gan Elidir Jones
Yn eu darllediad olaf cyn rhyddhau’r Switch ar Fawrth y 3ydd, mae Nintendo wedi datgelu llwyth o gemau annibynnol sydd am wneud eu ffordd i’r system.
‘Ma ni:
O’r rhain, dwi’n meddwl mai WarGroove a Shakedown Hawaii sy’n apelio ata i. Ond dwi’n sycyr am gemau ecsgliwsif hefyd, felly ella wna i drio Pocket Rumble. Ac mae ‘nghalon retro yn awchu am gael trio Blaster Master Zero, tra dwi wrthi.
Mae’n rhaid dweud bod y farn boblogaidd ar y Switch – bod ‘na jyst ddim digon o gemau – wedi ei wyrdroi’n llwyr erbyn hyn. Ar ben yr holl stwff sydd wedi ei gynnwys yn y fideo uchod, dydi’r dewis ar y diwrnod cynta ddim yn edrych yn ffôl, chwaith.
Fe fydd pawb yn cael Zelda, wrth gwrs. Ond dwi ‘di ‘nhemtio gan Super Bomberman R a Fast RMX hefyd, sydd ill dau yn ecsgliwsif. A wedyn dyna Snipperclips, Shovel Knight, I Am Setsuna…
Be amdanoch chi? Oes ‘na stwff annibynnol sy’n neidio allan? A pha gemau fyddwch chi’n deifio i mewn iddyn nhw ar y diwrnod cynta? Rhowch wybod.
Ellith Dydd Gwener ddim dod yn ddigon buan…