gan f8
Pod Wyth! Rhif wyth! I love it when a plan comes together.
Ac mae’r un yma’n bennod arbennig iawn. Sut mae’r podlediad rhyng-gyfandirol cynta yn y Gymraeg yn swnio i chi? Ydi, mae Daf yn darlledu o Seattle, tra bod Elidir yn gorfod bodloni ei hun ar Fangor yn y glaw. Dydi hyd yn oed Môr yr Iwerydd ddim yn ddigon i’n stopio ni.
Ar y rhifyn yma:
– Daf yn rhoi’r holl hanesion am ei drip i sioe DICE yn Las Vegas.
– Argraffiadau Elidir o Nioh, Gwent, Crypt Of The Necrodancer, a Ghost Recon: Wildlands.
– Edrych ymlaen at y gêm Elder Scrolls nesa, ac at Middle-Earth: Shadow Of War.
– Daf yn rhannu ei brofiadau cyntaf efo’r Nintendo Switch, ac edrych ymlaen at y lawnsiad.
– Cyflwyniad i’r gêm blatfform.
– Y bois yn edrych nôl ar lawnsiadau consols y gorffennol. Mae Comet Rhyl yn cael mensh, a deigryn yn siŵr o ddod i’r llygad.
‘Co ni off:
Yr holl nonsens ‘ma hefyd ar iTunes, Stitcher a TuneIn, fel arfer.