gan Elidir Jones
Wel, wel, wel. Helo.
Mae wedi bod yn… *checio’r watsh* … ddeufis ers y cofnod diwetha. Glywsoch chi erioed y fath lol? Mae’n ddrwg gen i am hynny – staff f8 HQ wedi bod yn eithriadol o brysur efo gwahanol betha.
Ond doedd bosib ein bod ni am anwybyddu sioe gemau mwya’r flwyddyn?
Ydi, mae E3 2018 wedi mynd a dod. Cyfle i gyffroi’n lân dros gemau mawr (mawr, mawr) y blynyddoedd i ddod, cwyno bod yr un gêm ‘na roeddech chi wir isio ddim yna (helo Animal Crossing), a gwneud hwyl am ben y trueiniaid sy’n gwneud camgymeriadau ar lwyfan (helo Ubisoft).
Doedd hi ddim yn glasur o flwyddyn, dwi’m yn meddwl, ond mae ‘na ddigon i gnoi cil drosto.
Dyma wyth (wrth gwrs) o’r uchafbwyntiau…
The Elder Scrolls VI
Bethesda oedd enillwyr mawr E3 flwyddyn yma, yn fy marn i, efo llu o gyhoeddiadau’n dod â dŵr i’r dannedd. A’r mwyaf ohonyn nhw, heb os, oedd The Elder Scrolls VI – y dilyniant hir (hir, hir) ddisgwyliedig i Skyrim.
Cyhoeddiad mawr. Ond trelyr ddim cweit mor swmpus.
Ond digon i aros pryd. Digon i roi gwybod bod y gêm yn cael ei datblygu.
Skyrim, yn fwy nag unrhyw gêm arall, wnaeth fy ail-gyflwyno i gemau nôl yn 2011. Gobeithio y bydd Bethesda’n medru diweddaru ar y fformiwla – oedd braidd yn hen-ffasiwn bryd hynny, hyd yn oed – ac ailgynnau’r fflam.
Fus Ro Dah i chi.
Fus Ro Dah i bawb.
Fallout 76
Roeddwn i wedi cyffroi mwy am Fallout 4 nac am unrhyw gêm arall diweddar. A dyma ddilyniant – o fath – yn Fallout 76.
Tro ‘ma, mae’n gêm sydd ar-lein drwy’r amser, efo pobol go-iawn yn torri i mewn i’ch byd o bryd i’w gilydd. Nid dyna fy syniad i o’r profiad Fallout delfrydol. Ac mae’r syniad o daflu niwcs at chwaraewyr eraill, wili-nili, yn gwrthdroi pwynt y gyfres yn gyfangwbwl.
Ond… gawn ni fod yn onest. Fallout ydi o. Wna i chwarae hwn. Dwi’n ddyn gwan iawn.
Doom Eternal
Doom. Ond mwy ohono fo.
Allwch chi ddim dadlau efo hynny. Pan mae Bethesda’n hoelio fformiwla, maen nhw wir yn ei hoelio fo. Mwy o’r un peth, plis.
Cyberpunk 2077
Dim dadlau. The Witcher 3 ydi un o’r gemau gorau erioed. A dyma’r gêm mawr nesa gan y datblygwyr, CD Projekt Red, yn cael ei datgelu o’r diwedd.
Does dim posib y bydd Cyberpunk 2077 ddim yn briliant. Hyd yn oes os y byddwn ni’n colli presenoldeb y cymeriad mwya grympi mewn gemau, Geralt of Rivia.
Mae ‘na sbel i fynd tan bod hwn allan, yn dal i fod. Ond alla i ddisgwyl. Jest ei fod o cyn 2077…
Sekiro: Shadows Die Twice
Gan From Software, creawdwyr Dark Souls a Bloodborne, daw’r bennod nesa yn y gyfres lac yma. Yr un fformiwla’n union, ond efo ninjas a nonsens fel’na.
Mae’n swnio lot fel Nioh. Ond mae’r ffaith mai From Software sydd wrth y llyw yn rhoi sêl o safon i’r peth. A beth bynnag, doedd Nioh ddim yn ffôl, o bell ffordd. A dydi hi ddim fel bod ‘na ddilyniant ar y ffordd na dim byd.
Nioh 2
Wel, hel’s bels.
O, wel. Gorau po fwyaf, sbo.
Death Stranding
‘Dan ni dal ddim yn gwybod lot mwy am y gêm nesa gan Hideo Kojima, creawdwr Metal Gear Solid. Roedden ni’n gwybod yn barod ei bod yn serennu Norman Reedus o The Walking Dead, a Mads Mikkelsen. Ond rŵan ‘dan ni wedi gweld dipyn bach o glipiau sy’n edrych fel…
Dim syniad. Croes rhwng Metal Gear a Breath of the Wild, ond ar gyffuriau?
Penderfynwch chi. Dwi’n mynd am dro i glirio ‘mhen.
Super Smash Bros. Ultimate
Felly. Mae’r Switch yn concro’r byd ar y funud. Cyfle perffaith i Nintendo daro tra bod y haearn yn boeth, datgelu llwyth o gemau annisgwyl, wedyn neidio i mewn i bwll nofio llawn arian.
Ond na. Gawson ni jest dros 40 munud o fideo, a dros ei hanner ar un gêm roedden ni’n gwybod amdani’n barod.
Peidiwch byth â newid, Nintendo.
Peth da bod y gêm yna’n edrych yn ddigon teidi felly.
Mae Super Smash Bros. Ultimate yn cynnwys bob cymeriad sydd erioed wedi ymddangos yn y gyfres, ar ben un neu ddau o rai newydd, o gemau fel Metroid a Splatoon. Yn bygwth perffeithio’r fformiwla gafodd ei roi yn ei lle gynta yn nyddiau’r N64.
Ac allan cyn diwedd y flwyddyn. Go on ta, Nintendo. Gewch chi faddeuant tro ‘ma. Ond flwyddyn nesa, dwi isio Animal Crossing, neu fydd ‘na reiat.
A dyna ni. Roedd cymaint mwy i’r sioe na hynny, wrth gwrs – oedd ‘na uchafbwyntiau eraill i chi? Rhowch wybod yn y sylwadau, neu cerwch i chwilio amdanom ni ar Twitter neu Facebook.
…
Whiw. Roedd hwn yn hwyl. Wna i byth eich gadael chi am ddeufis eto. Gaddo.