gan Daf Prys . 08 Medi 2018
Yn hanesyddol ‘da ni’r Cymry ddim wedi bod yn dda iawn am godi ffwdan pan mae pethau yn troi yn ein erbyn. Pitw yw protestiadau hanesyddol (Pont Trefechan ’63 a Gwynfor Evans ’80) ond gan feddwl ein safle ymysg gwledydd eraill Ynysoedd Prydain, syfrdanol ydyw nad oes protest fawr bob blwyddyn. Mae pethau wedi newid yn ddiweddar dipyn bach efo sawl ohonom yn troi at trydar i ddatgan barn chwyrn ond ar y cyfan, distaw yw ein cân.
Yn fy marn i, addysg yw’r arf cryfaf sydd gan unrhyw berson i wella ei sefyllfa, ac mae hwnna’n cynnwys gwylio a gwrando ar sawl platfform, felly roeddwn yn glustiau a llygaid i gyd wrth i un o fy hoff unigolion, Beth LaPensée, postio stori newydd ar Facebook. Mae Beth yn artist, yn awdur ac yn datblygu gemau fideo ac hefyd efo chefndir bobloedd yr Annishinaabe o ble sydd nawr yr Unol Dalaethiau/Canada.

Gwahoddiad
Gwahoddwyd Beth yn ddiweddar i fod yn rhan o lyfr Women in Gaming: 100 Pioneers in Play. Yn arwynebol, gret! Clod haeddianol i unigolyn sydd wedi cael cryn effaith ar y diwydiant gemau fideo. Hynny yw, tan nes i ni ddysgu fod y gair Pioneer (Arloesydd) yn rhan o deitl y llyfr. Mae Pioneer yn air hyll iawn i bobloedd gwreiddiol y tirwedd enfawr yna. Mae’r gair yn cynrychioli elfen un-ochrog o’u hanes cythryblus, ac yn sicr nid yw’n adlewyrchu yr elfen ‘bositif’ sydd, i’n llygaid ni fel Ewropeaid, i’w weld yn amlwg.
Gwrthod
Gwrthododd Beth y gwahoddiad, a hawdd bydd wedi bod iddi rhedeg at facebook neu twitter yn sgrechian a pwyntio’r bys … ond … cychwyn sgwrs wnaeth hi efo’r cyhoeddwyr. Ei nôd oedd cynnal deialog ac ymgeisio addysgu. Nid yw’n gweithio bob tro ond ar yr adeg yma, oherwydd sgwrs Beth, wnaeth y cyhoeddwyr cychwyn symud tuag at teitl newydd i’w llyfr a disodli’r gair Pioneer am Professional.
Nid pob unigolyn sy’n fodlon sgwrsio wrth gwrs, a mae rhai yn ymosod gan ddal dîg am rhesymau gwahanol, ond trwy fynd at yr unigolion ac ymgeisio cyfathrebu gyntaf yn hytrach na chreu ffrithiant yna mae’n arferiad da er mwyn deddfu newid.
Arloesi
Ar nodyn olaf, mae’n gair Cymraeg am Pioneer yn ddiddorol yn y cyd-destun yma: arloesydd. Arloes yw’r gair am gwacter, ac i arloesi yw i fynd i fewn neu gadael gwacter (evacuate). Tybiwn efallai fod rhaid i ni feddwl am ein defnydd ni o’r gair heddiw – be ‘da chi’n feddwl?