Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mai 18, 2014.
Iawn, bawb?
Fideo newydd i chi heddiw – ail ran fy nghyfres ar gemau bwrdd digidol sydd ar gael dros Steam. Ddim wedi penderfynu eto fydd ‘na drydydd rhan. Dim am sbel, os o gwbwl, ella.
Hefyd yn y fideo: y newyddion bod fy fideos am ymddangos ar sianel Youtube Fideo Wyth o hyn ymlaen. Mae gen i a Daf o Fideo Wyth lot o blaniau ecseiting. O, oes. Ond fydd rhaid i chi ddisgwyl am rheini. Am y tro, mwynhewch y fideo.