gan Elidir Jones
Os welsoch chi fy adolygiad o Nioh, fyddwch chi’n gwybod bod y gêm yn debyg iawn o fod ar fy rhestr i o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Os welsoch chi ddim yr adolygiad, wel… dyma fo.
Coeliwch neu beidio, mae gennym ni yma yn Fideo Wyth gopi sbâr o’r gêm ar y PS4 i’w roi, yn rhad ac am ddim, i un ennillydd lwcus! Does dim diwedd i’n caredigrwydd.
I ennill copi, i gyd sydd angen i chi wneud ydi:
- Dilyn @fideowyth ar Twitter, neu ar Facebook.
- Gadael sylw, un ai ar Facebook, Twitter, neu’r cofnod yma, yn dweud eich bod chi eisiau copi. Os am wneud sylw fan hyn, cofiwch nodi eich enw defnyddiwr ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Disgwyl.
Fe fydd yr ennillydd yn cael ei ddewis ar ddydd Gwener nesaf, Mawrth 3ydd. Digon o amser felly. Ond dim gormod.
Gewch chi ddim llawer o gyfleoedd gwell na hyn i ennill gêm o’r safon yma. Gwnewch o. Gwnewch o rŵan.