwneud i chi falio am bob un. Dydi’r un gêm byd-agored arall wedi dod yn agos at y peth.

I gyd yn straeon da, ond yr un yn arbennig o wreiddiol, nac yn cael eu hadrodd mewn ffordd newydd. Ond rhag ofn i ni anghofio, mae ‘na rai gemau sy’n dweud stori mewn ffordd na all unrhyw gyfrwng arall wneud.

Cafodd Celeste ei ryddhau fis diwethaf, ar gael bellach ar fwy neu lai bob un system. Yn ei hanfod, mae’n gêm blatfform retro, ac yn eithriadol o anodd, yn teimlo fel croes rhwng Mega Man Super Meat Boy.

Mae’n chwarae’n wych, yn gwneud y gorau o’r nifer bach o symudiadau sydd gennych chi, ac yn un o gemau platfform mwyaf tynn y blynyddoedd diwethaf.

Ond er mor dda mae’n chwarae, mae’r ffordd mae Celeste yn adrodd stori yn well byth.

Mae’r prif gymeriad, Madeline, yn dioddef o iselder. Er mwyn ceisio gwella, mae hi’n cychwyn ar antur i fyny mynydd anferth Celeste, yn darganfod ei hun – a chast o gymeriadau lliwgar – ar hyd y daith. Mae un ohonyn nhw’n fersiwn tywyll o Madeline, sy’n byw mewn drych, yn symbolaidd o’i holl ddiffyg hyder a hunan-gasineb, ac yn pendilio rhwng bod yn elyn ac yn ffrind wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

07

Mae ‘na stori draddodiadol yn cael ei adrodd yma – ar un pwynt, mae dau gymeriad yn eistedd o gwmpas tân ac yn trafod y plot am gyfnod lot rhy hir, gan arafu’r peth eitha dipyn. Ond ar y cyfan, mae’r agweddau dyfnach o’r stori yn cael eu hamlygu drwy’r profiad chwarae.

Cymerwch eich bywydau, er enghraifft. Os ydych chi’n chwarae fel fi, fe fyddwch chi’n marw cannoedd o weithiau cyn clirio pob pennod o’r stori. Dwi’n gwybod hyn oherwydd bod y gêm yn nodi, ar ddiwedd bob pennod, faint yn union o weithiau mae Madeline wedi plymio oddi ar ddibyn, neu grasho i mewn i elyn. Fe gyrhaeddais i 1,383 o farwolaethau erbyn y diwedd!

Ond tra y byddai hwn yn arwydd o fethiant mewn gêm draddodiadol, mae Celeste yn eich hannog i ymfalchïo yn y peth. Dyma gêm sy’n eich dysgu – fel Yoda yn The Last Jedi – bod angen i chi brofi methiant er mwyn llwyddo. Bod methiant yn beth da, a bod dim angen cywilyddio am y peth. Mai methiant ydi’r athro gorau sy’n bodoli.

Mae ‘na adegau ble fydd Celeste yn gofyn i chi gymryd naid ddall oddi ar ochr dibyn, a gobeithio bod ‘na blatfform yn disgwyl amdanoch chi ar yr ochr draw. Dyma un o brif bechodau’r gêm blatfform, oedd yn annifyr a hen-ffasiwn nôl yn nyddiau’r Super Nintendo, hyd yn oed. Yma, mae’n dod yn weithred symbolaidd. Trystiwch yn eich hun, mae’r gêm yn ei ddweud. Fydd popeth yn iawn.

Tua hanner ffordd drwy’r profiad, fe fyddwch chi’n dod ar draws cymeriad, hefyd yn dioddef o iselder, sy’n diferu cymylau du llythrennol. Mae’r cymylau wedyn yn dod yn elynion – yn rwystrau mae’n rhaid i chi lamu drostyn nhw ar eich taith. Dyma gêm sy’n llawn symboliaeth, ac yn gwneud pethau fyddai’n amhosib mewn unrhyw gyfrwng arall.

Does neb yn dadlau na all llun adrodd stori heb orfod defnyddio geiriau, na darn o gerddoriaeth glasurol. Ond am ryw reswm, rydym ni’n dal i orfod amddiffyn gemau fel cyfrwng storïol.

Mae Celeste yn mynd rhan o’r ffordd i wyrdroi’r rhagfarn yna. Profiad byr, ond eithriadol o deimladwy, sy’n cymryd confensiynau rydyn ni wedi hen arfer efo nhw, a’u hail-ddiffinio.

Mae’n gynnar yn y flwyddyn, ond dwi’n siŵr y bydd Celeste yn dal i gael ei thrafod ar ddiwedd 2018 – a thu hwnt.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s