Ddeuddydd yn ôl, achos bod ni wedi cyhoeddi cant o bethau yma, fe wnaethon ni redeg drwy wyth o’n fideos gora. Achos ni ydi Fideo Wyth. Clyfar, de?
Ond ‘da ni, wrth gwrs, yn gwneud lot mwy na fideos rownd ffordd ‘ma. Felly be am wyth o’r goreuon eto – ond tro ‘ma, y stwff ysgrifenedig?
Cofiwch blantos – mae darllen yn cŵl.
Wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol i Golwg 360, dyma un o’r erthyglau cynnar sy’n mynd ati i esbonio pwrpas gwefan fel Fideo Wyth – yn esbonio sut mae gemau yn wahanol i ffilmiau a llyfrau, a pham bod angen eu trafod yn Gymraeg.
Dros flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Elidir ddatgan ei gariad tuag at y cwmni ffilmiau Blame Society Productions o Wisconsin, a’u rhaglen Beer & Board Games yn enwedig. Mae o dal yn gwneud pwynt o wylio eu stwff yn lot, lot rhy aml – mae nhw wir yn ysbrydoliaeth i unrhywun sy’n trio cynhyrchu cynnwys yn annibynnol ar y we. Darllenwch pam fan hyn.
Rhywbeth Gwahanol I’r Eisteddfod
Un arall o ddyddiau Golwg, lle mae Daf yn dadlau y dylai’r Eisteddfod symud efo’r amseroedd a chychwyn annog pobol i ddatblygu gemau yn y Gymraeg.
Flwyddyn yn ddiweddarach, does ‘na ddim arwydd bod hwnna am ddigwydd. Wnaethon ni drio, do?
‘Da ni wedi gwneud cwpwl o gyfweliadau yma ar Fideo Wyth, ac mae nhw wastad yn hwyl. ‘Da ni’n gobeithio gwneud mwy yn y dyfodol. Ond am y tro, mwynhewch yr un cynta, efo rheolwr y siop gemau bwrdd wych Rules Of Play yng Nghaerdydd.
Ofn A Misogynistiaeth Ym Myd Y Gemau
Mae sgandal Gamergate – ymdrech gan seicopaths i rwystro gemau rhag cynnwys unrhyw gynnwys gwleidyddol a gyrru merched allan o’r busnes – yn dal i rygnu ‘mlaen, gwaetha’r modd. Dyma oedd dechrau ein trafodaethau ar yr holl beth. Mwy fan hyn a fan hyn. Braidd yn dipresing ydi sylweddoli cyn lleied mae pethau wedi datblygu ers hyn.
Digon o’r stwff hyll yna. Weithia ‘da chi jyst isio sgwennu am gemau gwych. Dyna be gewch chi fan hyn, lle ‘da ni’n rhoi’n gwobr Gêm y Flwyddyn cynta i Destiny. Dwi’n siŵr y bydden nhw’n rhoi hwnna ar y bocs.
Ers dechrau Fideo Wyth, mae Daf ac Elidir wedi bod braidd yn unig, yn bwrw ymlaen efo pethau heb unrhywun i’w helpu nhw. Ond fis Mawrth yma, wnaeth hwnna newid wrth i’n ffrind Joe gyfrannu ei ddarn cynta – a gan bod o wedi bod yn lot prysurach na ni a chael plant, wnaethon ni roi Lego Batman 3 iddo fo. Dydan ni’n gâs?
Cofiwch, os hoffech chi fod yn cŵl fel Joe a chyfrannu, mae croeso i chi wneud.
Dim gemau’n unig ‘da ni’n ei drafod yma wrth gwrs. Yn ddiweddar, fe wnaeth Elidir droi ei sylw at Star Wars, achos bod pawb arall yn y byd yn gwneud, ac yn gofyn ddyliwn ni ddechrau cynhyrfu am y gyfres eto.
Spoilers: dylsan.
A dyna ni wyth o’r goreuon. ‘Da ni’n falch iawn o’r stwff yma, felly ewch ati i’w darllen nhw, yn eich amser eich hunan, dros baned o Bovril.
Ac ella wedyn wnewch chi lwyddo i anghofio am yr holl rybish arall ‘da ni’n gyhoeddi.
– f8