gan Elidir Jones
Mae blwyddyn fawr Nintendo yn parhau, wrth i’r cwmni ryddhau gêm fawr ar ôl gêm fawr, wythnos ar ôl wythnos. Y diweddaraf, allan wythnos diwethaf, ydi Animal Crossing: Pocket Camp.
Dyma gêm hir-ddisgwyliedig sy’n parhau i wthio ffiniau newydd Nintendo ar ffonau, gan ddilyn Miitomo, Super Mario Run, a Fire Emblem Heroes.
‘Da ni ar f8 wedi trafod o’r blaen gymaint o ffans ydyn ni o’r gyfres Animal Crossing – er ein bod ni’n ddynion yn ein hoed a’n hamser – felly roedd y disgwyliadau ar gyfer hwn yn uchel. Mae Animal Crossing ar ei orau ar systemau symudol, a be sy’n fwy symudol, meddech chi, na ffôn symudol? Dim byd. Dyna be.
Ac ar ôl treulio ychydig o amser efo’r gêm dros y dyddiau diwetha, mae’n rhaid dweud bod Pocket Camp yn gwneud job go-lew o ddynwared profiad Animal Crossing. Mae’r gerddoriaeth twee yno, yr anifeiliaid i gyd yn clebran nonsens, a’r hen gymeriadau hoff – Tom Nook, Isabelle, K.K. Slider – i gyd yn popio fyny, mewn un ffordd neu’r llall.
Ond dyna ni. Dynwarediad ydi hwn, yn y bôn. Tribute act i Animal Crossing. Ac un sy’n cael rhai pethau hollbwysig yn sylfaenol anghywir.
Prif atyniad Animal Crossing, i fi, ydi’ch bod chi wir yn cael eich sugno i mewn i fyd y gêm tra’n chwarae. Er does dim byd realistig am y profiad o gwbwl – ‘da chi’n blentyn unig sy’n symud i mewn i bentref yn llawn anifeiliaid ciwt, yn gwerthu ffrwythau a physgod er mwyn talu eich morgais. Mae o – fel lot o gemau gora Nintendo – yn hollol, hollol hurt.
Ond ‘da chi’n dal i falio, beth bynnag. Achos er mai gêm i blant ydi Animal Crossing, yn y bôn, mae ‘na gymaint o gyfrinachau’r gêm yn cael eu cuddio oddi wrthych chi. Mae’n gêm heb lot o ddewislenni, na rhifau diddiwedd yn llenwi’r sgrîn. Mae’n llawn systemau cymhleth, i ddweud y gwir, ond i gyd yn llechu o dan yr wyneb. Mae’n rhoi’r argraff o fod yn bur. Yn syml. Mae’n dric hud ysblennydd.
Cymharwch hynny efo Pocket Camp. Mae gan bopeth – pob. un. dim. – rif neu lefel yn gysylltiedig â fo, gan ddatgelu mecanwaith y gêm i bawb ei weld. Os ‘da chi’n pigo ffrwyth oddi ar goeden, mae’r gêm yn rhoi gwybod yn syth y bydd hi’n dair awr cyn i’r cnwd nesa ymddangos, efo cloc bach wrth ymyl y goeden yn tician i lawr. O’r blaen, roeddech chi’n hapus eich byd yn gwybod bod pawb yn eich pentre yn dipyn o fêts efo chi. Ond mae Pocket Camp yn rhoi rhif ar y peth. Lefel. Dwi’n gwybod, fel ffaith, fy mod i ddwywaith gymaint o ffrindiau efo Tex, y penguin, nag ydw i efo Tad, y broga.
Ac mae hynny’n drasiedi.
A wedyn dyna’r mathau gwahanol o arian sy’n cael eu defnyddio yn y gêm. Yn hen ddyddiau Animal Crossing, dim ond un math o arian oedd ‘na – y ‘clychau’ sy’n cael eu defnyddio i brynu bob un dim. Mae nhw’n ailymddangos yn Pocket Camp, ond dim ond rhai pethau allwch chi brynu efo nhw. Yn cymryd eu lle mae pob math o ddefnyddiau crefftio gwahanol, er mwyn gwneud dodrefn.
Ac – yn fwy controfyrsial na phopeth arall – dyna’r ‘Leaf Tickets’.
Nid ar chwarae bach mae gwario rhein. Maen nhw’n cael eu defnyddio i brynu’r pethau pwysig – y gwelliannau i’r gêm, fwy neu lai, fydd yn gwneud eich profiad yn llai o slog. Ac er eich bod chi’n cael digon ohonyn nhw i ddechrau, yn fuan iawn maen nhw’n dod i ben. Yna mae’r math olaf o arian yn dod i mewn – arian go-iawn, yn cael ei ddefnyddio i brynu mwy o dicedi. A mwy. A mwy.
Er gymaint o ffan ydw i o Nintendo – neu ella oherwydd hynny – mae meddwl am blant ledled y byd yn haslo eu rhieni am bres i chwarae Pocket Camp yn gwneud i fi deimlo braidd yn sâl.
Mae’r teimlad o ryddid sy’n dod efo Animal Crossing fwy neu lai wedi mynd, yn ogystal â’r teimlad o fod yn berchen ar eich byd bach arbennig eich hun. Ac yn ei le, y teimlad o gael eich shyfflo o un nôd at y llall, mewn byd sydd ddim wir yn wahanol iawn i’r un mae pawb arall yn ei chwarae.
Dydi hwn ddim yn fyd allwch chi ymlacio ynddo fo. Ymfalchïo ynddo fo. Ac er bod Pocket Camp yn edrych lot fel gêm Animal Crossing, dydi o’n sicr ddim yn teimlo fel un. Mae o fel bod Nintendo wedi cymryd rhai o’r elfennau gwaethaf o gemau symudol, gan feddwl mai dyna mae pobol eisiau, a’u rhoi nhw i gyd mewn un gêm – gan anghofio be sy’n gwneud Nintendo mor arbennig yn y broses.
Ro’n i’n edrych ymlaen gymaint at hwn. Mae’n bedair mlynedd, wedi’r cwbwl, ers Animal Crossing: New Leaf, y gêm llawn diwethaf yn y gyfres. Yn anffodus, dwi’n meddwl bod ‘na dipyn o ddisgwyl o’n blaenau ni eto cyn yr un nesa.
Brysia, Animal Crossing ar y Switch. ‘Da ni dy angen di rŵan yn fwy nag erioed.