gan Elidir Jones
Fe fyddwch chi, mae’n siŵr, yn cofio rhyddhau’r gêm Enaid Coll dair mlynedd yn ôl. Y gêm cyntaf yn y Gymraeg ar gael ar gyfrifiaduron a chonsols ill dau – peth doedd pobol fel Daf a fi, chwaraewyr gemau o Gymru, ddim yn gallu dychmygu pan yn grwtiaid bach.
Mae’n hawdd anghofio pa mor bwysig oedd hynny. Dyna, yn un peth, wnaeth ysgogi datblygiad Fideo Wyth yn y lle cynta, wrth i Daf a fi wneud fideos am y gêm ar wahân, yn annibynnol, a wedyn penderfynu uno yn un behemoth (ha!) mawr. Doedden ni ddim hyd yn oed yn nabod ein gilydd. Roedden nhw’n ddyddiau da, bois. Yn ddyddiau cyffrous. Roedd unrhyw beth yn bosib.
A bellach, o’r diwedd, mae’r bennod nesaf yn hanes gemau prif-ffrwd Cymraeg bron yma. Ddoe, fe wnaeth y cwmni Quantum Soup gyhoeddi eu bod nhw’n datblygu Talesinger: Voice of the Dragon, gyda fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r gêm ar gael.
Mae’r teitl Cymraeg terfynol eto i’w benderfynu, gyda llaw.
Be? ‘Da chi isio trelyr? O, go on ta.
Dyma gêm gyntaf Quantum Soup, ond mae gan y datblygwyr eitha dipyn o brofiad yn gweithio i TT Games. Yr holl gemau Lego briliant ‘na sy’n hwyl gwyllt dim ots pa oed ydych chi? Nhw wnaeth rheini.
Yn Talesinger, fe fyddwch chi’n chwarae fel Gwen – bardd ifanc sy’n cael ei hun yn y sefyllfa annifyr o orfod uno llwythi Celtaidd gwahanol er mwyn ymladd y Rhufeiniad. Efo dim Obelix na diod hud mewn golwg. Gêm chwarae rôl sydd yma mewn gwirionedd, gydag elfennau o gemau point-and-click, ynghŷd ag un o’n hoff genres, gemau “awn am dro”. Serch hynny, fydd Gwen ddim yn torri byddinoedd o baddies a bwystfilod i lawr er mwyn cyrraedd ei nod, ond yn hytrach yn crefftu caneuon ac yn creu straeon er mwyn dylanwadu ar y pwysigion Celtaidd o’i chwmpas.
Fe fydd y gêm hefyd yn cynnwys gwaith motion capture llawn, yn y Gymraeg a’r Saesneg ill dau. Tir newydd yn cael ei dorri unwaith eto. Cymerwch fedal, Quantum Soup.
Y bwriad yw rhyddhau Talesinger: Voice of the Dragon tua diwedd 2017, ar gonsols ac ar y PC. Er mwyn dal i fyny ar ddatblygiad y gêm, cymerwch gip ar talesinger.com – ac wrth gwrs, fe fyddwn ni yn Fideo Wyth yn cadw llygad barcud ar hyn i gyd dros y misoedd nesaf hefyd.
Dyddiau da, bois. Dyddiau cyffrous.
[…] nawr yw’r amser am sefydlu cwmni cyhoeddi i hyrwyddo teitlau sy’n dod o’n stiwdios prysur yng […]
[…] nawr yw’r amser i sefydlu cwmni cyhoeddi er mwyn hyrwyddo teitlau sy’n dod o’n stiwdios prysur yng […]
[…] #6 – Talesinger: Gêm Newydd yn y Gymraeg […]