Ffyni, De?

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mai 20, 2014.

Dwi ‘di bod yn gwneud comedi am ryw saith mlynedd bellach. Ar lwyfan, ar sgrîn, ar y radio… hyd yn oed ar record yn fuan, diolch i Recordiau Tarw Du. Mae o’n anodd. Pan mae o’n mynd yn dda, does ‘na ddim byd gwell. Ond pan mae o’n mynd yn ddrwg… wel, ‘da chi’n dechra drwglicio eich hun eitha dipyn, yn diawlio’ch hun yn eich meddwl am eich anallu llwyr i wneud i bobol chwerthin. Ac yn waeth byth, mae pawb arall yn dechra eich casau chi hefyd. Efo casineb perffaith.

Comedi ydi’r unig beth sy’n achosi’r ymateb yna. Wnes i watshiad y ffilm Olympus Has Fallen wythnos diwetha. Roedd o’n rybish. Ar un pwynt, ddywedodd un cymeriad y linell bythgofiadwy…

Let’s play a game of “Go F*** Yourself”.

Am ddim rheswm. Waw. Ond dyma fi, wythnos yn ddiweddarach… a dwi ddim yn casau Aaron Eckhart na Gerard Butler na Morgan Freeman achos bod nhw wedi meiddio actio yn y ffilm. Dwi ddim yn malio un ffordd neu’r llall am Gerard Butler, os dwi’n hollol onest. Ond 14 mlynedd ar ôl gweld Meet The Parents yn y sinema, a dwi dal ddim ‘di maddau i Robert De Niro a Ben Stiller.

Oedda chdi yn Midnight Run, Bobby. Sut elli di?

Mae ‘na rwbath am gomedi. Os ‘da chi’n cerdded i mewn i sinema neu glwb yn disgwyl chwerthin, a chithau ddim yn gwneud, ‘da chi’n dod allan o’r profiad isio lladd rywun. Ella dyma pam does ‘na ddim lot fawr iawn o gemau comedi ‘di bod. Mae gwatshiad ffilm awr a hanner sy ddim yn ddigri yn ddigon drwg… dychmygwch suddo 30+ awr i mewn i’r un math o brofiad. Fysa ‘na waed ar y strydoedd.

Ond dwi’n falch o ddeud bod ‘na rai gemau wedi sticio eu gyddfau uwch y parapet ac wedi trio bod yn ddigri. Wnewch chi ddod efo fi i gymryd golwg ar rai o’r goreuon? Os wnewch chi, wna i brynu hufen ia i chi.*

* Nodyn cyfreithiol: wna i ddim prynu hufen ia i chi.

South Park: The Stick Of Truth

Be am ddechra efo’r gêm ddaeth allan yn fwya diweddar? Yn fy mrên i, mae hwnna’n gwneud sens.

Dwi ‘di sôn am The Stick Of Truth o’r blaen. Famma, i fod yn benodol. Ac mae adolygiad Fideo Wyth fan hyn. Does gen i ddim lot fawr iawn i’w ychwanegu, i ddweud y gwir. Mae’r darn wedi ei leoli yng Nghanada yn dal i fod ymysg y pethau gora mae’r ddynol ryw erioed wedi ei greu. Am gêm weddol fyr, mae ‘na nifer gwirioneddol stiwpid o jôcs a gags cudd. Mae bob un eitem ac arf yn cynnwys nod bach i’r rhaglen deledu, mae’r ymosodiadau arbennig ‘da chi’n gallu gwneud yn ystod brwydrau yn hollol briliant, ac mae bron i bob un llinell o’r deialog yn bownd o wneud i chi giglo – os ‘da chi’n ffan o’r sioe, o leia. A sut allwch chi ddim bod yn ffan o’r sioe efo petha fel hyn yn digwydd wili-nili?

Wnaeth sawl adolygiad welais i o The Stick Of Truth ei ddisgrifio fel y gêm mwya digri erioed. Wna i esbonio fy marn bersonol i mewn mwy o fanylder ar ddiwedd y darn ‘ma, ond am y tro, ddyweda i ‘mod i’n cytuno efo’r farn ‘na… mewn ffordd.

Dramatic ta be? Wnewch chi deffo barhau i ddarllen rŵan. Dwi’n rêl pro.

Monkey Island

Ar ôl anturiaethau testun yr 80au fel Zork a The Hitchhiker’s Guide To The Galaxy

(Dwi ddim yn gyfarwydd iawn efo rhein. Wnes i drio eu chwarae nhw “nôl yn y dydd”. Wir yr. Ond roedden nhw’n wirion o anodd. Plys o’n i’n ryw bump oed ar y pryd.)

… y gyfres Monkey Island oedd y gemau mawr cynta i wneud hiwmor yn ran allweddol o’r profiad. Er bod ‘na bump o gemau yn y gyfres, The Secret Of Monkey Island a Monkey Island 2: LeChuck’s Revenge, y gemau cynta, ydi’r rhai mae’r rhan fwya o bobol yn eu cofio ora. Mae’r gemau diweddara yn y gyfres yn iawn, ond ar ôl ymadawiad creawdwr Monkey Island, Ron Gilbert, roedd ‘na rywbeth yn sicr wedi mynd ar goll yn rhywle.

Mae’r gemau yma’n anodd hefyd. Dydi lot o’r posau ddim yn gwneud lot fawr iawn o sens, a fyddwch chi’n gwario lot o’ch amser yn crwydro o gwmpas y byd yn clicio ar bob un chyffing dim achos bod chi ‘di rhedeg allan o opsiyna call. Ond mae’r hiwmor yn help mawr i leddfu’r boen yna. ‘Da chi isio parhau yn y gêm jyst i weld y rhan boncyrs nesa ohono fo.

Y rhannau enwoca o’r gêm cynta, o bosib, ydi’r darnau lle ‘da chi’n ymladd y gelyn efo cleddyfau, yn trio eu curo nhw wrth ddod i fyny efo’r insylts gora posib:

OK, dydi o ddim yn cyrraedd uchelfannau Airplane! neu This Is Spinal Tap, ond mewn oes lle oedd gemau’n ddim byd mwy na siapiau aneglur yn bîpian ac yn blŵpian… roedd gwatshiad hwnna fel gwatshiad The Life Of Brian neu rwbath. Mae’r clip yna o’r fersiwn swanci HD newydd o’r gêm, sydd ar gael famma.

Gyda llaw, fysa dim trafodaeth o Monkey Island ddim yn gyflawn heb i fi sôn am pa mor syml ydi’r gyfres i’r ffilmiau Pirates Of The Caribbean. Mae ganddoch chi long o fôr-ladron sydd hefyd yn zombies, wedi eu harwain gan gapten dieflig; arwr gor-idealistig sydd ar y ffordd i ddod yn fôr-leidr; offeiriades voodoo yn byw yn y gors; mwncwns; arwres snŵti o dras uchel… a bellach, efo holl ymerodraeth George Lucas wedi ei werthu i Disney, mae’r ddwy gyfres dan yr un to. Oes ‘na siawns welwn ni Guybrush Threepwood o Monkey Island yn bympio mewn i Capten Jack Sparrow yn fuan? Ella wir. Ond wna i ddim mynd i weld o. Achos mae Pirates Of The Caribbean yn rybish.

Dwi’m yn gwbod pa bwynt o’n i’n trio gwneud fanna. Fyswn i hefyd yn wirion i beidio sôn am gemau eraill Lucasarts sydd hefyd yn rhoi lot o bwyslais ar hiwmor: Grim Fandango, Day Of The Tentacle, Sam & Max ac yn y blaen. Ond sgen i ddim lot o brofiad efo rheini. Felly fydd rhaid i chi wneud eich hwyl eich hun. Sori.

Conker’s Bad Fur Day

Wedi ei ryddhau gynta ar y Nintendo 64, a’i ail-ryddhau ar yr Xbox rai blynyddoedd wedyn, roedd Conker’s Bad Fur Day yn… agoriad llygad. Pan chwaraeais i o, roedd yr N64 ar y ffordd allan, a’r Gamecube, PS2 a’r Xbox bron a chyrraedd. Ond eto, roedd y gêm wedi bod mewn datblygiad am flynyddoedd, yn wreiddiol dan y teitl Conker’s Quest. Roedd o i’w weld yn gêm blatfform diniwed, neis, oedd ddim yn gwneud unrhywbeth doedd Super Mario 64 a Banjo-Kazooie ddim wedi ei wneud yn barod. Cymerwch lwc:

Ac ella mai dyna oedd y broblem. Achos pan gafodd y gêm ei ryddhau o’r diwedd, gafodd popeth ond y prif gymeriad ei daflu allan. Ac yn lle gem bach neis-neis am wiwer bach hapus yn casglu cnau, be gawson ni oedd… hwn.

Do’n i’m yn gallu credu’r peth. Roedd hwn yn gêm Nintendo! Do’n i ddim i fod i glywed llinellau fel “How about some scat you little twat?” – wedi ei ganu, a phob dim – mewn gêm Nintendo. Ar ben bob dim, roedd y gêm yn dechrau efo Conker yn feddw, ac yn cynnwys parodïau sbot-on o Alien, Saving Private Ryan a The Matrix – pan oedd parodïo The Matrix yn ymylu ar fod yn ddigri. Jyst.

Eto, dydi o ddim am gael ei sôn yn yr un anadl â Wayne’s World neu The Producers unrhywbryd yn fuan, ond o’n i’n 16 oed ar y pryd. Ac os allwch chi ddim gwerthfawrogi darn mawr o gachu yn canu opera pan ‘da chi’n 16 oed, pryd allwch chi?

Wario Ware

Rhestr o chwech (saith, os ‘da chi’n cyfri Game & Wario ar y Wii U) o gemau, wedi dechrau ar y Game Boy Advance yn 2003, mae Wario Ware yn…

… ‘da chi’n gwbod be? Dydi Wario Ware ddim yn rwbath i’w ddisgrifio. Mae o’n rwbath i’w brofi. Jyst… sbiwch.

Mae bob un o’r cannoedd o “meicrogemau” yn Wario Ware yn para chydig o eiliadau, ac ar ben eu hunain ddim yn lot o cop. Ond wedi eu clymu efo’i gilydd, heb unrhyw naratif, efo soundtrack gwallgo a lliwiau llachar a chwerthin gwyllt Wario yn cael ei daflu atoch chi heb stop… mae o fel llowcio cant o bacedi o sherbet dip ar unwaith. Tra’n cael eich ticlo. Gan koala. Does ‘na ddim sgript clyfar na gags traddodiadol fel The Stick Of Truth, ond mae’r gemau Wario Ware llawn mor ddigri, os ‘da chi’n gofyn i fi.

Portal

Dwi ‘di sôn o’r blaen am y cymeriad GLaDOS yn Portal – o bosib y “baddie” gorau mewn unrhyw gêm erioed. Ar un pwynt yn ddynes o’r enw Caroline, cafodd ei ymwybyddiaeth ei roi mewn system gyfrifiadurol yn erbyn ei hewyllys. Wedi ei hail-fedyddio yn GLaDOS (Genetic Lifeform and Disk Operating System), wnaeth hi fynd ati’n syth i ladd yr holl wyddonwyr wnaeth ddinistrio ei bywyd efo nwy gwenwynig.

Ddim yn swnio’n rhy ddigri hyd yn hyn, dwi’n cytuno. Ond pan ‘da chi’n chwarae’r gêm, yn gwneud eich ffordd drwy’r labordai mai GLaDOS wedi eu meddiannu, hithau’n trio ei gorau i wneud i chi feddwl ei bod hi ar eich ochr hi… jiniys.

A wedyn daeth Portal 2, oedd yn well byth, diolch i gymeriad newydd – robot twp a diniwed o’r enw Wheatley, wedi ei leisio gan Stephen “Gwell Na Gervais” Merchant. Yn ystod cwrs y gêm, mae Wheatley yn cymryd rheolaeth o’r labordai oddi wrth GLaDOS ac yn etifeddu ei phersonoliaeth, tra bod ymwybyddiaeth GLaDOS yn cael ei drawsblannu i mewn i daten.

Mae bron i bob llinell yn y ddwy gêm yn glasur, wrth i GLaDOS a Wheatley daflu insylts atoch chi’n ddi-baid. Wrth chwarae, ro’n i’n aml yn stopio gwneud unrhywbeth er mwyn i fi allu canolbwyntio ar y deialog. Gawn ni drydydd un rŵan, plis?

Grand Theft Auto

Reit. I glirio petha fyny: dwi ddim yn meddwl bod y gemau Grand Theft Auto yn ddigri. O gwbwl. Mae nhw’n trio bod yn ddigri. O, mor galed. Ac i fod yn deg, mae’r sgript ar gyfer rwbath mor enfawr â Grand Theft Auto 5 yn filoedd a miloedd o dudalennau o hyd. Dwi ddim yn disgwyl i unrhywun allu sgwennu sgript gomedi sy’n ddigri o’r dechrau i’r diwedd ac yn hirach na’r Beibl. Ac mae’r gemau eu hunain, wrth gwrs, yn briliant.

Ond mae nhw’n trio bod yn ddychanol… ac ar ryw bwynt yn ystod y broses sgwennu, mae nhw wedi mynd yn lot rhy bell, ac wedi methu’n llwyr. Yn y pen draw, mae’r gemau wedi troi i mewn i’r union beth mae’r creawdwyr yn trio ei ddychanu yn y lle cynta. Yr enghraifft dwi’n ei gofio ora ydi poster yn y gêm sy’n hysbysebu brand ffuglennol o bersawr, a… wel, dyma fo.

Pwy mae’r “dychan” yna yn trio ei dargedu yn y lle cynta? A pa fath o effaith mae o’n gael arnom ni? Ydi o’n gwneud i ni gwestiynu cyfalafiaeth mewn ryw ffordd? Ta ydi o jyst yn methu’r pwynt yn llwyr, a jyst yn stiwpid, yn sexist, a dipyn bach yn crap? Dwi’n meddwl bod o’n amlwg ar ba ochr i’r ffens dwi’n sefyll.

Dydi’r hiwmor yn Grand Theft Auto ddim yn dod o’r sgwennu, ond o’r lefel gwallgo o ryddid yn y gêm. Chi sy’n creu’r hiwmor. ‘Da chi’n rhydd i smacio pobol yn y gwyneb am ddim rheswm, neu achosi hafoc llwyr ar ben mynydd, neu ladd dwsinau o bobol i gyfeiliant Caryl Parry Jones:

Ac felly, er bod y sgript yn hollol pants, mae gan GTA – a gemau “sandbox” tebyg – y potential i fod yn fwy digri na gemau fel The Stick Of Truth, achos bod y potensial ynddyn nhw i wneud bron iawn i unrhywbeth. Mae nhw ar eu gorau mewn fideos ar Youtube, ac mae ‘na fath newydd o gemau sy’n cymryd mantais o hyn, wedi eu cynllunio i gael eu rhannu a’u trafod ar y cyfryngau cymdeithasol jyst achos bod nhw’n hollol nyts: gemau fel Octodad: Dadliest Catch a Goat Simulator.

Wna i ddeud teitl y gêm yna eto. Goat Simulator. Waw.

Soffistigedig? Na. O’n mae o’n fath o hiwmor allwch chi ddim cael unrhywle arall. Hiwmor ‘da chi’n ei reoli. Mae ‘na le i sgriptiau digri mewn gemau, oes… ond mae ‘na hefyd le i afr efo jetpack. A dyna un o’r rhesymau pam eu bod nhw mor cŵl.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s