Skyrim: Y Gêm Wnaiff Ddim Marw

gan Elidir Jones

Mae ‘na restr fer o gemau sydd wedi cael effaith mawr arna i. Super Mario Bros. Earthbound. Hearthstone. Un arall sy’n sicr yn haeddu bod ar y rhestr ydi The Elder Scrolls V: Skyrim – a heb y clasur yma o 2011, mae’n deg dweud na fyddai Fideo Wyth yn bodoli o gwbwl yn ei ffurf bresennol.

Rhwng 2003 a 2011, do’n i ddim yn chwarae lot o gemau. Ambell beth ar y Gamecube a’r Wii, a pa bynnag gemau PC ro’n i’n gallu rhedeg ar fy laptop. Skyrim wnaeth fy nenu i nôl at gemau mewn ffordd fawr. Do’n i ddim yn gallu anwybyddu hwn. Wnes i brynu Xbox 360 jest ar ei gyfer, wnaeth fy nghyflwyno i fyd o gemau newydd.

Ond er bod ‘na gymaint i dynnu fy sylw i, o Red Dead Redemption Bioshock, fe ddes i wastad yn ôl at Skyrim. Mae’n gêm fawr. Iawn. Ond rhywsut, dwi’n meddwl fy mod i wedi gwneud bron iawn bob dim. Ac nid ar yr Xbox yn unig. Cwpwl o flynyddoedd wedyn, wnes i ail-brynu’r gêm ar y PC, i gael ymestyn, ailbrofi, ac addasu’r profiad.

maxresdefault

Petasech chi’n gofyn i fi ddylunio fy gêm ddelfrydol, mae’n debyg y byddai’n edrych yn debyg iawn i Skyrim. Fel rhywun wnaeth dyfu fyny yn llyncu Lord of the Rings a’r llyfrau Fighting Fantasy, dwi wastad wedi bod eisiau crwydro byd ffantasi enfawr, a dyna’n union mae Skyrim yn ei gynnig. Dydi o ddim yn rhoi unrhyw sbin arbennig o newydd ar y genre, ond dwi’n meddwl bod hynny’n rhan o’r apêl hefyd. Er bod ‘na bob math o flasau o hufen iâ ar gael… weithiau, mae fanila’n berffaith iawn.

Ac os ‘da chi isio amrywio’r profiad, mae cannoedd – miloedd – o addasiadau ar gael, ar y PC, a bellach ar rai fersiynau o’r gêm gonsol. Mae rhain yn newid Skyrim mewn ffyrdd bach a mawr, o ychwanegu olion traed yn yr eira pan ‘da chi’n cerdded, i sticio estyniadau llawn i mewn i’r profiad, sy’n para dwsinau o oriau. Ac i gyd wedi eu gwneud gan ffans. Dyna’r fath o ymroddiad mae’r gêm yma yn ei feithrin.

Pan ges i Skyrim ar y PC, fe ddaeth llwytho addasiadau bron yn gêm newydd yn ei hun, wrth i fi dreulio dyddiau – dim jôc – yn dewis y goreuon, yn barod ar gyfer y profiad gorau posib.

Os oes PC digon da gennych chi, fe allech chi wneud y gêm yma, sydd newydd droi’n chwech oed, yn ryfeddod graffegol. Drychwch, mewn difri calon.

Ond er bod y gêm wedi profi’n eithriadol o boblogaidd, dydi o ddim yn brofiad perffaith, o bell ffordd. Mae ‘na lot o sylw wedi ei roi ar y nifer mawr o bygs rhyfedd…

… ond mae ‘na broblemau mwy sylfaenol hefyd. Does ‘na ddim lot o amrywiaeth yn y mathau o bethau ‘da chi’n eu gwneud. Fel lot o gemau gan Bethesda Softworks, mae’n fformiwla’n ddigon syml, a braidd yn undonog – teithio i bwynt ar y map, lladd llwyth o elynion, dychwelyd. Yr un peth yn union gewch chi yn y gemau Fallout diweddar, ac mae’n fformiwla mwy hen-ffasiwn byth yn dilyn amrywiaeth a chynllunio penigamp gemau fel The Witcher 3.

Ac eto, mae pobol yn dal i ddychwelyd, dro ar ôl tro. Roedd ail-ryddhau’r gêm efo graffeg gwell yn 2016 – Skyrim: Special Edition – yn un peth. Ond dydd Gwener diwethaf, fe ddaeth dau fersiwn hollol wahanol, hollol newydd, allan ar yr un pryd.

Roedd un, Skyrim VR, yn gadael i chi chwarae drwy Playstation VR, cael eich sugno i mewn i’r byd yn gyfangwbl, a gwneud eich gorau i beidio taflu fyny. A wedyn dyna Skyrim ar y Nintendo Switch, gan brofi unwaith ac am byth ein bod ni’n byw yn y dyfodol. Fersiwn o Skyrim allwch chi daflu yn eich bag a chwarae ar y trên. Esgusodwch fi tra ‘mod i’n codi fy ngên oddi ar y llawr.

Ffyrdd cwbwl ffresh o chwarae’r gêm. Ffyrdd sy’n debyg o gyrraedd cynulleidfa newydd, eto fyth. Coeliwch neu beidio, nid yn unig ydi Skyrim dal yn fyw, ond mae’n fwy perthnasol nag y mae o wedi bod ers blynyddoedd.

Dwi ddim yn siŵr iawn pa mor eiddgar ydw i i neidio mewn i’r byd yna unwaith eto. Dwi’n nabod trefi Whiterun a Riften a Solitude fel cefn fy llaw, a fyddai ymweld â nhw fel gweld hen ffrind, mae’n siŵr… ond eto, does ‘na ddim byd mawr wedi newid. Er y ffyrdd newydd o chwarae, dyma’r un gêm, yn y bôn, wnes i brofi bum mlynedd yn ôl.

Be sydd ei angen bellach, wir, ydi gêm newydd ym myd The Elder Scrolls.

A na. Dydi The Elder Scrolls Online ddim yn cyfri. Jest na.

Be mae hyn yn ei wneud, wrth gwrs, ydi codi’r lefel o ddiddordeb yn The Elder Scrolls VI. Ac yn codi’r pwysau ar Bethesda i wneud gêm wych. Er cymaint mae pobol yn dal i fod yn hoff o Skyrim, fydd rhyddhau yn union yr un math o gêm eto – ond efo jyngl yn lle mynyddoedd, neu be bynnag – ddim yn mynd i lawr yn dda. Mae’r byd wedi symud ymlaen. Mae’n rhaid i Skyrim 2 gynnig rhywbeth dipyn bach yn newydd, o leia.

Be fydd hynny? Dim syniad. Be ydw i, ryw fath o arbenigwr ar gemau? Get outta here.

O, ac os allech chi frysio, Bethesda, fe fysa hynny’n grêt. Mae pum mlynedd yn lot rhy hir i ddisgwyl.

Oes gennych chi atgofion arbennig o Skyrim? Yn bwriadu ailymweld â’r byd – neu wneud am y tro cynta – efo un o’r fersiynau newydd? Rhowch wybod. A, pawb efo’ch gilydd rŵan:

Fus! Ro! Dah!

Ahem. Sori. Annwyd gen i.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s