gan Daf Prys
(O San Francisco, don’t you know)
Heddiw daeth y newyddion syfrdanol bod y gwasanaeth llifo gemau fideo, Twitch, gafodd ei brynu gan Amazon nôl yn 2014, am gychwyn gwerthu gemau drwy ei gwefan o Wanwyn y flwyddyn hon ymlaen.
Beth sy’n nodweddiadol am hyn yw bod platfformau arferol i’w gweld yn hollol ansymudol yn eu safle fel prif wasanaethau gwerthu gemau a bod perthnasau cryf wedi tyfu rhyngddynt hwy a chyhoeddwyr o’i herwydd. Mae’r cyhoeddwyr yn derbyn 70% o’r gwerthiant.
Mi fydd Twitch, ar y llaw arall, yn cynnig hyblygrwydd yn y model gwerthu gyda posibiliad, pe baw prynwr yn lawrlwytho gêm tra’n gwylio llif, y bydd y llifydd yn derbyn 5% o’r gwerthiant llawn.
Yw hyn yn golygu bod Twitch am gynnig 75% i’r cyhoeddwyr pan fydd rhywun yn lawrlwytho o dudalennau unigol y gemau? Dim gwybodaeth am hyn eto.
Nodyn diddorol arall yw os oes lle am osod perthynas efo platfform lawrlwytho newydd yna tybed ai nawr yw’r amser i sefydlu cwmni cyhoeddi er mwyn hyrwyddo teitlau sy’n dod o’n stiwdios prysur yng Nghymru?
Wedi’r cyfan, does neb yn dadlau nad yw ansawdd y gemau sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – fel Enaid Coll neu The Bunker – yn ddigon da. Y sialens bellach yw cael y gemau yna at gynulleidfa fydd yn eu gwerthfawrogi. Mae hyn yn gam hollbwysig yn y broses o wneud gêm, ond mae’n un sy’n hollol estron i ni yng Nghymru ar y funud.
Pwy – pwy! – yng Nghymru fydd yn camu ymlaen ac yn cymeryd cyfrifioldeb dros hynny? Ta… ochenaid… fydd rhaid i ni yn f8 wneud popeth ein hunain? Eto.
Amser a ddengys.