Henffych i’r Brenin

gan Elidir Jones

Ro’n i’n bwhwman o gwmpas Twitter ddoe pan ddes i ar draws hwn:

darktowerposter

Dyna boster ar gyfer y ffilm gyntaf yn seiliedig ar gyfres ffantasi Stephen King, The Dark Tower, sydd allan fis Gorffennaf. Rhaid i fi fod yn onest – ro’n i wedi anghofio bod hwn yn taro’n sgrîns ni flwyddyn yma, er cymaint y mwynheais i’r gyfres nôl yn y dydd.

Ond yn waeth byth, wnes i sylweddoli ein bod ni erioed wedi talu teyrnged i Stephen King ar f8. Dwi’n siŵr ei fod o wedi colli dipyn o gwsg dros y peth.

Wna i ddim honni fy mod i wedi darllen pob un o’i lyfrau. Pwy sydd? Mae’r boi yn gwneud i Llwyd Owen edrych fel George R. R. Martin. Ond dwi yn trio gwneud fy ffordd drwy gwpwl o’i nofelau bob blwyddyn, ac wedi ticio’r mwyafrif llethol o’i glasuron oddi ar y rhestr erbyn hyn. Felly, heb wastio mwy o amser, dyma’r pump o lyfrau Stephen King sydd wedi creu’r mwyaf o argraff arna i.

Gadewch i’r dadlau gychwyn.

5. 11/22/63

Dydw i ddim wedi dal i fyny efo gwaith Stephen King o’r ganrif yma gymaint ag y dyliwn i. Ond o’r rhai dwi wedi eu darllen, 11/22/63 ydi’r gora o bell ffordd.

Mae’n un da i’r rhai sydd ddim yn ffans enfawr o bethau sy’n mynd bymp yn y nos. Yn ei hanfod, stori o deithio drwy amser sydd yma, wrth i Jake Epping – athro Saesneg o Maine – ffeindio porthwll…

sori, ond dyna’r unig air sy’n ffitio

… sy’n arwain at 1958.

Wedi glanio yno, mae’n dechrau bywyd newydd – yn meithrin perthynas efo llyrgellydd a datrys ambell i lofruddiaeth, yn troedio dŵr yn disgwyl am yr un mawr: llofruddiaeth John F. Kennedy, ar yr ail ar hugain o Dachwedd, 1963.

Mae ‘na lot mwy i’r peth na hynny, wrth gwrs, wrth i beryglon teithio drwy amser amlygu eu hunain mewn ffyrdd tywyll a seicedelig. Alla i ddim gwneud cyfiawnder â’r peth – dim ond dweud fy mod i, tra ar daith bythgofiadwy drwy Seland Newydd ac Awstralia, ddim wedi medru rhoi’r fricsen yma o lyfr i lawr. Yr unig ffordd o brofi’r peth eich hun ydi ei darllen.

Neu gewch chi wylio’r gyfres deledu. Fyny i chi.

4. Pet Sematary

Dwi’n fythol ddiolchar i Pet Sematary am fy nghyflwyno i i’r Ramones. Mae hynny’n ddigon i haeddu lle ar y rhestr jyst ar ben ei hun.

Ond ar ben hynny, dwi’n meddwl mai Pet Sematary ydi clasur pylp mwya Stephen King. Does ‘na ddim lot o is-destun yma, na sylwebaeth wleidyddol. Mae’n nofel camp, dros-y-top, yn syth allan o’r 80au, yn llawn gyts a gwaed, efo’i wreiddiau, ella, yng nghomics arswyd y 50au.

Ar yr un pryd, mae’n eithriadol o dywyll, efo’r syniad o farwoldeb yn cael ei drafod yn amlwg iawn wrth i’r Pet Sematary – yr hen fynwent sbwci sy’n codi pethau o farw’n fyw – wneud ei waith. Nofel berffaith i gadw cwmni i chi yn y gwely ar noson oer o aeaf. Jyst gwnewch addewid i mi y byddwch chi’n gwneud dau beth:

1. Gwyliwch allan am y Wendigo.

2. Plis peidiwch â sôn am Pet Sematary Two.

3. The Shining

‘Co ni off.

Dydi llyfrau arswydd ddim yn dueddol o godi ofn arna i, fel rheol. Geiriau ar bapur ydyn nhw, wedi’r cwbwl, heb ddim o’r jump scares na’r triciau rhad sy’n cael eu defnyddio hyd syrffed mewn ffilmiau arswyd. Ond roedd ‘na ddarn yn The Shining lle roedd rhaid i fi gymryd anadl ddofn, cau’r llyfr, a sortio fy hun allan.

Ia. Yr olygfa yna yn y bathrwm oedd o.

Oes, mae ‘na ddigonedd o stwff da yn y ffilm – er dydi Mr King ei hun ddim yn cytuno, ac am resymau digon dilys – ond y llyfr ydi’r boi. Mae’n ddosbarth meistr mewn codi’r tensiwn i fyny at grescendo gwallgo ar y diwedd, efo ambell i sioc wyllt ar hyd y daith.

Dwi wedi bwriadu ail-ymweld â The Shining am sbel, a mynd ymlaen i ddarllen y dilyniant, Doctor Sleep. Ond mae ‘na ormod o lyfrau a dim digon o amser. Er enghraifft…

2. The Dark Tower

Dwi’n twyllo fan hyn a chynnwys saith nofel (ac ambell sbin-off) o dan yr un teitl. Gobeithio wneith y plismyn blogs ddim dod ar fy ôl.

Ar ôl A Song of Ice and Fire, mae’n bosib mai The Dark Tower ydi’r gampwaith fwyaf mewn ysgrifennu ffantasi modern. Wna i ddim trio crynhoi’r peth fan hyn, na sbwylio dim byd – dim ond bod y gyfres am gowboi sy’n teithio drwy’r aml-fydysawd mewn ymdrech ddiddiwedd i ddod o hyd i’r “tŵr du” yng nghanol popeth. Ond mae’n gyfres y dyliech chi ei darllen os oes gennych chi unrhyw hoffter tuag at ffantasi. Neu arswyd. Neu lenyddiaeth. Neu hwyl.

A’r strôc mwyaf o athrylith, yn fy marn i, ydi’r ffordd mae The Dark Tower yn clymu holl waith Stephen King at ei gilydd, a hyd yn oed yn cynnwys cameo estynedig gan yr awdur ei hun. Dyma greu bydysawd unedig ymhell cyn y Marvel Cinematic Universe, efo cymeriadau o The Stand, Salem’s Lot, a mwy yn ymddangos, ar ben llwyth o gymeriadau newydd sy’n dod yn glasuron yn syth.

Charlie the Choo-Choo am byth.

Alla i ddim pwysleisio gymaint dwi’n edrych ‘mlaen at y ffilm. Mae’r castio yn wych, efo Idris Elba a Matthew McConaughey yn siŵr o roi’r sgrîn ar dân, a dwi’n gobeithio y bydd hi’n lwyddiant enfawr, er mwyn i ni gael mwy. Cyfres o ffilmiau ffantasi slic, aeddfed, sy’n gwneud i Lord of the Rings edrych fel The Wind in the Willows? Ia plis.

1. It

Debyg mai’r nostalgia sy’n siarad fan hyn, ond It oedd y llyfr cynta gan Stephen King i fi ddarllen. Mae’n anodd iawn dod dros yr ergyd gynta ‘na.

Roedd yr amgylchiadau’n berffaith. Tua pymtheg oed o’n i, a gwyliau’r haf yn cychwyn ymestyn o ‘mlaen. Pa amser gwell i ddarllen nofel hir, hir, am griw o blant yn crwydro’r wlad o gwmpas Derry, Maine – yn gwneud yr union bethau ddylswn i fod wedi gwneud ar wyliau haf – tra’n ymladd hen ddrygioni di-enw ar yr un pryd?

Un peth gwych am Stephen King ydi’r ffordd mae o’n darlunio plentyndod. Ydi, mae o’n gwneud hynny’n wych yn Stand By Me, ond dwi’n meddwl bod It yn ei wneud hyd yn oed yn well… tan y diwedd, o leia, pan mae pethau’n mynd fymryn bach yn cripi.

Mae’n un arall dwi ddim wedi ei ddarllen ers blynyddoedd maith, ond dwi’n meddwl fydda i’n cofio It am byth, a mor, mor ddiolchgar bod y nofel yma wedi arwain at y gweddill.

Whiw. Dim sôn am The Stand, na Carrie, na Misery, na chant a mil o lyfrau eraill. Ydw i ‘di cael pethau’n iawn efo’r pump ucha ‘ma, ta ydw i o ‘ngho yn llwyr?

Dwi’n siŵr fydd y rhyngrwyd yn gadael i fi wbod.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s