gan Elidir Jones
Mae hi wedi bod yn sbel ers ein adolygiad fideo diwetha. Ond mae pethau’n da yn dod i’r rhai sy’n disgwyl, ac mae’r un yma’n sicr yn un da. Dyma olwg ar Nioh – ymgais Team Ninja i efelychu Dark Souls, sydd rhywsut yn… well? Gwyliwch. Gwyliwch, da chithau.
Fel arfer, y botwm ‘CC’ sy’n cael gwared ar yr isdeitlau ‘na.
Ac os ydych chi’n hoffi golwg Nioh, cadwch lygad barcud ar fideowyth.com yn nes ymlaen heddiw, achos mae gennym ni gopi i’w roi i un dilynwr lwcus, yn rhad ac am ddim.
Waw.
Dyma destun yr adolygiad, i’r rhai sy’n hoff o ddarllen stwff yn hytrach na’i wylio:
“Mae’n saff dweud ‘mod i’n ffan o Dark Souls.
Dwi ‘di chwarae ac ailchwarae’r gemau, wedi darllen llyfr am y gyfres, ac wedi prynu’r crys T. Yn llythrennol. Ar ben hynny, dwi ‘di trio’r holl clôns a rip-offs o’r gyfres ‘fyd. Mae rhai, fel Salt and Sanctuary, yn dal ysbryd y peth yn llwyr, tra bod eraill, fel Lords of the Fallen… ddim.
A rwan, dyma Nioh. Gêm sy’n cymryd Dark Souls, ei drawsblannu slap-bang i Siapan bedair can mlynedd yn ôl, ac yn ychwanegu… stwff. Lot. Fawr. Iawn. O stwff. A sibrydwch y peth, ond mae’n… gweithio. Mewn rhai ffyrdd, mae o… hyd yn oed yn well.
Cyn i fi gael fy llosgi’n fyw am fod yn heretic, dyma pam.
Mae’r holl betha ‘da chi’n hoffi o Dark Souls yma. Yn chwarae fel ffigwr hanesyddol go-iawn, Gwyddel o’r enw William Adams ddaeth yn un o’r tramorwyr cynta erioed i gael bod yn samurai, fyddwch chi’n brwydro eich ffordd o gwmpas byd hard-as-nails yn llawn gelynion dynol a bwystfilaidd, yn cryfhau ac yn mireinio eich cymeriad wrth fynd. Mae ‘na fosys anferth, stori od ac aneglur – ond heb swyn rhyfeddol Souls, yn anffodus – fe allwch chi chwarae drwy’r holl beth efo ffrind…
Ond mae ‘na fwy. Lot mwy. Yn Dark Souls, er enghraifft, yr unig ffordd o wella’ch cymeriad ydi lefelu fyny. Yn Nioh, mae hynny’n dal yma, ond mae ‘na hefyd… [anadl ddofn]
… arfau, arfwisgoedd ac offer sy’n newid eich stats. Tylwyth teg bach gwyrdd wedi eu cuddio ym mhob lefel sy’n rhoi bonwsus gwahanol i chi. Dewis eang o symudiadau arbennig o’r enw guardian spirits. Rhestrau diddiwedd o sgiliau a swynau cudd i’w datgloi. System o gampau i’w cyflawni – lladd hyn a hyn o elynion, defnyddio arf penodol hyn a hyn o weithiau – sy’n cynnig mwy fyth o welliannau i chi. Hanner ffordd drwy’r gêm, gewch chi’r opsiwn o ymuno efo clan – mae ‘na tua 40 ohonyn nhw – efo manteision gwahanol yn gysylltiedig efo pob un. Mae’n hurt, deud y gwir. Ond coeliwch neu beidio, mae’r gêm yn esbonio hyn i gyd yn bur dda.
A does dim angen deifio’n ddwfn i’r holl systemau a thablau a siartiau ‘ma er mwyn mwynhau Nioh. O’r cychwyn cynta, mae o jyst yn teimlo’n iawn. Mae’n perthyn i’r llinach ecsgliwsif ‘na o gemau – Destiny, Super Mario Bros – sy’n hollol llyfn, yn gwneud i chi anghofio bod ‘na reolydd yn eich dwylo. A dim ond cryfhau mae’r teimlad ‘ma wrth i chi ychwanegu llond trol o alluoedd newydd at eich arsenal.
Bach o siom ydi hi, felly, bod dim angen eu defnyddio nhw i gyd er mwyn llwyddo. Mae’n berffaith bosib mynd drwy’r holl beth yn defnyddio llond llaw o’r un symudiadau drosodd a throsodd, efo’r gêm ddim cweit yn cyrraedd y lefel sbeitlyd o galetwch sy’n nodweddiadol o Dark Souls ar ei waetha. Mae hyd yn oed yn bosib dysgu un neu ddau o driciau sydd hyd yn oed yn gwneud y bosys yn haws. Ond pam mae’r gêm mor hwyl â hyn, pwy sy’n cwyno?
Problem fwy, dwi’n meddwl, ydi bod Nioh, erbyn y diwedd, yn teimlo fymryn bach yn undonog. Y prif reswm am hyn ydi’r gelynion – does ‘na jyst ddim digon ohonyn nhw. Ydyn, mae nhw’n mynd yn sylweddol galetach wrth i’r gêm fynd yn ei flaen, ond pan ‘da chi’n gwynebu’r un chwech neu saith teip drwy’r amser, yn fuan iawn ‘da chi’n dysgu sut mae eu curo nhw.
Unwaith ‘da chi’n plannu’ch cleddyf neu’ch bwyell neu’ch gwaywffon neu’ch ddau gleddyf neu’ch kusarigama – gair da – i mewn iddyn nhw, mae nhw’n ffrwydro’n hyfryd gan ollwng mynyddoedd o loot. Gormod ohono fo, deud y gwir. ‘Da chi’n boddi ynddo fo yn fuan iawn, a wnes i dreulio rhan helaeth o’r gêm fwy neu lai yn ei anwybyddu. Sy’n siom. Yn hyn o beth, ella ddylsa Nioh fod wedi cymryd mwy o ddylanwad gan Dark Souls, a llai gan Diablo a Destiny.
Ac mae ‘na fwy o Destiny, yn digwydd bod, yn yr agwedd aml-chwaraewr. Sut mae lefelau dyddiol arbennig yn swnio, yn galetach na’r lefelau arferol? Neu’r gallu i chwarae chyncs o’r lefelau eto, efo pethau wedi newid ymhellach fyth? Mae ‘na hyd yn oed fersiwn hollol wahanol, siwpyr-anodd, o’r gêm cyfan, wedi ei gynllunio i ddau o bobol chwarae efo’i gilydd. Os ‘da chi isio mynd drwy bob dim – Pob. Un. Dim. – yn Nioh, fyddwch chi’n chwarae rhai darnau bedair gwaith. Mae’n swnio fel cynllunio diog, ond heb i chi brofi’r peth eich hun, fyddwch chi ddim yn deall jyst pa mor hwyl ydi o.
Nioh ydi’r gêm llawn cynta i fi ei orffen flwyddyn yma, a fydda i wedi synnu os dydi o ddim ar fy rhestr i o gemau gorau’r flwyddyn. Oes, mae ‘na broblemau yma, ond i fi, sy’n awchu am fwy o Dark Souls, sut bynnag alla i gael o, fel ryw fath o junkie masocistaidd, mae’n ffitio’r bil yn berffaith. Dwi wedi archebu’r cynnwys ychwanegol yn barod, a dwi’n siwr y bydda i’n sgipio rownd Bangor yn gwisgo’r crys T cyn i chi droi rownd.
Mae’n saff dweud ‘mod i’n ffan o Nioh.
Mae Nioh allan rwan ar y PS4. Cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.”