gan Elidir Jones
Mae Calan Gaeaf bron yma. Felly mae’n hen bryd dechrau trafod y Dolig.
Mae’n wir ddrwg gen i.
Ond y gwir ydi, mae’r llif cyson o gemau newydd sy’n arwain i fyny at yr ŵyl bob blwyddyn wedi dechrau’n barod. Mae ‘na dair gêm fawr i gyd yn cael eu rhyddhau heddiw. Neno’r tad.
Felly heb fwy o oedi, dyma wyth o gemau, allan rhwng rŵan a’r Nadolig, ddylech chi fod yn chwilio amdanyn nhw yng ngwaelodion eich hosan.
Oo-er.
Assassin’s Creed Origins (PC / PS4 / Xbox One, Hydref 27)
Dwi fel arfer yn anwybyddu Assassin’s Creed. Ond mae ‘na rywbeth am yr un newydd ‘ma sydd wedi denu fy sylw i. Ella’r ffaith bod y gêm wedi ei lleoli yn yr hen Aifft. Mae’r hen Aifft yn cŵl.
A’r ffaith eich bod chi’n gallu troi’r “gêm” ei hun i ffwrdd, a jyst cerdded rownd yn dysgu stwff. Fel trip i’r British Museum, ond heb i chi deimlo’n hollol uffernol.
Wolfenstein II: The New Colossus (PC / PS4 / Xbox One, Hydref 27 – Switch, 2018)
Ar un pwynt, doedd ‘na ddim byd dadleuol ynghylch gemau lle ‘dach chi’n saethu Nazis yn y hwynebau, drosodd a throsodd. Ond bellach, efo Natsïaeth yn hip unwaith eto, mae ‘na ambell un wedi barnu gêm sy’n cyflwyno delwedd mor ddu-a-gwyn o foesoldeb.
Twt lol. Prynwch Wolfenstein, bwydwch eich Indiana Jones mewnol, a dangoswch i’r Nazis yn union lle i fynd. Dyna’r boi.
Super Mario Odyssey (Switch, Hydref 27)
Dim lot i ychwanegu at fy spiel wythnos diwetha, deud y gwir. Jyst bod Super Mario Odyssey bellach allan. A gesiwch be? Mae’n briliant. Pwy fysa’n meddwl?
Lego Marvel Super Heroes 2 (PC / PS4 / Xbox One / Switch, Tachwedd 13)
Ro’n i am gynnwys Call of Duty yn y rhestr ‘ma. Ond c’mon. Gêm Call of Duty arall? Ochenaid.
Rhywbeth i’r holl deulu, felly, gan gymryd na fyddwch chi ddim yn chwarae Mario (sioc, arswyd). Mae’r holl gemau Lego yn bril, a’r steil yn gweddu’n berffaith i fyd lliwgar Marvel.
Ac yn yr un yma, ‘dach chi’n cael chwarae fel Howard the Duck. Cymerwch fy mhres i gyd.
Star Wars Battlefront II (PC / PS4 / Xbox One, Tachwedd 17)
Roedd y Battlefront cynta yn gweithio fel hors d’oeuvre bach neis cyn The Force Awakens, nôl yn 2015. Doedd ‘na ddim lot i’ch cadw chi i chwarae, serch hynny. Gobeithio fydd Battlefront II yn wahanol, ac yn dal eich sylw ymhell ar ôl i The Last Jedi adael sinemâu.
Dim “Season Pass” drud tro ‘ma chwaith – mae’r holl gynnwys newydd ar ôl rhyddhau’r gêm am ddim. Oes, mae ‘na focsys llawn lŵt i’w datgloi efo pres go-iawn. Ond c’mon. ‘Dan ni’n ddigon cryf i’w hanwybyddu nhw, mae’n siŵr gen i. Peidiwch â throi at yr ochr dywyll…
Skyrim VR (PS4, Tachwedd 30)
Dwi wedi colli cownt faint o weithia mae Skyrim wedi ei ryddhau a’i ail-ryddhau erbyn hyn. Ar Dachwedd 17, er enghraifft, mae ‘na fersiwn allan ar y Switch. Sydd – er bod y gêm yn chwech oed bellach – yn eitha chyffing cŵl.
Mae cerdded rownd byd Skyrim efo rheolydd yn eich llaw yn un peth. Ond mae byw’r byd, Playstation VR ar eich pen, yn rhywbeth arall. Bythefnos ar ôl Skyrim ar y Switch, ac mae’r gêm yn taro’r rhithfyd am y tro cynta.
Ai dyma fydd y killer app cynta ar gyfer y PSVR? Bosib iawn. Pawb efo’ch gilydd eto ta: “I used to be an adventurer like you. Then I took an arrow in the knee.”
Xenoblade Chronicles 2 (Switch, Rhagfyr 1)
Dwi’n cofio pan ddaeth Xenoblade Chronicles X allan ar y Wii U. Doedd ‘na ddim byd i’w chwarae ar y system ar y pryd. Felly doedd gen i ddim dewis ond ei chwarae.
Mae’r Switch mewn sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn, efo llond llaw o glasuron AAA yn brwydro am le ar y silffoedd efo dwsinau o gemau indie, a mwy yn ymddangos bob wythnos. Mae Xenoblade mewn peryg o fynd ar goll yn y shyffl.
Ond mae o werth eich sylw, yn dal i fod. Mae ‘na rywbeth hudolus am grwydro bydoedd enfawr y gemau, yn ymladd bwystfilod sy’ mor fawr, mae nhw’n llenwi’r sgrîn. Hyd yn oed os ydi’r deialog yn gwneud i’r ffilmiau anime gwaethaf edrych fel Shakespeare.
Okami HD (PC / PS4 / Xbox One, Rhagfyr 12)
Dyma beth hudolus i’w chwarae ar fore Dolig.
Fe syrthiodd y beirniaid mewn cariad efo Okami nôl yn 2006. Siom, felly, bod y gêm ddim wedi shifftio llwyth o gopïau. Ond does ‘na ddim byd fel ail gyfle. Bellach, does ‘na ddim esgus.
Mae hi fel The Legend of Zelda, ond ‘dach chi’n chwarae fel blaidd bach ciwt.
(Fatha Twilight Princess, felly, ond yn well.)
Does ‘na wir ddim esgus.
A dyna ni. Rhowch wybod os ‘da chi’n planio snapio un o rhein i fyny. Fydda i ar wyliau wythnos nesa, felly fydd ‘na ddim byd newydd gen i ar f8. Ond fyddwch chi’n rhy brysur yn chwarae Mario Odyssey i dalu sylw i ni beth bynnag. C’est la vie.