gan Dîm f8
Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn paratoi ei hun am noson i’w chofio nos Sadwrn yma, pan fydd Gwobrau’r Selar yn taro Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Fe fydd unrhywun sy’n unrhywun yn y sîn yno – drychwch ar y poster i weld pwy yn union fydd yn toddi gwynebau’r dorf efo solos gitâr (neu solos tiwba, yn achos Band Pres Llareggub).
A gesiwch be? ‘Da ni am fod yno hefyd. Fydd yr SRG ddim yn gwbod be sy ‘di hitio fo.
Na, dydi Daf ac Elidir ddim wedi ffurfio band. Er… fysa hynny’n briliant. Na. Fyddwn ni yno efo stondin fawreddog yn llawn gemau hen a newydd, i gadw’r kids yn hapus rhwng gwneud eu headbangio a’u mosh-pitio bondigrybwyll.
Ym… ia. ‘Da ni ddim wedi bod i gig am sbel.
Be fydd ganddon ni’n union? Wel, diolch am ofyn. Fydd ‘na ddewis helaeth o gemau retro ar gael, gan gynnwys…
Bubble Bobble
Double Dragon 2
Goldeneye 007
Killer Instinct
Mario Kart 64
Probotector
Sensible Soccer
Sonic The Hedgehog 2
Streets Of Rage 2
Super Tennis
Super Smash Bros.
Tetris & Dr Mario
Profwch! Y wefr o gicio dynion cyhyrog o’r 80au oddi wrth glogwyni yn Double Dragon 2!
Gwylltiwch! Wrth farw yn Probotector, dro ar ôl tro ar ôl tro!
Gwyliwch! Wrth i Daf fynnu chwarae fel Oddjob yn Goldeneye, chwalu Elidir yn racs, a’i wthio i’r gornel i drio fflogio ei lyfr mewn hyff!
Ond dim dyna’r oll. O, na. Fydd ‘na hefyd gystadleuaeth. Fedrwn ni ddim gadael y tŷ heb gynnal cystadleuaeth. A gan ein bod ni yng Ngwobrau’r Selar, does ‘na ddim gêm gwell i’w chwarae na…
Fyddwn ni’n rhoi copi sgleiniog o Guitar Hero Live, y gêm newydd yn y gyfres, i’r rociwr gora. Yr un bachgen neu ferch fyddai Jack Black ddim yn oedi cyn sgwennu cân deyrnged iddyn nhw. Rhywun sy’n gwneud i Slash, Hendrix a’r Keiths (Moon a Richards) edrych fel John a / neu Alun.
Y… hynny yw, yr un sy’n cael y sgôr gora.
‘Da ni ddim wedi penderfynu pa drac fydd yr un i’w thrio eto, ond mae’n rhaid iddi fod yn un ‘da ni ddim yn meindio gwrando arni drwy’r nos. Felly dim Linkin Park, Avril Lavgine na Mumford & Sons.
Fedrwn ni ddim disgwyl, deud y gwir. Gemau retro, gitârs plastic, a cherddoriaeth dda. Be sy’n well na hynny?
Welwn ni chi yno?