gan Elidir Jones
Wnes i orffen Super Mario Odyssey yn ddiweddar.
Wel. Dwi’n deud ‘gorffen’… dwi wedi gweld y diweddglo, do. Ond rhywle o gwmpas 250 o leuadau – y brif ffordd o barhau drwy’r gêm – sydd gen i, ac mae ‘na 999 ohonyn nhw i gyd.
Rhag eich cywilydd chi, Nintendo.
Ta waeth. Er syndod i neb, mae’n wych, ac yn gwneud mwy nag unrhyw gêm i ddal naws Super Mario 64 ers… wel… Super Mario 64. Does gen i ddim lot i’w ddweud am Odyssey dydi pawb a’i nain ddim wedi ei ddweud yn barod – ond wnaeth o wneud i fi feddwl am gemau platfform 3D yn gyffredinol. Pam eu bod nhw’n gweithio yn y lle cynta? Fe all yr ateb – fel mae’r hen ddywediad yn mynd – eich synnu chi.
Pan ‘dach chi’n meddwl am oes aur y gêm blatfform 3D, mae’n syndod cyn lleied o amser oedd yr oes yna’n para… a cyn lleied o gemau sydd ddim wedi heneiddio erbyn hyn.
Dyna Super Mario 64 i gychwyn y bŵm, wrth gwrs, yn 1996 (neu ar Ddydd Gŵyl Dewi 1997 i ni ym Mhrydain). Mae pawb yn cofio Banjo-Kazooie, yn 1998, ac mae’n dal i fod yn hwyl heddiw. Ond oni bai am hynny… oes ‘na unrhyw un arall sy’n sefyll allan?
Roedd Banjo-Tooie yn siom. Roedd Donkey Kong 64 yn dipyn o drychineb, ac yn eithriadol o ddiflas. Dyna’ch Spyros, a’ch Crash Bandicoots, doedd yn ddim llawer mwy na difyrrwch bach sydyn i blant. Mae ‘na lot o bethau o blaid Super Mario Sunshine, ond roddodd o ddim y byd ar dân o bell ffordd.
Ac wedyn mae ‘na rywbeth diddorol yn digwydd. Y gêm Mario 3D nesaf oedd Super Mario Galaxy, wnaeth newid y rheolau braidd. Bellach, roedd bydoedd enfawr 64 a Sunshine allan trwy’r ffenest, ac yn eu lle, lefelau llai, tynnach, cyflymach, efo rhai ohonyn nhw’n debycach i lefelau 2D yr hen gemau Mario. Roedden nhw’n her i sgil y chwaraewr, yn hytrach na bod yn faes chwarae enfawr i’w crwydro’n hamddenol. Ac yn sydyn reit, roedd Mario yn ôl ar y top. Mae Super Mario Galaxy 1 & 2 yn glasuron.
Pan ddaeth Super Mario 64 a Banjo-Kazooie allan, roedd bydoedd 3D yn bethau cymharol newydd. Fydd ‘na ddim “culture shock” debyg i fynd o’r Super Nintendo, efo’i fydoedd bach 2D, i’r ardd agoriadol ‘na y tu allan i’r castell yn Super Mario 64. Yn rhedeg ac yn neidio drwy fyd 3D perffaith. Ar y pwynt yna, roedd hynny’n ddigon. Y byd oedd seren Mario 64, a hoff blymar pawb yn chwarae rôl eilradd.
Dair blynedd wedyn, doedd yr un peth ddim yn wir. Doedd crwydro byd mawr, a syfrdanu at y graffeg a’r rhyddid, ddim yn ddigon bellach. A dyna chi Donkey Kong 64 yn cyrraedd. Dwi’n cofio derbyn y gêm fel anrheg Dolig, ac ambell un o ‘nheulu’n gwneud y sylw bod dim byd yn digwydd yn y gêm. Roedden nhw’n berffaith iawn. Doedd ‘na ddim byd i’w wneud ond cerdded o un pen o’r byd i’r llall yn casglu bananas o wahanol liwiau. Dim digon da.
Ac felly, dyna’r gêm blatfform 3D yn newid. Yn deialu’r anferthedd i lawr. Yn symleiddio.
Tan rŵan.
Yn gynharach eleni, fe ddaeth Yooka-Laylee allan: teyrnged i Banjo-Kazooie, wedi ei wneud gan lot o’r un tîm, y lefel o heip o’i amgylch yn eithriadol o uchel, wedi codi llwyth o arian ar Kickstarter…
… a roedd o’n rybish.
Unwaith eto, doedd ‘na ddim byd i’w wneud ond rhedeg o gwmpas y byd yn casglu pethau sgleiniog, weithiau’n adio symudiad arbennig newydd at eich repertoire, ac yn gwneud eich gorau i ddelio efo’r camera, doedd byth – byth – yn pwyntio’r ffordd roeddech chi isio. Roedd hi’n edrych fel petai gemau platfform 3D – y rhai traddodiadol, o leia – ar ben. Unwaith ac am byth.
A wedyn dyna Super Mario Odyssey, yn chwythu’r theori yna’n ddarnau. Gêm arall sy’n cymryd Super Mario 64 fel prif ddylanwad, ond yn adeiladu ar y sail yna. Ac yn adeiladu. Ac yn adeiladu eto.
A dyna, dwi’n meddwl, pam bod Odyssey jest yn gweithio. Ac nid jest hynny, ond yn sefyll ben ac ysgwydd dros y rhan fwyaf o gemau’r flwyddyn yma. Ella bod bydoedd y gêm yn enfawr, ond does ‘na ddim lle gwag yma. ‘Dcha chi byth yn cerdded hanner ffordd ar draws lefel er mwyn cyrraedd y peth sgleiniog nesa. Mae’n gêm sydd wastad yn danglo’r her nesaf o’ch blaenau, efo cyfrinachau wedi cuddio ymhob twll a chornel. A ‘dach chi byth yn cael eich cicio allan o lefel wedi i chi gyrraedd rhyw nod arbennig. Fedrwch chi ddal i grwydro tan i chi deimlo ei bod hi’n amser gadael, yn gwledda ar ddwsinau o bethau bach i’w gwneud tan i chi fethu cymryd dim mwy.
A weithiau, mae’r gêm jest yn anghofio hynny i gyd, a throi yn 2D beth bynnag.
Dyma sut mae gwneud i gemau platfform 3D weithio heddiw. Un ai cael gwared ar y llefydd gwag i gyd, a gwneud gemau sy’n hynod o dynn, neu lenwi’r llefydd gwag efo… stwff. Gwneud yr holl beth yn brofiad o ddarganfod – yn ‘odyssey’, os mynnwch chi – allwch chi ddim troi i ffwrdd ohono fo am eiliad.
Oes ‘na gemau dwi’n eu hanwybyddu? Ydi Yooka-Laylee a Donkey Kong 64 wir mor ddrwg â hynny? A be wnaethoch chi o Super Mario Odyssey, beth bynnag? Briliant, dydi?
Ydi.
Rhowch wybod yn y sylwadau. A daliwch yn dynn ar gyfer crynodebau di-ri o 2017 mewn gemau a diwylliant nyrd, yn dod dros yr wythnosau nesa.
Chwarae teg roedd Oddyssey yn anhygoel. Gwell na Zelda yn fy mharn i…
O epic Sonic rant achos… platfformu heb Sonic…. Naaa! 😉
Fy ffordd i drwy fyd platffomwyr oedd Sonic the Hedgehog ar y rhan mwyaf a dim ond yn ddiweddar maen nhw’n reu rhywbeth dw i’n rili hoffi – mae gwell ‘da fi’r hen gemau 2D o hyd. (Ac wrth gwrs, eleni mae Sega wedi sylweddoli dw i ddim ar fy mhen fy hun gyda hwn ac wedi rhyddhau Sonic Mania sy’n rili rili tebyg i’r un teimlad ond gyda pherfformiad a graffigs modern) .
O’n i stryglan gyda’r fersiwns 3D o Sonic yn y dechrau. Do’n i DDIM yn gallu chwarae Sonic Adventure (1998) am fwy na munudau achos y ffordd mae’r camera yn symud yn gwneud i fi teimlo’n sâl! (o hyd… Mae gyda fe a Steam ond ffaelu chwarae am hir o gwbl!) Hefyd oedd e’n arbennig o anodd i neidio ar ben pethau mewn 3D am rhyw reswm! Anodd rhagweld ble oedd y flipin draenog yn mynd i lanio! Oedd rhaid edrych ar y cysgod ac wedyn rhegi pob tro nest ti colli’r gelyn (a cholli digon agos i gael dy fwrw AR UNWAITH) neu gwympo oddi wrth y platfform.
Oedd Sonic Adventure 2 (2001) yn well (yn y lefels Sonic a Shadow beth bynnag – y lefelau ‘crwydro’ gyda Knuckles neu Tails yn dal yn diodde (yn fy marn i) o’r problemau camera a salwch-symud. Yn y lefels Sonic/Shadow mae camerâu jest yn dilyn dros-y-ysgwydd y rhan mwy o’r amser ac mae’r problemau gyda neidio ar bethau yn gywir /yn fanwl wedi cael ei ddatrys drwy ddefnyddio’r‘homing attack’ i dargedi bethau (elynion, a sbrings, rails ayb hefyd). Oedd y’n amlwg oedden nhw wedi dysgu mwy am y problemau ac wedi cynllunio am 3D o’r dechrau yn lle trio ail-greu’r un fath ffordd o reoli/chwarae jest drwy drawsblannu nhw i mewn i 3D.
Yn ddiweddar maen nhw wedi canolbwyntio llai a llai ar grwydro’r lefels a mwy ar fynd mor gyflym â phosib – ac mae cynlluniau’r lefels yn ffocysu ar hyn lot o Sonic Unleashed ymlaen, gyda elfen ‘boost’ fath o chwarae. Mae lot o lefydd yn y lefels ble ti ddim yn wir yn rheoli – jest yn mynd fel rollercoaster o rhyw fath. Lot o ‘spectacle’, lot o ‘real time interaction’ fel mini-cut-scenes yn ganol y lefel, ond dim lot o ddewis!
Ac mae rhai pobl yn cwyno mae’n rhy syml/hawdd. Pan ti wedi gwario arian ti moyn digon o her i deimlo ti wedi cael gwerth dy arian. Nes i gymryd 20 awr i gwblhau Sonic Forces, yr un diwethaf, ond dw i’n nabod pobl oedd cymryd LOT llai. Dw i’n rwtsh a lletchwith felly dw i’n perffaith hapus ond dw i’n deall y broblem!
[…] ‘na ddigon wedi ei ysgrifennu ar Mario Odyssey – gan gynnwys fan hyn, ar Fideo Wyth. Wna i ddim adio gormod ato fo. Dim ond dweud ei fod o ymysg y gemau Mario gorau erioed – […]