Cyhoeddi Pencampwriaeth Mario Kart Cymru
Bydd cystadleuaeth Mario Kart arbennig yn cael ei gynnal fel rhan o arlwy ddigidol Gŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sul 14 Medi.
Fe gynhelir y gystadleuaeth yn adran ‘Y Fro Ddigidol’ o Ŵyl Golwg – ardal sy’n cynnwys amrywiaeth o weithdai a sesiynau 1 i 1 digidol – a bydd cyfle i frwydro am y teitl o bencampwr rhwng 1 a 5 y prynhawn. Yn ogystal â Mario Kart mi fyddwn yn agor y ddiwrnod digidol gyda thrafodaeth am ddyfodol gemau cyfrifiadur am hanner dydd.
Trac sain plentyndod
Y gobeithio yw bydd y gystadleuaeth yma yn rhoi hwb i Gymru Cymraeg drin a thrafod y byd gemau cyfrifiadurol.
I lawer, Mario Kart oedd trac sain eu plentyndod, a gyda dyfodiad Mario Kart 8 ar y Nintendo Wii U nawr yw’r amser i gynnal cystadleuaeth fel rhan o Ŵyl Golwg.
Mae gwobrau cyffrous i’r enillwyr ar ddiwedd y dydd, ond y bri a’r cyfle i frolio eu gallu ar y cyfryngau cymdeithasol fydd y prif wobr heb os. Hynny a bawd go hegr.
Nod Fideo Wyth ydy rhoi llwyfan i drafodaeth ynglŷn â gemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y twrnament Mario Kart yn rhoi hwb i hynny, a bydd modd i bobl drafod a checru ar y dydd trwy ddefnyddio’r hashnod #mkfideo8 ar Twitter.
Medde Owain Schiavone, un o drefnwyr Gŵyl Golwg, mae cysyniad y gystadleuaeth yn cyd-fynd ag egwyddorion agweddau digidol yr Ŵyl.
“Nod y sesiynau digidol ydy annog ac ysbrydoli pobl i fynd ati a defnyddio’r cyfryngau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae angen i’r iaith fod yn amlwg ar bob llwyfan, a dim ond trwy greu digon o gynnwys amrywiol mae modd sicrhau hynny. Gobeithio bydd y gystadleuaeth yn dod â phobl o’r un anian ynghyd ac y byddan nhw’n dod yn ran o gymuned Fideo Wyth.”
Mae Fideo Wyth yn sicr yn adleisio’r syniad yma felly cofiwch, i fod yn rhan o bethau ac i greu bach o hanes, dewch draw i Lanbed ar gyfer Gŵyl Golwg.
[…] dim dyna’r oll. O, na. Fydd ‘na hefyd gystadleuaeth. Fedrwn ni ddim gadael y tŷ heb gynnal cystadleuaeth. A gan ein bod ni yng Ngwobrau’r Selar, does ‘na ddim gêm gwell i’w chwarae […]