gan f8
Mae diwedd y flwyddyn yn prysur agosau. Amser i edrych ymlaen at holl ddanteithion 2018, ond hefyd i edrych yn ôl ar y deuddeng mis diwetha. Fe fyddwn ni’n treulio gweddill mis Rhagfyr yn gwneud yn union hynny, gan ddechrau drwy fynd drwy’r eitemau gennym ni sydd wedi profi’n fwyaf poblogaidd efo chi – ein gwylwyr / darllenwyr annwyl.
Mae’n deg dweud bod 2017 wedi bod yn flwyddyn ddigon od i Fideo Wyth. Mae’r arch-Wythwyr eu hunain, Daf ac Elidir, wedi treulio’r flwyddyn ar gyfandiroedd gwahanol, yn un peth, yn prysuro eu hunain yn gweithio naw tan bump a’r math yna o stwff diflas. Fel canlyniad, ‘dan ni wedi bod yn canolbwyntio ar erthyglau yn hytrach na fideos a phodlediadau cymhleth, sy’n cymryd lot mwy o amser.
Ond mae ‘na fideos wedi bod. O, oes. A’r rhan fwyaf ohonyn nhw ar wasanaeth Hansh gan S4C, yn parhau â’n gwaith ni ar Y Lle. Mae nhw’n sicr wedi profi ymysg ein heitemau mwya poblogaidd flwyddyn yma, ac mae ‘na lond llaw eto i ddod.
Y flwyddyn nesa, fe fyddwn ni yn yr un wlad eto – am gyfnod, o leia. Felly disgwyliwch bodlediadau, digwyddiadau, a fideos lu. ‘Dan ni wedi bod yn trafod ein syniadau ar gyfer 2018 yn barod. Fyddwch chi isio bod yma i weld pob dim. Trystiwch ni.
Ond am y tro, dyma ni’r wyth eitem (naw, os ‘dach chi isio bod yn bedantig am y peth) sydd wedi cael y mwya o sylw i ni yn 2017, ar draws fideowyth.com a Youtube. Mwynhewch.
#8 – Fideo: Yr Wyth Gêm Mwya Hafaidd Erioed
Cofio’r haf? Yr adeg arbennig ‘na o’r flwyddyn pan mae’n braf am ryw dri diwrnod?
Na. Na fi. Ond gobeithio y bydd y fideo yma yn canu rhyw fath o gloch.
A digwydd bod, mae ‘na fideo arall sydd wedi cael yr un faint o wylwyr yn union ar Youtube. Digywilydd fyddai peidio ei gynnwys…
Fideo: Yr Wyth Byd Agored Mwya Mewn Gemau
Mae’r fideo yma’n cynnwys y jôc ora am World of Warcraft a chael strôc welsoch chi erioed. Digon o reswm i wylio.
Fel y gwelwch chi wrth fynd i lawr y rhestr ‘ma, mae eitemau sy’n crybwyll Cymru mewn rhyw ffordd ymysg ein mwya poblogaidd. Am resymau amlwg.
Ac felly dyma’r gynta ohonyn nhw – ein golwg ar gêm VR newydd am hedfan llongau gofod sy’n cael ei datblygu yn y canolbwynt technolegol a ffantasïol enwog hwnnw… Caernarfon.
Ahem.
#6 – Talesinger: Gêm Newydd yn y Gymraeg
Ac yn syth at gêm newydd arall sy’n cael ei datblygu yng Nghymru fach, a’r tro yma, yn cynnwys opsiwn i chwarae’n Gymraeg, yn dilyn yn olion traed gemau fel Enaid Coll.
Oes, mae ‘na farddoniaeth yn y gêm, ond peidiwch â gadael i hynny’ch troi chi i ffwrdd. Mae Talesinger yn edrych yn wych hyd yn hyn, ac allan – gobeithio – flwyddyn nesa.
#5 – Fideo: Wyth o Swyddi Rhyfeddaf Mario
Mae 2017 wedi gweld rhyddhau Super Mario Odyssey, un o’r gemau Mario gorau – a rhyfeddaf – erioed.
Ond mae ‘na ambell gêm ar y rhestr yma sy’r un mor rhyfedd, coeliwch neu beidio. Hotel Mario, unrhyw un?
Na. Na, do’n i’m yn meddwl.
#4 – Fideo: Wyth Gêm Sy’n Rhy Gymhleth i Ni
‘Dan ni’n arbenigwyr ar gemau. Wnawn ni ddweud hynny’n ddi-flewyn-ar-dafod. Ond mae ‘na rai sy’n rhy gymhleth hyd yn oed i ni. A dyma nhw.
#3 – Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro
Yn ôl pob sôn, mae’r gêm gardiau brwydro gan Huw Aaron, yn seiliedig ar chwedlau Cymru, wedi bod yn dipyn o hit ar iardiau ysgol ledled y wlad. Mae ‘na ail set wedi cyrraedd bellach, a mwy ar y ffordd, ond dyma lle gwnaeth yr holl beth gychwyn.
#2 – Fideo: Protecting Place Names in Wales
Darn prin o gynnwys gan Fideo Wyth yn yr iaith Saesneg. Lle arall gwelwch chi fideo – o Seattle – yn cymharu enwau llefydd brodorol America efo rhai Cymraeg, ac yn rhoi mensh i’r aelod Cynulliad Dai Lloyd?
Nunlle. Dyna lle.
#1 – Fideo: Wyth o Gemau Cymreig
Ac at eitem fwya poblogaidd y flwyddyn – fideo ar Hansh ddaeth allan yn eitha da, os cawn ni fod mor hy.
Mae’n syndod cymaint o gemau sy’n cynnwys rhyw fath o elfen Gymreig, un ai’n gwbwl amlwg, neu wedi ei chuddio. Mae ‘na un arall wedi ymddangos mis yma, efo Xenoblade Chronicles 2 yn cynnwys cymeriad canolog o’r enw Nia. Doedden ni ddim yn medru cynnwys yr un yna’n anffodus, achos fedrwn ni ddim gweld y dyfodol (dim eto, o leia…), ond mae ‘na ddigon o ddewis yma.
A dyna ni. Sticiwch efo ni wythnos nesa ar gyfer holl stwff gorau’r flwyddyn sydd ddim yn gemau fideo. Ac yna, yr wythnos wedyn, yr un mawr – gêm y flwyddyn.
“It’s the most wonderful time of the year…”