gan Elidir Jones
Ymddiheuriadau, i ddechrau, bod ‘na ddim podlediad ar ddiwedd y mis, fel arfer. Mae’n eithriadol o brysur yn f8 HQ wrth i ni orffen paratoi llwyth o fideos ar gyfer gwasanaeth ar-lein newydd S4C, ar ben trio crafu bywoliaeth o ddydd i ddydd. O, ac mae Daf wedi bod yn adeiladu llochesi i’r digartref yn Seattle.
Ond peidiwch â phoeni – fyddwch chi’n clywed ein lleisiau melfedaidd eto, yn y man.
Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae’r estyniad olaf ar gyfer Dark Souls 3, The Ringed City, yn lawrlwytho ar fy PS4. Anarferol iawn ydi gêm fawr heb estyniad y dyddiau yma, wrth i gwmnîau drio’ch godro chi’n sych o geiniogau cyn symud ymlaen at y peth nesa. Mae hyd yn oed Nintendo isio rhan o’r deisen erbyn hyn, efo Mario Kart a Zelda yn cael cynnwys ychwanegol. Does dim byd yn sanctaidd.
Ond pa rai sydd wedi gwneud yr argraff mwya arna i’n bersonol?
Diolch am ofyn.
Hearthstone: The League of Explorers
Doeddech chi ddim yn disgwyl i fi wneud rhestr fel hyn heb sôn am Hearthstone, does bosib? Waeth i ni gael o allan o’r ffordd.
Wnes i ganu clodydd The League of Explorers ar ddechrau flwyddyn diwetha, a dydw i ddim wedi newid fy meddwl. Mae Hearthstone yn cael tri estyniad bob blwyddyn, ac mae The League of Explorers yn sefyll uwchben y cwbwl – er bod Whispers of the Old Gods yn haeddu mensh hefyd.
Mae ‘na rywbeth am naws Indiana Jones-aidd y pecyn yma sydd jyst yn siwtio Hearthstone, wrth i’r tîm datblygu ddechrau camu i ffwrdd o’r byd Warcraft wnaeth ysbrydoli’r gêm, a gwneud eu peth eu hun. Felly dyna’r chwilotwr pysgodlyd Sir Finley Mrrgglton, yr anturiaethwr Reno Jackson, sydd wedi dod yn dipyn o eicon i chwaraewyr y gêm… a’r Murloc Tinyfin, wrth gwrs.
Cerdyn hollol di-bwynt. Ond sbiwch ar y gwyneb ‘na. Mewn difri calon.
Skyrim: Hearthfire
OK. Ymysg yr estyniadau i Skyrim, mae’n bur debyg mai Hearthfire ydi’r gwannaf ar bapur. Yr unig beth mae’n ychwanegu, i bob pwrpas, ydi’r gallu i brynu clwt o dir ac adeiladu cartref, yn ei lenwi efo addurniadau a gadael i’ch partner a / neu unrhyw blant ‘da chi ‘di eu mabwysiadu fyw yno, ymhell o’ch holl anturiaethu.
Dwi wrth fy modd efo’r stwff ‘ma. Mae unrhyw fath o base-building yn ticio fy holl focsys, a Skyrim oedd y gêm AAA cyntaf i fi chwarae oedd yn cynnig y math yma o beth fel estyniad. Er fy mod i ‘di treulio 95% o fy amser yn gwylio fy nghymeriad yn crefftio hoelion, ac er bod gemau diweddarach fel Fallout 4 wedi mynd â’r syniad ymhellach, wnes i dal fwynhau’r profiad o chwarae Hearthfire eitha lot.
Dwi’n gobeithio, rhywle ym myd Skyrim, bod fy nheulu bach digidol i’n dal i fyw yn hapus yn eu caban pren rhywle yn y gogledd pell. Ella y dyliwn i fynd i ddeud helo, deud y gwir.
Dwi newydd gofio bod Daf bellach yn treulio ei fywyd yn adeiladu cabanau go-iawn. Ac yn sydyn, mae’r paragraff ola ‘na’n edrych hyd yn oed yn fwy trist nag oedd o’n barod.
Jedi Knight: Mysteries of the Sith
Mysteries of the Sith oedd y tro cynta i estyniad wneud argraff go-iawn arna i. Y tro cynta i gynnwys ychwanegol gael ei ryddhau i gêm ro’n i’n ei chwarae’n ddefodol, yn obsesiynol.
Ac mi o’n i’n obsesd efo Jedi Knight. Wedi chwarae ac ail-chwarae ac ail-ail-chwarae’r ymgyrch, wedi rhoi go ar ddylunio fy lefelau fy hun, ac yn chwarae bob nos Sadwrn mewn clan. O’r enw “Appetite For Destruction”.
Ro’n i yn fy arddegau. Dwi’n dyfaru dim.
A wedyn dyna Mysteries of the Sith yn cyrraedd, yn cynnwys 14 o lefelau newydd, yn teimlo mor sylweddol â gêm lawn, ac efo Mara Jade – cymeriad canolog yn nofelau Star Wars y 90au – yn un o’r prif gymeriadau. Be arall mae bachgen yn ei arddegau ei angen, dwedwch?
Hm. Wedi meddwl… well i chi beidio ateb hwnna.
The Witcher 3: Blood and Wine
Anodd dewis, i fi, rhwng Blood and Wine a’r estyniad arall i The Witcher 3, sef Hearts of Stone. Mae cymeriadau a straeon Hearts of Stone yn gryfach, dwi’n meddwl. Ond mae ‘na rywbeth mentrus dros ben am Blood and Wine. Mae The Witcher 3 yn gêm enfawr beth bynnag, ond mae’r estyniad yma’n ychwanegu talp sylweddol arall o dir i’r pecyn… gêm ychwanegol, fwy neu lai, ar ben yr holl beth.
Ac mae’n fyd lliwgar, eitha ysgafn, mor wahanol i fyd corslyd a thywyll y prif gêm. O fewn pum munud, fyddwch chi’n ymladd cawr gwyllt yn syth allan o stori dylwyth teg, cyn teithio o amgylch teyrnas gyfan wedi ei fodelu ar dde Ffrainc, yn delio â bwystfilod, fampirod, dramâu teuluol… ac wrth gwrs, chwarae Gwent. Lot fawr iawn o Gwent.
O, ac mae Blood and Wine hefyd yn cynnwys darn lle ‘da chi’n cael adeiladu eich cartref eich hun, yng nghanol gerddi a gwinllan swmpus. Hyfryd.
The Sims 3: Katy Perry Sweet Treats
Does dim rhaid i fi gyfiawnhau’r un yma, nag oes? 😉
Be amdanoch chi? Unrhyw estyniadau wedi creu argraff arbennig arnoch chi? Rhowch wybod isod.
A cyn i chi ddweud unrhywbeth – ydw, dwi yn jocian am yr un Katy Perry ‘na.
Onest.