Stranger Things: Lovecraft ar Ffilm

gan Elidir Jones

Tua blwyddyn ar ôl pawb arall, dwi wedi darganfod y rhaglen Stranger Things.

Bys ar y pyls, fel arfer.

Wna i ddim mynd i ddyfnder mawr am y rhaglen ei hun, achos mae pawb a’i gath wedi cael dweud eu dweud yn barod. Dim ond bod yr actio (yn enwedig gan y plant) yn benigamp, bod yr ysgrifennu yn lliwgar heb fod yn rhy gartwnaidd, a bod y naws cyffredinol a’r adeiladu byd yn sbot-on.

Teg dweud bod yr ail gyfres ddim yn cyrraedd uchelfannau’r gynta. Oes, mae ‘na ddarnau briliant, ond mae ‘na hefyd gymeriadau hollol ddi-bwynt sydd ddim yn ffitio (helo, Billy), crwydriadau rhyfedd o’r plot sy’n teimlo mwy fel rhywbeth allan o Teenage Mutant Ninja Turtles neu Double Dragonac mae talentau Sean Astin yn cael eu wastio braidd.

Fo oedd Sam yn Lord of the Rings, neno’r tad. Mae’n haeddu gwell.

Ond be sy’n fwya diddorol am Stranger Things, yn fy marn i, ydi’r dylanwadau (eitha amlwg) sydd wedi bwydo’r gyfres. A tra bod cymaint o sylw wedi ei roi i ddylanwadau Stephen King, a The Goonies, ac E.T., mae ‘na ddylanwad mawr arall sydd ddim wedi derbyn cweit cymaint o sylw, sef gwaith H.P. Lovecraft.

Os dydych chi ddim au fait â Lovecraft, a heb swnio gormod fel Wikipedia, roedd o’n awdur arswyd Americanaidd, yn ysgrifennu ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac wedi ennill tipyn mwy o enwogrwydd yn y degawdau diwethaf. Mae’n fwyaf enwog am ei ‘Cthulhu mythos’: cyfres o straeon am dduwiau / creaduriaid hunllefus, sy’n dueddol o yrru unrhywun sy’n eu gweld nhw’n wallgo. Mae nhw bron yn amhosib eu disgrifio, ond yn bennaf, dychmygwch fwystfilod wedi eu gorchuddio â llygaid a thentaclau, yn byw yng nghorneli tywyll y bydysawd, yn bygwth realaeth ei hun.

--Azathoth--

Bach fel fersiwn llai dychrynllyd o’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mae’r lefel o ddychymyg ac awyrgylch yn y straeon wirioneddol oddi ar y siart, er eu bod nhw hefyd yn medru bod braidd yn sych ar adegau – heb sôn am fod yn hiliol. Iawn.

A gyda llaw, fydden ni yn Fideo Wyth ddim yn gwneud ein swyddi petasen ni ddim yn pwyntio allan bod holl stwff H.P. Lovecraft wedi ei ddylanwadu gan awdur o Gymro, Arthur Machen. Lle da i gychwyn darllen y math yma o ffuglen.

Ta waeth. Mae straeon Lovecraft mewn lle braidd yn rhyfedd ar y funud. Os ‘dach chi’n dilyn gemau, comics, neu ddiwylliant nyrd yn fwy cyffredinol, fe fyddwch chi mae’n siŵr yn lled-gyfarwydd â nhw. Neu, os nad yn gyfarwydd â’r straeon eu hunain, wedi gweld rhai o hoff ddelweddau Lovecraft yn popio fyny, dro ar ôl tro.

Mae gemau bwrdd wedi gwneud defnydd anferth o’r delweddau yma, efo rhai fel Arkham Horror ac Elder Sign yn fwyaf amlwg. Mae gemau fideo, hefyd, yn llawn stwff Lovecraftaidd, er bod y delweddau fel arfer yn cael eu defnyddio braidd yn ddifeddwl ar adegau. Yr eithriad – a dyna eithriad – ydi Bloodborne, sydd wedi cyflwyno syniadau Lovecraft yn fwy effeithiol nag unrhywbeth arall ar sgrîn, hyd heddiw. Gan gynnwys Stranger Things, dwi’n meddwl.

I rywun sy’n ymfalchïo mewn gemau, felly, mae creaduriaid Lovecraftaidd bron mor gyfarwydd â Frankenstein neu Dracula. Ond mewn ffilm a theledu, ychydig iawn sydd wedi tynnu ar ei waith. Y cheerleader mwyaf, mae’n debyg, ydi Guillermo del Toro, sydd wedi bod yn trio cael addasiadau o waith y dyn ei hun wedi eu ffilmio ers blynyddoedd maith. Ac er bod Pacific Rim yn cynnwys ambell beth digon Lovecraftaidd, mae’n deg dweud nad ydi trwch y boblogaeth yn gyfarwydd â’i waith, yn gyffredinol.

Na chwaith wedi gweld Pacific Rim.

Ond efallai – efallai – bod Stranger Things am newid pethau. Achos mae dylanwadau Lovecraft mor amlwg, yn yr ail gyfres yn enwedig, fel na allwn ni mo’u hanwybyddu nhw bellach. Dwi’n herio unrhywun sy’n dallt y dalltins i sbio ar y “bwystfil mŵg” o’r ail gyfres a pheidio meddwl am rai o greadigaethau Lovecraft – fel y llun (cwbwl ddilys) yma o Cthulhu yn cuddio mewn cwmwl.

(Dywedwch hwnna dair gwaith yn gyflym.)

cthulhu

Mae mwy a mwy o bobol, oherwydd pethau fel Stranger Things, yn dod yn fwy ac yn fwy cyfarwydd efo delweddau Lovecraft, os nad ydyn nhw’n hollol siŵr o ble mae’r delweddau yna’n dod yn y lle cynta. Mae’r drws ar gyfer addasiad sinematig mawr, felly, wedi ei chwythu ar agor.

Dwi isio gweld meistri arswyd mwyaf heddiw yn cael bagiau llawn arian wedi eu taflu atyn nhw i addasu The Call of Cthulhu, neu At the Mountains of Madness, neu Shadow Over Innsmouth. Dwi isio gweld Guillermo del Toro yn cael y rhyddid – o’r diwedd – i wneud yn union be mae o isio. Ac yn fwy na dim, dwi isio i’r boblogaeth yn gyffredinol fod mor gyfarwydd â’r stwff yma ag y mae chwaraewyr gemau. Achos mae o’n dda. Onest.

Oni bai am yr holl hiliaeth, yn amlwg.

Dim ond mater o amser ydi hi. Wrth i Stranger Things fynd yn ei flaen, dwi’n siŵr y bydd dylanwadau Lovecraft yn dod yn amlycach byth. Ac yn y man, fydd y pwysau’n dod yn ormod, ac fydd rhaid i’r bigwigs yn Hollywood blygu i’r farn boblogaidd. Ac o’r diwedd – o’r diwedd – fe all Cthulhu fawr gymryd rheolaeth ar yr holl fydysawd.

Ph’nglui mglw’nafh Cthulhu R’lyeh wgah’nagl fhtagn.

Ahem. Sori.

Felly. Be ydi’ch barn chi ar Stranger Things? Oes ‘na straeon gan H.P. Lovecraft fyddech chi’n hoff o’u gweld ar sgrîn? Erioed wedi clywed am y dyn, a jest isio trafod eich hoff hufen ia? Sticiwch nodyn yn y blwch sylwadau.

One comment

  1. “Ph’nglui mglw’nafh Cthulhu R’lyeh wgah’nagl fhtagn”

    Ke dhe-ves, emskemmynyyz,
    Dhe dhifeyth, yn tewolgow,
    Dha vestri a vydh ledhyz,
    Nevre, war an enevow!

    Dyna i chi melltith gref Gernyweg i anfon y bwystfilod ‘nôl i uffern … pffew!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s