Cyfweliad: Rules Of Play

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mai 7, 2014.

S’mai bawb. Rywbeth dipyn yn wahanol i chi wythnos yma.

Dwi ‘di bod yn bangio’r drwm dros gemau bwrdd ers i’r blog ‘ma ddechrau. Hyd yn hyn, does ‘na ddim lot o dystiolaeth bod unrhywun yn gwrando arna i. Ond dwi’n mynd i ddal i fangio’r drwm. Achos mae gemau bwrdd – rhai sy’n llai nag ugain oed, o leia – yn briliant.

rules of play

Os ‘da chi’n byw yng Nghaerdydd a ddim wedi ymweld â siop Rules Of Play, ‘da chi’n gwneud cam mawr â’ch hun. Fel un sydd wedi ymweld â sawl siop gemau dros y blynyddoedd diwetha, fedra i ddweud yn ddi-flewyn-ar-dafod mai hwn ydi’r gora. Jyst sbiwch ar y lle, i ddechra. Mae’r siop yn edrych yn nefolaidd, mae ganddyn nhw wastad ddigon o stoc, ac mae’r staff yn hynod o wybodus a chyfeillgar, yn hapus i gyflwyno pobol at gemau newydd – ac at yr hobi yn gyffredinol, os ‘da chi ddim wedi chwarae gêm fwrdd ers Monopoly. Mae fy nghopïau i o Love Letter, Dixit, Pandemic, Tsuro, a fersiynau amrywiol o Munchkin oll yn dod o Rules Of Play – a dwi ddim hyd yn oed yn byw yng Nghaerdydd. Os ydych chi’n meddwl am siopau fel’ma fel llefydd tywyll, llychlyd, yn llawn pentyrrau anrhefnus o gemau a chomics a theganau, y staff yn ddynion tew, chwyslyd, sy’n gwneud hwyl am eich pen chi am fod yna yn y lle cynta… plis ewch i Rules Of Play, a gadewch i’r lle newid eich meddwl yn llwyr.

‘Da chi’n gwbod pa mor neis ydyn nhw? Wnaeth Ian Davis o’r siop gytuno i ateb llwyth o gwestiynau gen i. Gen i. O bawb. Well bod neb yn deud wrtho fo pa mor uffernol o amhoblogaidd ydi’r blog ‘ma, dyna i gyd dduda i…

Beth bynnag. Drosodd at Ian.

***********

Be ydi eich hanes personol chi gyda gemau bwrdd? Sut ddaethoch chi i mewn i’r hobi?

Ro’n i’n arfer chwarae lot o gemau yn blentyn, a wedyn yn fy arddegau es i drwy’r cyfnod Dungeons and Dragons gorfodol! Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio wnes i ddim stopio mwynhau gemau bwrdd yn union, ond gafodd fy niddordeb ei ail-gynnau’n iawn ryw 10 mlynedd yn ôl ar drip i Prague, lle wnaeth ein ffrindiau Czech ein cyflwyno ni i’r gêm gosod teiliau Carcassonne. Gawson ni gopi ganddyn nhw fel anrheg gadael a wnaethon ni fwynhau o gymaint fe wnaethon ni ddechrau prynu a chwarae gemau eraill, fel cwpwl ac efo ffrindiau ill dau.

Be ydi hanes Rules Of Play? Sut ddechreuodd y busnes, a sut mae o wedi tyfu ers hynny?

Roedden ni’n arfer prynu ein gemau o siop gemau bwrdd leol yng Nghaerdydd, wnaeth gau yn anffodus. Gawson ni sgwrs efo ffrind ddechreuodd efo ni’n dweud gymaint o siom oedd o na fyddai ganddon ni siop gemau yng Nghaerdydd dim mwy, ac orffenodd efo cynllun ar gefn amlen i agor un ein hunain!

Be ydi manteision siop brics-a-mortar dros fusnes sydd ar-lein yn unig?

Mae ‘na gymaint o amrywiaeth o gemau bwrdd a chardiau ar gael, fe ellith hi fod yn anodd iawn i wybod sut bethau ydyn nhw o’r blurb ar y bocs yn unig. Mae prynu o siop go-iawn yn gadael i’n cwsmeriaid ddod a siarad efo ni am eu hoff bethau a’u cas bethau, efo pwy mae nhw isio chwarae’r gêm a lle, faint mae nhw isio ei wario – ac yna fedrwn ni gynnig gemau ‘da ni’n meddwl y bydden nhw’n mwynhau, sy’n ffitio eu cyllideb. Yna ‘da ni’n dod i nabod ein cwsmeriaid, a fedrwn ni argymell gemau newydd ‘da ni’n meddwl y bydden nhw’n eu mwynhau wrth iddyn nhw ddod ar gael. Y gwasanaeth personol yma sy’n gwneud i’n cwsmeriaid ddod yn ôl eto ac eto.

Mae’r siop yn cynnal digwyddiadau byw yn y Gate yn y Rhath, ac yng Nghanolfan Chapter. Be ellith pobol ddisgwyl yn y digwyddiadau yma? Oes ‘na groeso i bobol sy’n newydd i’r hobi?

Mae’r digwyddiau yma’n rhoi cyfle i bobol drio gemau i weld a fydden nhw’n eu mwynhau, i ddarganfod gemau newydd, i gyfarfod pobol eraill ac yn bwysicaf oll, i gael noson hwyl allan. Mae croeso i bawb, dim ots ydyn nhw gwsmeriaid ai peidio; fel arfer mae ‘na sawl gwyneb newydd ym mhob digwyddiad, ac yn cael croeso gan chwaraewyr ac wrth gwrs gan dîm Rules Of Play. Mae ganddon ni hefyd staff wrth law i osod gemau i fyny ac i esbonio’r rheolau, felly mae’n gyfle gwych i bobol ddod a thrio gêm – hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi chwarae unrhywbeth erioed o’r blaen!

Pam ydych chi’n meddwl bod yr hobi wedi tyfu gymaint mewn poblogrwydd yn ddiweddar?

Er y bydd chwarae gemau ar gyfrifiadur yn parhau i fod yn boblogaidd, dwi’n meddwl ei fod yn deg dweud bod pobol hefyd wedi dechrau edrych am ffordd mwy cymdeithasol o chwarae gemau – ac mae eistedd o gwmpas y bwrdd yn cynnig hynny’n union. Hefyd mae esgyniad y nyrd – yn amlwg ym mhoblogrwydd enfawr rhaglen Tabletop Wil Wheaton – yn golygu bod gemau bwrdd a chardiau yn dod yn rhan o brif ffrwd diwylliant; dydi cael cwpwrdd llawn gemau ddim yn gyfrinach tywyll bellach! Yn ola, wrth i fywyd ddod yn fwy drud, mae pobol yn sylweddoli bod buddsoddi mewn chydig o gemau bwrdd un ai fel teulu neu fel grŵp o ffrindiau yn ffordd cost-effeithiol iawn o ddarparu adloniant!

Ydych chi’n meddwl bod pobol yn dal i edrych i lawr eu trwynau ar gemau bwrdd? Os felly, sut mae newid y rhagfarn yna?

Hyd yn oed yn y pedair mlynedd mae’r siop wedi bod ar agor, ‘da ni wedi sylwi bod gemau wedi dod yn fwy ‘parchus’ a hyd yn oed, mi fentra i, chydig bach yn trendi! Mae hyn oherwydd yr amlygrwydd dwi’n meddwl – y mwyaf o bobol sy’n gweld pobol yn chwarae gemau, un ai mewn digwyddiadau, yn y dafarn, neu gartre, y mwya o bobol fydd yn dod yn fwy chwilfrydig, a fydd isio darganfod mwy – a dydi hi ddim fel arfer yn hir cyn iddyn nhw ddod o hyd i gêm sy’n siwtio nhw!

Mae ‘na ddigon o adnoddau, gwefannau, a chyfresi fideo am gemau ar y we. Oes ganddoch chi unrhyw ffefrynnau? Dwi’n ddyn Beer And Board Games fy hun.

Roedden ni’n arfer gwirioni efo’r fideos o siop gemau Cat and Mouse, ond yn anffodus dydyn nhw ddim ar gael bellach! Mae Tabletop gan Wil Wheaton yn grêt, a ‘da ni hefyd yn hoff o Watch it Played; ac am eu amrywiaeth llwyr o gemau, allech chi ddim curo’r Dice Tower wrth gwrs.

Cwestiwn anodd – oes ganddoch chi hoff gêm? A pa gemau sy’n mynd â’r mwyaf o’ch amser y dyddiau yma?

Mae hwnna yn gwestiwn anodd yn wir… yn bersonol, dwi wrth fy modd efo gemau strategaeth i ddau chwaraewr wedi eu gosod mewn cyd-destun hanesyddol, er enghraifft Twilight Struggle neu A Few Acres Of Snow. Os ydw i’n chwarae efo’r teulu yna Survive – Escape from Atlantis, Carcassonne, Ticket to Ride a Forbidden Island ydi’r ffefrynnau ar y funud. Ac os ydw i allan, dwi’n hoff o gyflwyno pobol i gemau medrusrwydd fel Carrom, Crokinole a’u perthnasau ieuengach fel Pitch Car neu Cube Quest.

Oes ‘na ddyfodol disglair i gemau bwrdd, ‘da chi’n meddwl? Unrhyw gemau newydd diddorol ar y gorwel?

Yn sicr! Mae ‘na wastad gymaint o syniadau, mecanweithiau a themâu yn cael eu datblygu. Mae Kickstarter hefyd wedi agor y drws i gymaint mwy o ddylunwyr ac mae’r diwydiant yn fywiog iawn ar hyn o bryd. Mae’n anodd iawn dewis pa gemau fydd yn dod yn boblogaidd; er hynny, un ‘da ni’n teimlo fydd yn sicr yn llwyddiant ydi Machi Koro gan Pandasaurus Games: http://pandasaurusgames.com/project/machi-koro/

Y cwestiwn olaf (a’r un mwya pwysig): pwy fysa’n ennill mewn ffeit – Wil Wheaton ta Tom Vasel?

wil vs tom

Er bod meddwl amdanyn nhw’n gwisgo siwtiau reslo sumo yn gwneud i fi chwerthin, fydda fy mhres i ar Felicia Day yn cicio tinau’r ddau ohonyn nhw!!!!

489838600

**********

‘Na ni. Gwnewch ffafr â’ch hun a stopiwch heibio’r siop y tro nesa ‘da chi’n Nghaerdydd. A tan i chi wneud, pam ddim ymweld â’u gwefan nhw, a’u dilyn ar Facebook a Twitter? Pam ddim? Rhowch un rheswm da i fi.

Chwaraewch mwy o gemau. Cefnogwch fusnesau annibynnol. Cofiwch fwyta digon o ffrwythau a llysiau. A wela i chi tro nesa.

7 comments

  1. Gret i weld bach o sylw i gemau fwrdd yn yr heniaith. Rules of Play yn wych o siop – staff yn ennillgar tu hwnt, a’r cyfle i ware gemau cyn eu brynu ar nosweithaiau Llun yn Urban Tap House yn synid da. Cymru gyda hen hanes o ware gmau bwrdd – gweler bit.ly/1lV39Ql

    • Bril! Diolch.

      Ia, dwi’n jealous braidd o’r nos Lun yn Urban Tap House. Annifyr ‘di byw ym Mangor pan mae ‘na gymaint o betha neis ym mhob man arall.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s