Cyn i fi ddechra: welsoch chi ein bod ni’n cynnal twrnament Mario Kart? Yn FYW? Yng Ngŵyl Golwg? Dyma’r manylion. Mae o bron yn rhy ecseiting.
Fy “hot tip” i ar gyfer ennillydd? Gwilym Owen. Mae o’n ddewin efo Princess Daisy, medda nhw.
A rŵan yn ôl at fusnes arferol y diwrnod.
**********
A dyma ni eto. Casgliad arall o gemau wedi gorffen – a hynny’n reit gyflym, os ga i ddeud. Mae lot o’r gemau dwi ‘di bod yn chwarae’n ddiweddar yn fyr iawn, yn un peth. Ond hefyd – ac yn fwy pwysig ella – does gen i ddim byd gwell i wneud.
Felly ymunwch efo fi, ffrindiau annwyl, i drafod y gemau sydd wedi bod yn ticlo fy ffansi yn ddiweddar. Mae ‘na de a bisgedi i’w cael.
Os ‘da chi’n eu gwneud nhw. Dwi ddim am godi oddi ar fy mhen-ôl, diolch yn fawr.
Mass Effect 2
Ydi, mae fy ymgais i weithio drwy’r silff mawr o gemau Xbox 360 dwi eto i’w chwarae yn parhau. Dwi’n falch o ddweud ‘mod i wedi ticio un arall oddi ar y rhestr. Mae Mass Effect 2 yn un o glasuron y genhedlaeth ddiwetha o gemau, a’r gorau yn y gyfres Mass Effect yn ôl y mwyafrif llethol o bobol.
Ac er mod i’n ffan mawr iawn o’r bydysawd enfawr sy’n cael ei bortreadu yn y gêm – mae o ymysg y bydoedd ffug-wyddonol gorau erioed yn fy marn i, i fyny efo Star Wars – ac er bod y stori wedi dal ei afael arna i drwy’r holl gêm, ac er bod gymaint o welliannau wedi eu gwneud ar sylfaen y Mass Effect cynta, rhaid i fi ddweud bod y broses o chwarae dipyn bach yn ailadroddus. ‘Da chi’n glanio ar blaned, yn siarad i griw i bobol, yn dewis i fod yn dwat llwyr neu’n angel bach yn helpu pawb, a wedyn teithio i ran arall o’r blaned i saethu popeth o’ch cwmpas chi’n ddarnau. Lather, rinse, repeat… am ryw 25 awr. Mae o’n fuddugoliaeth o stori dros y broses o chwarae, yn fy marn i – a does ‘na ddim byd mawr yn bod efo hynny. Mae gemau angen lot mwy o straeon gafaelgar, aeddfed yn gyffredinol. Ond rhaid i fi ddweud – a dwi’n mynd erbyn y farn boblogaidd fan hyn, dwi’n gwbod – fy mod i wedi gorffen chwarae’r gêm yn teimlo jyst dipyn bach yn wag.
A, wel. Mass Effect 3 nesa. Dwi’n siŵr bod dim byd o gwbwl yn bod efo’r gêm yna.
O.
Bayonetta
O gêm aeddfed, trwm, sy’n cymryd ei hun o ddifri, i rhywbeth sy’n fwriadol stiwpid a dros ben llestri – ac yn blwmin’ briliant ar yr un pryd.
Er ‘mod i wedi clywed pethau da am Bayonetta, wnes i ddim ei brynu tan i fi glywed bod Bayonetta 2 ar ei ffordd i’r Wii U. A roedd o’n casglu llwch ar fy silff Xbox 360 am sbel cyn i fi gracio’r câs ar agor. Ond wedyn…
fasnfasknfasjfasbdhfasbdashvdashcfasnkasmk!!!$%gldgsdksndfas!!!!!
Ym. Roedd o’n dda. Iawn.
Ac mae o’n emblematig o bopeth sy’n bod efo gemau, mewn lot o ffyrdd. Mae’r stori mor denau â phapur, mae’n llawn trais di-bwynt a dros ben llestri, ac mae’r prif gymeriad yn ddynes sydd… ym… wel, ddim yn edrych fel lot o’r merched ‘da chi’n eu gweld ar Stryd Fawr Bangor. Ga i ddeud o fel’na.
Ond dyma’r peth: mae’r gêm yn gwybod ei fod o’n hollol stiwpid. Ac mae’n gwneud y mwya o hynny. Dyma ydi’r peth agosa mae byd y gemau wedi dod at ddal ysbryd ffilmiau Quentin Tarantino, dwi’n meddwl. A dwi wrth fy modd efo Bayonetta am y rheswm yna – ac am sawl rheswm arall dwi ddim am restru fan hyn.
O, OK. Un arall. Y trac sain. Mae fersiwn dawns o’r gân ‘Fly Me To The Moon’ yn chwarae’n ddi-baid drwy’r mwyafrif llethol o frwydrau yn y gêm. A wnewch chi ddim blino arno fo. Achos mae o’n briliant.
Octodad: Dadliest Catch
Wnes i chwarae Octodad yn bwrpasol er mwyn gwneud fideo stiwpid amdano fo. A wele: dyma fo fan hyn.
Dydw i’n dda?
Ond dwi ddim yn rhoi fy marn am y gêm yn y fideo yna, nadw? Wel, daliwch afael ar eich hetiau, bois bach, achos dyma fo’n dod.
Mae Octodad: Dadliest Catch ymysg y gemau mwya digri dwi erioed wedi chwarae. Wnes i erthygl ar hiwmor mewn gemau ychydig fisoedd yn ôl, ond doeddwn i ddim wedi chwarae’r gêm ar y pryd. Mistêc. Mae’r hiwmor sy’n dod o natur hollol bisâr y gêm yn amlwg o’r fideo wnes i, ond be sydd ddim yn cael sylw yn y fideo ydi’r gwaith ysgrifennu hollol briliant. Mae bron bob un llinell yn glasur deadpan, a does dim un darn o ddeialog yn well na’r un sy’n gorffen y gêm. Wna i ddim sbwylio pethau – a does dim rhaid i fi, achos dim ond ryw ddwy awr wneith o gymryd i chi chwarae’r gêm o’r dechrau i’r diwedd. Mae o ar gael ar y PC a dros rwydwaith Playstation. Ewch amdani. ‘Da chi angen dipyn o chwerthin yn eich bywyd. Ar ôl popeth sy’ ‘di digwydd i chi’n ddiweddar… 😦
The Last Of Us: Remastered
Does gen i ddim PS3 – ac felly, yn anffodus, ges i ddim chwarae’r gêm gora ar y PS3. Ond gafodd fersiwn sgleiniog newydd ei ryddhau ar y PS4 yn ddiweddar. Felly hip hip hwre – blwyddyn a hanner ar ôl i bawb arall ei brofi, dwi ‘di cael cyfle i neidio i fyd Joel ac Ellie o’r diwedd. Ac roedd o werth yr holl ddisgwyl.
Mae llawer wedi sôn am The Last Of Us fel un o’r gemau gorau erioed. Ac mae nhw’n iawn. Mae o’n groes rhwng tensiwn cyson a natur arswydus Resident Evil, a strwythur Half-Life. Ddim yn gyfuniad drwg o gwbwl. Tra bod gemau fel Mass Effect 2 yn ffocysu ar y stori ac yn rhoi’r gêm ei hun yn ail, mae The Last Of Us yn plethu’r stori i mewn i’r gêm yn well, dwi’n meddwl, nag unrhywbeth dwi erioed wedi ei chwarae o’r blaen. Mae o fel fersiwn byd y gemau fideo o The Road gan Cormac McCarthy, ac roedd y diweddglo – heb sbwylio unrhywbeth, wrth gwrs – yn fy atgoffa i o ddiwedd The Godfather. Dweud mawr, dwi’n gwbod. Ond mae The Last Of Us yn haeddu pob clod. Mae’n ddyletswydd ar unrhywun sydd hyd yn oed wedi meddwl am gysidro chwarae gemau i gael gafael ar gopi.
Ac am y rhesymau yma dwi ddim yn hollol hapus i glywed y newyddion bod The Last Of Us am gael ei wneud yn ffilm (er bod Maisie Williams o Game Of Thrones i fod ynddo fo, ac mae ‘na Oscar yn ei dyfodol hi’n sicr). Mae ‘na sawl problem efo addasu gêm fel’ma yn ffilm – ac mae rhai ohonyn nhw’n cael eu hesbonio gan un o greawdwyr y gêm fan hyn. Yn un peth, mae dim ond y cutscenes o’r gêm – y darnau ‘da chi ddim yn chwarae – yn hirach nag unrhyw ffilm.
Sy’n… anodd. Ond yn bwysicach na hynny, mae apêl y gêm gymaint i wneud efo’r ffaith eich bod chi’n uniaethu efo’r cymeriadau drwy’r broses o chwarae. Fysa ffilm, yn amlwg, ddim yn gallu efelychu hynny.
Ond be dwi’n wbod? Dwi ddim yn mogul yn Hollywood. Dim eto.
Infinity Runner
Wnes i adolygiad fideo o hwn. Sy’n golygu ‘mod i ddim yn gorfod treulio fy amser yn sgwennu amdano fo. ‘Na chi neis.
The Walking Dead: Season 2
Reit. Felly mae The Last Of Us yn gampwaith sy’n llawn zombies. Ac mae The Walking Dead: Season 2 yn gampwaith sy’n llawn zombies. Ac unwaith eto, mae’n codi cwestiynau pwysig am y berthynas rhwng naratif gêm a’r gêm ei hun. Dyna gyd-ddigwyddiad hapus!
Mae ‘na gyfnodau hir yn The Walking Dead lle ‘da chi ddim yn gwneud unrhywbeth – dim ond gwylio be sy’n digwydd i’r cymeriadau, fel… wel, fel y rhaglen deledu boblogaidd The Walking Dead. A ‘da chi ddim yn meindio, achos bod y gêm wedi ei sgwennu mor frawychus o dda. Ond ar brydiau, gewch chi wneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar y stori… ac mae nhw’n benderfyniadau anodd. Ac achos eich bod chi’n uniaethu gymaint efo Clementine, y prif gymeriad, ‘da chi’n malio am y penderfyniadau. Unwaith eto, dwi’n credu ei bod hi’n amhosib efelychu pŵer y naratif yma mewn unrhyw gyfrwng arall.
Wnes i gynnwys cyfres gynta The Walking Dead yn y rhestr o fy hoff gemau yn gynharach flwyddyn yma, ac mae’r ail gyfres yn llawn haeddu ei le yn y rhestr hefyd. Dwi’n erfyn ar bawb sy’n darllen hwn i’w chwarae’r gyfres gynta a’r ail os ‘da chi ddim wedi gwneud o’r blaen. Dwi wedi fy argyhoeddi ei bod nhw ymysg y gemau pwysica erioed, ac mae nhw ar gael ar y…
*anadl ddofn*
… PC, Mac, Playstation 3, Playstation 4, Playstation Vita, Xbox 360, Xbox One, dyfeisiau iOS, dyfeisiau Android… hyd yn oed y sodding Ouya. Os ‘da chi’n darllen y blog yma, mae ganddoch chi ffordd o chwarae The Walking Dead. Gwnewch o.
Rhaid i fi enwi pennod ola’r gêm (allan o bum pennod) fel y gora. Dwi newydd wylio fideo dros hanner awr o hyd yn trafod holl oblygiadau’r peth. Dyma fo fan hyn… ond yn amlwg peidiwch a meddwl am glicio ar hwn os na ‘da chi wedi chwarae’r holl beth.
Ac mae ‘na bump o ffyrdd gwahanol iawn ellith yr holl beth orffen… felly dwi ddim yn gwybod sut awn nhw ymlaen o hyn yng Nghyfres 3. Ond alla i ddim disgwyl.
A dyna ni am y tro. Pa gemau fydd wedi fy ngwneud i’n ecstatig / blin tro nesa? Dim ond un ffordd o ffeindio allan: daliwch i ddarllen.
Neu fedrwch chi sleifio i mewn i nghartre i a gwylio fi’n chwarae o’r cwpwrdd. Ond, y… peidiwch a gwneud hwnna.
– Elidir
[…] i chwarae’r Bayonetta cynta yn ddiweddar, a gewch chi ddarllen am fy mhrofiadau i fan hyn. Dydach chi’n […]
[…] bang yng nghanol y rhestr o fy hoff gemau erioed, a ‘mod i wedi bod yn hapus iawn efo’r ail gyfres, ddaeth allan yn ddiweddar. Does gen i ddim gymaint ar ôl i ddweud amdanyn nhw, deud y gwir, oni […]