Gemau Newydd: Ebrill 13 – 20

gan Elidir Jones

Ymddiheuriadau am y distawrwydd yma’n ddiweddar. Ond mae popeth wedi bod yn digwydd ar unwaith. Swyddi newydd, trefnu priodas…

… dim un rhwng fi a Daf. Dim eto, beth bynnag…

… a pob math o stwff fel’na.

Ond dydi gemau byth yn cymryd brêc. Mae ‘na wastad fwy ohonyn nhw. Does ‘na ddim dianc. Dydi’r don byth – byth – yn stopio.

Hwyl a sbri. Dyma chwech sy’n dod allan dros yr wythnos nesa.

Hearthstone: The Witchwood

Doeddech chi ddim yn meddwl y byswn i’n gadael i hwn fynd?

Ddaeth yr estyniad nesa i Hearthstone allan neithiwr, yn dechnegol. Ond heddiw ydi’r cyfle cynta mae’r rhan fwyaf yn ei gael i reslo’n iawn efo fo.

Gwrachod, blaidd-ddynion, hud a lledrith, a pry genwair mawr sy’n hoff o fwyta’r lleuad. I gyd ar ffurf cardiau sgleiniog i’w casglu. Dyma binacl y ddynol ryw, heb os nac oni bai.

Darkest Dungeon: Ancestral Edition

Clasur annibynnol yn taro’r Switch eto fyth. Tro ‘ma, Darkest Dungeon – y gêm 2D lle ‘da chi’n cerdded yn hamddenol drwy ogofeydd tywyll a gwaedlyd, yn sticio’ch cleddyf / bwyell / picfforch / cyllell i mewn i unrhyw beth sy’n symud.

Mae’n cyfuno’r hen a’r newydd yn eithriadol o llyfn, ac mae’r fersiwn yma hefyd yn cynnwys yr estyniadau sydd wedi eu rhyddhau hyd yn hyn: The Crimson Court The Shieldbreaker.

Y Switch ydi’r peth gora erioed.

Yakuza 6: The Song Of Life

‘Dach chi’n gwbod be sy’n brin dyddia yma? Gemau byd-agored.

‘Dach chi’n gwbod be sy’n fwy prin? Gemau byd-agored lle ‘dach chi’n chwarae gangster o Siapan.

Oes, mae ‘na bump o gemau Yakuza wedi eu rhyddhau cyn hyn. Ond ‘dach chi’n gwbod.

For The King

Dwi wedi bod yn cadw llygad ar For The King ers sbel, ac o’r diwedd mae’r gêm llawn bron yma.

Mae’n cyfuno dau o fy hoff bethau yn y byd: gemau bwrdd digidol, a gemau roguelike. Ac allan, ar Steam, ddydd Iau nesa.

‘Api deis.

God Of War

Dwi erioed wedi chwarae gêm God Of War o’r blaen. Sy’n od, achos bod y prif gymeriad, Kratos, mor amlwg wedi ei seilio arna i.

Ac er eu bod nhw wedi cadw’r teitl yn syml, nid reboot ydi hwn (diolch byth), ond dilyniant i’r gyfres wreiddiol. Ydi hynny’n golygu ‘mod i’n gorfod chwarae’r deg (!) gêm arall yn y gyfres er mwyn dal i fyny? Ta fydda i’n iawn yn neidio mewn a malu botymau, wili-nili, tan bod rwbath o ‘mlaen i’n marw?

Dyna fydd hi, dwi’n meddwl.

Wonder Boy: The Dragon’s Trap

Hen gêm arall sy’n glanio ar y Switch wythnos nesa. Roedd y gemau Wonder Boy ac Adventure Island (Wonder Boy dan enw arall, fwy neu lai) yn dipyn o hit gen i yn fy ieuenctid, a dyma atgyfodi’r hen fformiwla mewn steil.

Perffaith i’w chwarae ar y go ar y Switch, wrth gwrs. Ond be sy’ ddim? Popeth ar y Switch, plis. Ffanciw.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s