gan Fideo Wyth
Helo…?
Helo…?
Y wefan yn dal i fynd. Gwd. Bach o lwch, ond allwn ni sortio hynny. Mae ‘na bry cop anferth wedi gwneud ei gartref yn y gornel…
… dwi’n meddwl wnawn ni adael o lonydd.
Croeso nôl, ac ymddiheuriadau mawr bod Fideo Wyth wedi bod yn segur am rai misoedd. Mae 2018 wedi bod yn gyfnod eithriadol o brysur i ni, gan gynnwys digwyddiad bythgofiadwy – PRIODAS CYNTA’ FIDEO WYTH.
Na. Wnaeth Daf ac Elidir ddim priodi ei gilydd. Ond gafodd hwn ei chwarae ar y llawr dawns.
Roedd o’n imens.
Ta waeth. Wnawn ni atgyfodi f8 yn iawn wythnos nesa. Am y tro, ewch â’ch porwr draw at ein cyfri newydd ar Instagram, ble mae Daf, Elidir a Joe wedi bod yn rhoi gwybod be o fyd gemau a nyrdrwydd sydd wedi bod yn mynd â’u sylw’n ddiweddar.
Ond ar ffurf lluniau. Sy’n lot llai o drafferth na’r busnes sgwennu ‘ma.
Tanysgrifiwch, da chitha, a welwn ni chi wythnos nesa.
Gaddo.
Os nad oes gan y pry cop ‘na rwbath i’w ddweud am y peth…