Deuddydd yn y Gwyllt

gan Elidir Jones

Mae’r llwch bellach wedi setlo ar lawnsiad y Switch.

Mae cannoedd o filoedd o chwaraewyr bellach yn mynd i’r gwaith neu’r ysgol dan rwgnach, ac yn cyfri’r oriau cyn iddyn nhw gael mynd adre a chwarae New Frontier Days: Founding Pioneers.

Neu The Legend of Zelda: Breath of the Wild. Un o’r ddau.

Dydi hi ddim yn gyfrinach bod hon yn gêm eitha arbennig. I roi pethau’n ysgafn.

zelda-breath-of-the-wild-reviews

Ac yn amlwg, alla i ddim rhoi barn derfynol ar gêm mor enfawr heddiw. Dwi fwy neu lai wedi bod yn rhedeg rownd y lle yn dilyn fy nhrwyn, yn cryfhau fy nghymeriad, ac yn anwybyddu’r prif stori bron yn llwyr. Ond mae dau ddiwrnod llawn o chwarae yn ddigon i daflu chydig o sylwadau gwasgarog at ei gilydd. Jyst.

Dyma ychydig o’r pethau penodol sydd wedi neidio allan i fi.

Y Graffeg

Mae ffans Zelda yn glanio mewn dwy garfan: y rhai sy’n cwyno am steil cartwnaidd gemau fel The Wind Waker… ac oedolion.

A tra y byddwn i’n hapus tysa pob un Zelda yn edrych fel ffilm Disney, dwi’n deall bod angen plesio’r rhai sy’n teimlo y dylai’r gemau edrych fymryn yn “aeddfetach”. Ac mae Breath of the Wild yn cael y balans yn berffaith.

Felly ydyn, mae Link a Zelda yn bobol ifanc yn hytrach na phlant, ac mae’r byd yn llawn manylder, ac mae ‘na angst yn dod allan o phob twll a chornel, ond mae ‘na hefyd ddarnau sy’n syth allan o Wind Waker. Wele.

hestu-meet-zelda-botw

Allwn ni gadw’r steil graffegol yma am byth bythoedd, plis Nintendo? Diolch. O’n i’n gwbod bod ni’n fêts.

Y Camera

Mae ‘na bwynt yn y gêm yn dod, yn gynnar iawn yn y prif stori – neu ar ôl tua diwrnod a hanner o chwarae, os ‘da chi fel fi – lle ‘da chi’n cael camera. Neu app camera ar gyfer tabled hud, i fod yn fanylach. It’s very now, darling.

A dwi dal ddim yn siŵr be ydi pwynt hyn. Dwi ddim yn gwbod ydych chi’n cael unrhyw wobr am gymryd lluniau o bob un dim, ond mae’r gêm yn rhoi albym luniau gwag i chi ei lenwi… a fedra i ddim stopio.

Dwi’n cropian drwy’r gwrychoedd yn trio cael y shot perffaith ‘na o aderyn prin. Yn gollwng fy holl arfau ar lawr er mwyn cymryd lluniau arti ohonyn nhw. A, pan dwi’n cyfarfod math newydd o elyn tra’n crwydro’r byd mawr drwg, dwi’n gwneud yn siŵr ‘mod i’n cael llun cyn estyn am fy arf. Yn rhy hwyr, y rhan fwya o’r amser.

Do’n i ddim yn disgwyl, pan wnes i brynu’r gêm Zelda mwya uchelgeisiol erioed, y byddwn i’n ei thrin fel Pokemon Snap. Ond dyma ni.

Y Cyflymder

Mae Breath of the Wild yn gêm ara deg. A dwi wrth fy modd efo hynny.

Dydych chi ddim yn cael eich gwthio i wneud dim byd, yn rhydd i fynd yn hamddenol drwy’r prif stori, neu ei anwybyddu’n llwyr. ‘Da chi’n cael digon o amser i ddysgu chwarae’r gêm yn y ffordd sy’n eich siwtio chi – sy’n gymaint o help mewn gêm mor agored – a hefyd i ffurfio barn solet am y profiad. Dwi wedi darllen sawl adolygwr yn sôn eu bod nhw ddim yn rhy siŵr am y peth i ddechrau, ond bod y gêm yn agor ac yn ychwanegu lot mwy o systemau wrth i chi fynd ymlaen. Dydi hon ddim yn gêm sy’n taflu popeth atoch chi ar unwaith, yn eich cloi i mewn i wneud tiwtorial ar ôl tiwtorial cyn cael gwneud unrhyw beth arall – rhywbeth sy’n dod yn bla mewn gemau mawr modern.

Peth arall sy’n ticio ‘mocsys i: ‘da chi’n tueddu i ddefnyddio’r un arfwisgoedd am oriau, sy’n gwneud y broses o gael stwff newydd yn lot mwy arwyddocaol. Dwi’n dal i wisgo’r un pâr o drowsus wnes i ffeindio ar ddechrau’r gêm. A dwi’m yn meddwl bod Link wedi eu golchi nhw unwaith. Ffiaidd.

Rhai Cwynion

Does ‘na’r un gêm sy’n hollol berffaith, wrth gwrs. Ac mae ‘na ambell beth annifyr am BotW, coeliwch neu beidio. Fel…

– Ella bod ‘na ddim lot o arfwisgoedd yn cael eu taflu atoch chi, ond mae ‘na ormod o arfau. ‘Da chi wastad yn gorfod ffidlo efo’ch stwff er mwyn gwneud lle i gleddyf neu fwa sgleiniog newydd, er bod y broblem yma’n sicr yn gwella wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

– Dydi rheoli Link ddim yn hawdd, yn enwedig os ‘da chi’n hen law ar Zelda. Pwyso X i neidio a B i redeg? C’mon, Nintendo. Dydi hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Fedrwch chi newid ambell opsiwn yn hyn o beth, ond dim digon o bell ffordd. Dwi’n meddwl ‘mod i ‘di lapio ‘mrên o gwmpas y system bellach, ond yn ddelfrydol, ddylai hynny ddim bod wedi cymryd dau ddiwrnod.

– Dwi ddim yn siŵr eto sut dwi’n teimlo am y diffyg llwyr o dungeons traddodiadol. Ydyn, mae’r shrines – fersiynau bach, bach ohonyn nhw – yn ticlo’r gosfa ‘na i raddau, ond ydi hyn yn mentro dipyn bach gormod i ffwrdd o’r fformiwla? Gofynnwch i fi eto nes ‘mlaen.

Ond yn y pen draw, hel beiau ydw i fan hyn. Mae holl wendidau’r gêm yn pylu wrth ymyl ei chryfderau. A’r mwyaf ohonyn nhw ydi…

Y Rhyddid

Mae’n dipyn o cliche erbyn hyn bod gemau byd-agored yn gadael i chi “fynd unrhyw le a gwneud unrhyw beth”. Deuddydd cyn rhyddhau Breath of the Wild, er enghraifft, roedd Horizon: Zero Dawn yn gaddo’r un peth yn union. Ond mae BotW yn arbennig nid oherwydd bod o’n rhoi rhyddid i’r chwaraewr, ond sut mae o’n gwneud.

Felly yn ddelfrydol (er bod dim rhaid i chi wneud hyn), fyddwch chi’n taclo pedwar prif sialens cyn gwynebu’r bos ola – un yn y gogledd, un yn y de, un yn y dwyrain, ac un yn y gorllewin. Dyna’r unig gyfarwyddiadau ‘da chi’n eu cael. Ac mae’n fyd mawr. Does dim byd amdani ond… crwydro. Pleser pur.

Un o’r tasgau mawr eraill ydi ymweld â thua dwsin o leoliadau o gwmpas y byd er mwyn cael eich atgofion yn ôl, a’r unig ffordd o weithio allan lle mae nhw ydi drwy astudio ffotograffau. ‘Da chi’n cymharu’r ffotograff efo’ch map, a pan mae popeth yn clicio, ‘da chi’n teimlo fel Sherlock Holmes.

Ambell waith, mae ‘na gymeriadau yn eich cyfeirio at ran arbennig o’r byd, ond does ‘na ddim marc yn ymddangos ar eich map – mae’n rhaid i chi gofio’r cyfarwyddiadau.

Ydi, mae Breath of the Wild yn hyfryd o old-school – mae ‘na bosau sy’n gofyn i chi ddefnyddio papur a phensel er mwyn eu datrys! – ond nid mewn ffordd sadistig fel lot o hen gemau. Mae’r sialensau yn anodd heb fod yn amhosib, a fyddwch chi ddim angen mynd ar-lein mewn ffit o pique i chwilio am atebion. Dim ond ychydig o waith meddwl (a lot o grwydro) sydd ei angen.

Mewn geiriau eraill, mae’n teimlo fel bod Nintendo wedi trio ailgreu’r Legend of Zelda cynta. Neu yn hytrach, wedi cymryd y gwaith celf o’r gêm yna, yn gaddo rhyddid pur, ac antur heb ddiwedd…

zelda1-official

… ac wedi gwneud hynny’n wirionedd.

2017022420273400_f1c11a22faee3b82f21b330e1b786a39-0

Dyna ni’r ychydig bethau sydd wedi ‘nharo i hyd yn hyn, beth bynnag. Dau ddiwrnod o chwarae, a dwi wedi gallu mwydro am bron i fil a hanner o eiriau’n hawdd. Mae’n glir, hyd yn oed ar y pwynt yma, bod Breath of the Wild yn glasur. Alla i ddim disgwyl i ddarganfod, dros y wythnosau nesa, faint o glasur yn union ydi o.

Chi fydd y cynta i wybod, wrth gwrs. Rŵan sgiwsiwch fi. Mae gen i fyd gwyllt i’w goncro.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s