Yn Erbyn y Ffrwd

gan Elidir Jones

Ar yr olwg gynta, mae gwefannau fel Twitch yn edrych fel manna o’r nefoedd i ffans o gemau. Cant a mil o sianeli gwahanol yn ffrydio gemau’n fyw, o hoelion wyth y sîn e-chwaraeon fel League of Legends Hearthstonei glasuron retro, i gemau sydd wedi dod yn llwyddiant ar sail ffrydiau byw fel Stardew Valley a Goat Simulator. Mae o fel Sky Sports, ond am ddim, a heb arogl sur Rupert Murdoch drosto fo i gyd.

Edrychwch yn agosach, serch hynny, ac mae’r sglein yn dylu fymryn bach. Yn anffodus, mae trwch mawr o ffrydwyr byw yn ddynion ifanc sy’n gwneud unrhyw beth allen nhw i gael sylw. Heb swnio gormod fel Victor Meldrew, mae nhw un ai’n gweiddi’n wyllt efo cerddoriaeth uchel yn y cefndir, yn treulio eu holl amser yn bod yn negyddol er mwyn gwneud penawdau ar Reddit, neu’n waeth byth, yn trio apelio at ddilynwyr mudiadau asgell dde eithafol fel Gamergate.

Ac os ‘di hynny’n swnio’n ddrwg, mae’r stafelloedd sgyrsio hyd yn oed yn waeth, yn llawn sarhau hiliol a rhywiolaethol, ar ben memes a slang dwi jyst ddim yn eu dallt achos dwi’n hen.

494987028_preview_twitch-chat

Mae’n hawdd bod yn sur a chwyno am y stwff ‘ma byth a beunydd. ‘Da ni’n sicr wedi gwneud ambell waith. Ond dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod y rhai sy’n mynd yn erbyn y drefn ac yn creu cynnwys aeddfed, deallus, all pawb ei fwynhau. Fel…

Brian Kibler

Mae ambell i ffrydiwr yn meddwl bod ista ar eu tinau yn chwarae gemau drwy’r dydd rhywsut yn eu gwneud nhw’n arbenigwyr ar ddylunio gêm hefyd, yn hapus i farnu datblygwyr pan mae nhw’n rhoi un troed o’i le. Nid yn unig dydi Brian Kibler ddim yn gwneud hynny, ond mae o hefyd yn dylunio gemau ei hun – cyfuniad sydd wedi ennill statws iddo fel un o’r ffrydwyr mwyaf uchel ei barch ar Twitch.

Gemau cardiau ydi ei arbenigedd. Nid yn unig oedd o unwaith yn chwarae Magic: The Gathering yn broffesiynol, ond mae o hefyd yn ddylunydd ar y gemau Ascension: Chronicle of the Godslayer, Chaotic, Solforgea’r gêm gardiau World of WarcraftHeddiw, mae’n treulio ei ddyddiau yn ffrydio gemau fel Hearthstone, Duelystac Eternal – gêm arall wnaeth o helpu ei dylunio.

Felly mae o’n gwbod ei stwff o ran gemau. Ond hefyd mae o’n cymryd safiad cryf iawn yn erbyn y gwenwyn adain-dde sydd mor aml yn llygru Twitch. Os oes rhywun yn ei stafell sgwrsio’n dweud pethau hurt, mae o yno’n syth i roi pryd o dafod iddyn nhw. Ac ym mis Chwefror, fe wnaeth o lwyddo codi miloedd ar filoedd o ddoleri i’r American Civil Liberties Union – corff sydd mor, mor bwysig yn y byd Trympaidd bizarro ‘ma ‘da ni’n byw ynddi ar y funud.

Mae’n rhoi uchafbwyntiau o’i ffrwd fyw ar Youtube bob diwrnod – gemau hollol, hollol hurt o Hearthstone fel arfer.

Hyn oll, a dwi ddim hyd yn oed ‘di sôn am Shiro – ei gi amhosib o ciwt sy’n crwydro i mewn i’r ffrwd o bryd i’w gilydd.

1474631_10151993262425675_413272977_n

‘Sa waeth i fi orffen y cofnod yma rŵan.

Hafu

Rhywun arall sy’n ffrydio Hearthstone. Dwi’n ymddiheuro dim.

Os ydi hi’n anodd gwneud enw i’ch hun ar Twitch fel mae hi, mae’n gymaint anoddach os ‘da chi’n digwydd bod yn fenywaidd. Mae ambell i ffrydiwr (ffrydwraig?) yn chwarae’r system, yn creu cynnwys sy’n apelio at fechgyn yn ei harddegau mewn ffyrdd allwch chi eu dychmygu os ‘da chi ‘di treulio unrhyw amser o gwbl ar y we.

Mae Rumay “Hafu” Wang, ar y llaw arall, wedi cyrraedd yr uchelfannau mewn ffordd arall: drwy fod yn chwaraewr da. Yn chwaraewr da iawn.

Mae hi’n gyson yn gorffen ar ben y gynghrair Arena yn Hearthstone ar ddiwedd bob mis, ac yn gwneud hynny heb glochdar yn hunanbwysig fel ambell i ffrydiwr arall, yn ymddwyn yn dawel urddasol yr holl amser. Er bod hi’n medru rhegi fel trwpar pan dydi pethau ddim yn mynd ei ffordd hi, ‘fyd.

Mae’n werth i chi wylio’r ffilm ddogfen fer ‘ma lle mae Hafu yn trafod ei gyrfa, ac yn manylu ar y trafferthion sy’n gwynebu’r hi a merched tebyg sy’n meiddio neidio ar Twitch.

Ac os ydi hynny’n rhy drwm, mae ei darllediadau ar y cŷd efo Tang “Eloise” Haiyun o Tseina yn bethau i’w trysori. Mae’r culture clash yn gryf fan hyn, folks.

Ian Higton

Un o hoff newyddiadurwyr gemau Daf Prys, yn digwydd bod. A dim jyst achos ei fod o ac Ian Higton yr un sbit.

ian daf

Does ‘na ddim byd arbennig iawn am Mr Higton, i fod yn berffaith onest. Mae o’n newyddiadurwr hen-ffasiwn, sydd ddim yn dibynnu ar gimics i wneud ei bwynt, ac yn gwybod ei stwff. Weithiau mae hynny’n ddigon.

Ar Youtube mae Ian yn gwneud ei gartref, yn cynnig ei ffrydiau ei hun ar y sianel Platform32, a hefyd fel un o dîm fideo’r wefan Eurogamer. Ac i fod yn berffaith onest, er bod ei stwff solo yn lot o hwyl, mae ei waith ar Eurogamer yn amlygu ei dalentau lot mwy oherwydd dydi ei gyd-gyflwynwyr ddim yn dod yn agos at gyrraedd yr un safon. Dyma fo yn cyflwyno Goldeneye i newyddiadurwr gemau proffesiynol sydd erioed wedi ei chwarae, a ddim yn gwybod sut i ddal rheolydd N64.

Mam bach. Ma’ isio gras.

Ond ‘na ni. Wna i rhoi caead ar y cwyno fanna, ac awgrymu eich bod chi’n mynd i wylio gweddill ei stwff.

Y gwir ydi bod darlledwyr gwych fel Mr Higton, Mr Kibler a Ms Wang yn adennill ffydd rhywun yn y posibiliadau ynghlwm â ffrydio gemau, yng ngwyneb miloedd ar filoedd o bobol sydd… ddim. Ond mae’n siŵr gen i bod ‘na lot mwy o ffrydwyr gwerth chweil na rhain. Oes ‘na rai sy’n ticio’r holl focsys cywir i chi? Rhowch wybod yn y sylwadau isod.

2 comments

  1. Newydd ddechrau chwarae Ascension felly oedd e’n ddiddorol i glywed/gweld tipyn am un dylunydd o’r peth. (Ac yn braf glywed dyn decent a civilised yw e ‘fyd!) I fod yn deg, mae siop leol gemau bwrdd/cerdyn/tabletop yn dda iawn – yn arfer dw i’n teimlo fel ci sy’n siarad yn cerdded i mewn fel menyw ond mae’n wastad croeso da i fi yno.

    Sa wedi chwarae Hearthstone ond ‘di clywed lot amdano – mae ofn arna i o ddechrau un ‘timesink’ arall…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s