Merch Arall Wedi Mynd

Mae’n siŵr, erbyn hyn, eich bod chi’n gyfarwydd efo’r mudiad Gamergate. Os ddim, diolchwch am hynny. Wnaethon ni ei drafod o, nôl yn y dyddiau cynnar, ond ers hynny, mae’n deg dweud bod pethau wedi gwaethygu. Yn dilyn misoedd a misoedd o gael eu cam-drin, eu sarhau a’u henllibio, mae lot o’r merched oedd yn gwneud, trafod, a chwarae gemau yn heidio allan o’r diwydiant, ac yn dechrau ymddiddori mewn pethau mwy saff – fel comics, neu ffilmiau, neu ddofi llewod.

Ac mae’r diweddara wedi taro’n anghyfforddus o agos i mi.

Ochenaid. ‘Co ni off eto…

Fydd dilynwyr selog Fideo Wyth yn gwybod gymaint dwi’n hoff o’r gêm HearthstoneMae o’n briliant. Ewch i’w lawrlwytho fo rŵan. Am ddim.

Dwi hefyd wedi bod yn gwylio pobol yn chwarae Hearthstone. Mae hwnna hefyd yn briliant. Do’n i’n byth yn meddwl fyswn i’n dod yn ffan o wylio eChwaraeon, ond dyma ni. Mae gwylio gêm dda o Hearthstone yn gwell na gwylio darts. Ac mae hwnna’n ddeud mawr gen i.

Fwy neu lai bob nos dros y wythnosau diwetha, dwi wedi eistedd efo tabled yn fy ngwely a gwylio’r fideo diweddara gan Octavian “Kripparrian” Morosan – dyn sydd wastad yn rhoi sbin diddorol a gwreiddiol ar y gêm, er bod o chydig yn smyg weithiau. A dydi’r ffaith bod o’n galw ei ffans yn “bros” byth yn beunydd ddim yn helpu petha.

Ac yna, ryw wythnos a hanner yn ôl, fe bostiodd o’r fideo yma. Dwi’n argymell bod chi ddim yn boddran ei wylio, achos bod o’n nonsens llwyr.

Crynodeb o’r peth felly: mae Hyerim “Magicamy” Lee yn chwaraewr Hearthstone poblogaidd o Korea, ac un o’r ychydig o ferched sy’n gwneud rhyw fath o fywiolaeth allan o’r gêm. Ond mae sawl chwaraewr arall wedi honni mai nid hi sy’n chwarae mewn gwirionedd – bod criw bach o ddynion sydd yn chwarae’r gêm yn defnyddio ei gwyneb hi fel ffrynt. Am ryw reswm. Pam arall, medda nhw, doedd hi byth yn fodlon troi fyny i dwrnaments mewn person, ac yn cymryd rhan mewn gymaint o rai arlein?

Felly. Mae Kripparrian yn postio’r fideo yna, a dyma’r cynta dwi’n clywed am y peth. Achos Gamergate, dwi’n sensitif iawn i bethau fel’ma, a roedd o’n swnio braidd yn amheus i fi. Be fysa’r pwynt gwneud peth fel hyn yn y lle cynta? Ac, efo popeth sydd wedi digwydd mewn gemau’n ddiweddar, fyswn i’n synnu tysa hi ddim wedi cael cyhuddiadau gwallgo wedi eu taflu ati. Ond, gan resymu bod rhywun fel Kripparrian yn gwybod llawer mwy am chwaraewyr y gêm na fi, wnes i adael y peth fynd. Er bod ‘na ddim… ‘da chi’n gwbod… tystiolaeth.

Wel, gesiwch be? Celwydd oedd y cwbwl. ‘Na chi chyffing syrpreis.

Ac fe wnaeth yr holl beth ddechra bron yn union fel Gamergate ei hun – roedd ‘na seicopaths wedi dechra mynd yn obsesd efo Magicamy, wedi gyrru pres ac anrhegion ati (heb iddi ofyn), ac wedi pwdu pan doedd hi ddim yn fodlon neidio ar awyren, gadael ei chartre, a mynd allan efo nhw. Felly wnaethon nhw’r peth naturiol, a dechrau ei sarhau hi ar Reddit. Ac wrth gwrs, roedd ‘na ddigon o ffyliaid yn ddigon bodlon eu credu nhw.

Fe wnaeth hi wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwiliad wedi ei gynnal gan ei thîm Hearthstone, Tempo Storm, gafodd hi’n ddi-euog o unrhyw dwyll. Ond achos yr holl rybish sy’n cael ei thaflu ati’n ddyddiol, hyd yn oed ar ôl i’r holl beth gael ei sortio, mae hi wedi penderfynu rhoi’r gorau i chwarae, a chamu’n ôl o fywyd cyhoeddus. Am y tro, beth bynnag.

Y peth gorau ddaeth allan o hyn ydi’r fideo gafodd ei bostio gan aelod o’i thîm, Andrey “Reynad” Yanyuk, am yr holl fusnes. Dwi’n rhoi caniatâd i chi wylio’r fideo yma. Dyma sut mae cymryd ffyliaid i lawr.

Rhai dyfyniadau:

“She hasn’t played in an offline tournament. Maybe it’s because some Canadian guy’s been playing for her all this time. Maybe it’s that she didn’t have $1,500 to go play a card game in Sweden for one weekend.”

“It’s probably the biggest setback to women getting into eSports that I can recall happening in the past year or two.”

“I’ve been actually been embarrassed to be a Hearthstone player before last week. All of you should be f****** ashamed of yourselves.”

Dwi’n teimlo bod rhaid i fi bwyntio allan mai nid dyma’r tro cynta i gontrofyrsi fel hyn daro’r gymuned Hearthstone. Fis Gorffennaf diwetha, roedd ‘na dwrnament yn y Ffindir wedi mynnu bod dim croeso i ferched chwarae. Yna, ar ôl sbio ar eu watshys a darganfod bod hi’n 2015 – ac ar ôl i lu o wefannau a phersonoliaethau’r byd gemau eu condemnio – fe wnaeth y trefnwyr newid eu meddyliau.

Ond, ar y llaw arall, Blizzard – gwneuthurwyr y gêm – ydi un o’r cwmniau mawr prin (prin, prin, prin) sydd wedi gwneud safiad yn erbyn yr holl wallgofrwydd sydd wedi dod yn sgîl Gamergate. Does ‘na ddim bryd drwg am y gêm ei hun, na’i wneuthurwyr. Ond am y gymuned… wel, mae hwnna’n stori arall.

Mae’n gas gen i orfod sgwennu darn fel hyn eto. Ond dydi pethau ddim yn gwella. Mae’n rhaid i rywbeth mawr newid.

O, ac fel unrhyw newyddiadurwr da, nes i yrru neges at ein hen ffrind Kripparrian ar Ddydd Gwener.

magicamy

Wna i adael i chi wybod os ydi o’n boddran ateb.

– Elidir

3 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s