Clwb Llyfrau f8: Y Porthwll

Croeso nôl i rifyn arall o’r Clwb Llyfrau. Ac mae ganddon ni un mymryn bach yn wahanol i chi tro ‘ma.

Fel arfer, ‘da ni’n sbio ar glasuron gwyddonias Cymraeg, neu (yn fwy aml na pheidio) llyfrau sydd wedi eu hen anghofio. Ond wythnos yma, ‘da ni am dynnu eich sylw at nofel sydd newydd ddod allan.

Ac, y… fi ydi’r awdur.

Ia, dwi’n gwbod, dwi’n bod yn ddigywilydd a defnyddio’r wefan i frolio fy hun. Ond dwi’m yn gwneud yn aml. Byth, deud y gwir. Felly caewch hi. Dwi’n briliant.

Clawr Y Porthwll A5

Felly, fel y gwelwch chi, enw’r bwystfil o nofel yma ydi Y Porthwll. A dyma be dwi ‘di bod yn brysur yn ei sgwennu am ryw ddwy flynedd bellach. Mae hi’n nofel wyddonias yn y bôn… ond dydi’r elfen yna o’r peth ddim yn rhy drwm, dwi’m yn meddwl. Ar y cyfan, mae hon yn stori sy’n dilyn traddodiad pethau fel Groundhog Day, The Butterfly Effect, neu Sliding Doors. Ond efo mymryn bach o stwff Lovecraft-aidd yn cuddio o dan yr wyneb, ac yn dod allan i sbecian o dro i dro.

Wna i ddim sbwylio’r stori i gyd fan hyn. Ond mae’r nofel yn dilyn Cai Owen, dyn yn ei ugeiniau cynnar o Lanberis, sy’n byw bywyd brawychus o ddi-nod. Yn gweithio yn y caffi ar ben yr Wyddfa, efo’r dyddiau yn llifo i mewn i’w gilydd, mae’n treulio ei amser yn breuddwydio am fywyd gwell, ac yn dianc o’r diflastod bob wythnos efo ei grŵp Dungeons & Dragons.

Do, dwi wedi sgwennu nofel Gymraeg lle mae’r prif gymeriad yn aelod o grŵp D & D. Ac mae’r peth yn llawn cyfeiriad at gemau fideo, comics, Star Trek, Lord Of The Rings, Battlestar Galactica… fydd yr adolygwyr a’r to llenyddol yng Nghymru wrth eu boddau efo’r peth, dwi’n siŵr.

Ac yna daw’r porthwll – grym arallfydol sydd (eto, heb sbwylio dim byd) yn rhoi’r cyfle i Cai wella ei fywyd, un diwrnod ar y tro. Ond pan mae hynny’n golygu delio efo fersiwn amgen, mwy llwyddiannus o fo ei hun, mae pethau’n mynd o chwith yn reit gyflym, ac mae Cai’n dysgu ystyr newydd i’r gair “hunan-gasineb”.

Blam! Ydw i’n dda am werthu petha, ta be?

Dwi mor falch o fod wedi gorffen Y Porthwll. Wna i ddim lot o bethau mwy anodd yn fy mywyd, dwi’m yn meddwl, ac mae’r ffaith bod y llyfr bellach wedi ei ryddhau, ac ar silffoedd, yn rhoi ryw sbring bach pendant yn fy ngham. Dwi hefyd yn falch o wreiddioldeb y nofel, ac yn hapus ‘mod i wedi cyfrannu, mewn ffordd fach, at gorpws ffuglen wyddonol yn Gymraeg.

Dwi bellach wrthi’n gweithio ar fy ail nofel, ac wedi gwthio pethau i’r lefel nesa. Mae ‘na fwy o ffantasi epig Cymraeg ar y ffordd, bois bach. A dwi erioed wedi cael gymaint o hwyl yn sgwennu unrhywbeth.

Ond gewch chi ddysgu mwy am y prosiect bach yna rywdro eto. Am y tro, mae’ch copi o Y Porthwll yn disgwyl amdanoch chi.

Fe ddylai fod ar gael lle bynnag ‘da chi’n arfer cael eich llyfrau Cymraeg – ar-lein, neu mewn siop brics a mortar hen ffasiwn, os ‘da chi’n ddigon lwcus i gael un o rheini’n agos. NEU, fe allwch chi brynu’n syth o’r cyhoeddwyr, Dalen Newydd. Dwi’n gweithio ar y wefan ar y funud (wel… prin wedi dechrau, deud y gwir), ond fe ddylech chi fod yn gallu archebu’ch copi fan hyn (drwy Paypal yn unig ar y funud). Da ‘di’r we.

Gobeithio cael e-lyfr at ei gilydd yn fuan hefyd. Pan dwi ‘di gorffen efo’r wefan. A ryw gant a mil o bethau eraill.

A dyna ni. Wna i ddim mwydro mwy… jyst cynnig, yn neis, eich bod chi’n cael gafael ar gopi. Os ydi’ch bywyd chi braidd yn ddiflas ar y funud, mae ‘na bethau llawer gwaeth i’w gwneud na chamu drwy’r Porthwll.

Sori. Roedd rhaid i fi orffen rywsut.

– Elidir

9 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s