Y Gwener Ddu

Dîls dîls dîls, dewch i llenwi’ch berfa efo dîls dîls dîls!

black-friday-shopping-1920x1080

‘Da ni yn f8 ddim wir yn credu yn y nonsens Black Friday yma, onibai fod chi’n sôn am noson shaclad Gwener dwethaf cyn Dolig, ond gan fod Daf yn dod o Geredigion yna mae o yn llwyr grediniol mewn safio pob ceiniog. Felly am y dîls gorau gyfer teledyddion, bocsys consols, gemau fideos a tech yna dyma’r lle i chi.

GEMAU FIDEO

The Witcher 3: Game of the Year Edition > £13.99 > Playstation Store
Sdim rhaid edrych ymhellach na hon ar gyfer bargen y mileniwm.

FIFA 18 > £36 > Amazon
Sneb yn prynu FIFA gyfer ei hunan, da ni gyd yn gwbod fod o’n berffaith gyfer anrheg Dolig gyfer y person sbeshal yna yn eich bywyd, h.y. eich mab 11 oed. Safiwch da chi!

Middle-earth: Shadow of War > £29.99 > GAME
Sdim byd yn dweud diolchgarwch yn well na cloncio Orcs yn ddimadferth a tynnu ei breichiau i ffwrdd.

PS+ am flwyddyn > £36 > Amazon
Ddim yn gem ond gan fod pris PS+ wedi cynyddu yn ddiweddar mae hon yn safio £14. Union pris Witcher 3 uchod, wel dyna gyd-ddigwyddiad…

CONSÔLS

PSVR > £240 > Argos
Efo gem, camera a phopeth arall ‘da chi angen, gyd mewn un bocs. Ma cathod yn hoffi bocsus hefyd, os oes ganddo chi gath.

XBOX 1 S  (500GB) > £170 > GAME
Dyma yw fargen, efo dewis o 1 gem rhwng Shadow of War, Assassins’ Creed: Origins, Forza, Minecraft, Battlefield 1. The mind boggles sut bod hwn y pris yma. The mind BOGGLES!

PS4 Slim > £200 > Amazon
Y consol yn dod efo gemau Hidden Agenda (dim syniad!), Battlefront 2 (hmm, dodgy) a Gran Turismo (iei!), bydd yr holidei sison yn llawn ant…, ant…, ant…, beth yw’r gair eto? O ie, antacids. (Mae’r un deal efo GAME ond Call of Duty: WWII ynlle Battlefront.)

PS4 Pro > £320 > GAME
Os dachi’n teimlo bach yn fwy ffansi pam ddim sblasho allan ar gonsol fwy pwerus Sony, efo 3 gem. Da chi’n cael y gems am ddim ond talu £100 am peintio’r peth yn wyn. I’r bois posh yn unig.

TELEDYDDION

LG 4K 55OLEDB7V > £1350 > Currys
Y gair ola mewn teledyddion pris rhesymol 4k (oce, dyw £1350 ddim yn rhesymol iawn…) OND dyma yw, fel medd Dr Elidir Jones, ddy dadi. HDR, lag isel, du dwfn a lluniau megis Kyffin, Iwan Bala a Ruth Jên wedi rolio mewn i un super-artist.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s