gan Elidir Jones
Am yr ail flwyddyn yn olynol, wnes i dreulio dyddiau cynta Ebrill yn teithio i Lundain er mwyn mynd i sioe EGX Rezzed. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo Rezzed, nid sioe gemau arferol mohoni. Mae’n rhoi llai o bwyslais ar glitz a sbectacl, ac yn canolbwyntio ar ddathlu gemau llai, annibynnol, diddorol, ac yn rhoi cyfle i chi eu trafod nhw yn uniongyrchol efo’r datblygwyr. Mae’n lot fawr iawn o hwyl.
Os am atgoffa’ch hun o’r trip flwyddyn diwetha, dyma fy adroddiad epig o’r sioe – fan hyn a fan hyn. Ond pwy sydd isio byw yn y gorffennol pan mae ‘na lwyth o stwff newydd a chyffrous reit rownd y gornel? Dyma fy uchafbwyntiau i o Rezzed flwyddyn yma.
Oh Sir…!: The Hollywood Roast
Os ‘da chi’n cîn fel fi, ac yn troi fyny i sioe fel hyn yn gynnar, gewch chi gyfle i brofi pethau arbennig cyn i’r torfeydd mawr droi fyny. Yn yr achos yma, ges i chwarae’r gêm Oh Sir…!: The Hollywood Roast yn erbyn un o’r datblygwyr, a chael yr holl goss am y peth wrth wneud.
Dwi’n gwbwl ymwybodol bod disgrifiad o’r gêm yn mynd i swnio’n hurt bost, ond ro i gynnig ar y peth beth bynnag. Felly mae Oh Sir… yn edrych yn debyg iawn i gêm ymladd 2D, ond efo’r holl gymeriadau wedi eu rhwygo’n syth allan o ffilmiau poblogaidd fel Harry Potter a Lord of the Rings. A fyddwch chi ddim yn ennill drwy guro’r gelyn yn ddu-las, ond drwy grefftio sarhâd allan o nifer fawr iawn o opsiynau. Mae’n chwarae fel Cards Against Humanity, fwy neu lai, wrth i chi drio llunio’r insylt hira / gwaetha / mwya hurt a welodd y byd erioed.
Dwi ddim yn siŵr faint mae profiad fel hyn yn debyg o bara, ond wnes i chwerthin lot tra’n ei chwarae, beth bynnag. Mae’n dod drosodd fel gêm barti gwerth chweil, ac yn cael ei rhyddhau yn y gwanwyn, i fod.
Ac os oes awydd gennych drio’r math yma o nonsens rŵan hyn, mae’r gêm gynta yn y gyfres, Oh Sir!: The Insult Simulator, allan yn barod.
Gonner
Roedd ‘na ardal agored yng nghanol y sioe yn llawn gemau Switch, ac ymhlith yr ardaloedd prysuraf drwy’r dydd. Peth braf iawn i weld.
Roedd ‘na lwyth o gemau o’n i isio eu trio yno – Pocket Rumble, Flipping Death, WarGroove – ond yr unig un ges i gyfle i’w chwarae oedd Gonner. Doedd gweld y gêm yn rhedeg mewn trelyrs ddim wir wedi pricio fy nychymyg, ond stori wahanol iawn oedd ei chwarae.
Mae’n gêm roguelike, ac yn arbennig o anodd, fel y gallech chi ddisgwyl, yn teimlo dipyn bach fel fersiwn modern o Ghouls & Ghosts. O ran stori, mae’n dilyn ymdrechion creadur bach o’r enw Ikk i godi hwyliau ei unig ffrind – sy’n forfil anferth – wrth grwydro drwy fyd tywyll a pheryglus ar drywydd trysor. Wel, wrth gwrs.
Prif atyniad gêm roguelike ydi chwarae ac ailchwarae er mwyn hogi eich sgiliau, a ges i ddim cyfle i wneud hynny. Ond wnes i chwarae digon i benderfynu bod Gonner werth golwg arall pan mae’n cael ei rhyddhau ar y Switch yn yr haf. Neu ar y PC rŵan, hyd yn oed, lle mae’r gêm ar gael y funud yma.
Sine Mora EX
Dwi’n meddwl mai Sine Mora EX oedd fy hoff gêm o’r sioe flwyddyn yma, a hynny er y ffaith mai gêm shoot-em-up gweddol syml ydi hi, mewn gwirionedd. Oherwydd y ffaith mai gêm shoot-em-up gweddol syml ydi hi, hyd yn oed – mae’n genre sydd ddim wedi cael llawer o gariad ers Resogun bedair mlynedd yn ôl, ond yn gymaint o hwyl pan mae’n cael ei wneud yn dda.
Yn Sine Mora EX – fersiwn estynedig o gêm ddaeth allan yn 2012 – fyddwch chi’n hedfan o’r chwith i’r dde, yn ymladd ton ar ôl ton o elynion, ac ambell fos mawr, mewn byd sy’n teimlo fel ei fod wedi ei ddylanwadu gan yr ail ryfel byd… jyst lot mwy lliwgar ac anime-aidd. Y newid mawr fan hyn ydi’ch bod chi’n medru arafu amser er mwyn osgoi’r môr o fwledi sy’n llenwi’r sgrîn – ar ben ei gyflymu er mwyn sgipio’r golygfeydd hir o ddeialog, sydd braidd yn ormod, mae’n rhaid dweud.
Ond hollti blew ydi cwyno am beth felly. Fe gafodd y fersiwn cynta o Sine Mora ymateb da nôl yn y dydd, felly mae synnwyr yn dweud bod y fersiwn estynedig am gael derbyniad gwell, dydi? Fel’na mae rhesymeg yn gweithio, bois.
Sure Footing
O’r holl ddatblygwyr ges i sgwrs efo nhw ar y diwrnod, Table Flip Games – datblygwyr Sure Footing – oedd wedi cymryd y mwyaf o ddiddordeb yng ngwaith Fideo Wyth. Ond dim dyna pam bod eu gêm nhw ar y rhestr ‘ma. Na. Nope. Dim ffiars o beryg.
Endless runner ydi Sure Footing, yn steil Bit Trip Runner neu Super Mario Run. Mae’n gynnar iawn yn natblygiad y gêm ar hyn o bryd, ond yn barod mae’r ffyrdd y mae Sure Footing yn trio gwahaniaethu ei hun yn dod yn amlwg. Fe allwch chi ddewis o bedwar cymeriad, a lefelu pob un i fyny wrth chwarae, fel croes rhwng endless runner a gêm chwarae rôl, mewn ffordd.
Mae ‘na fwy fyth o opsiynau o ran addasu cymeriad cyn bob lefel – fe allwch chi ddewis tri allan o chwech gallu arbennig, er mwyn chwarae’r gêm yn eich steil unigol eich hun. Mae’n cynnig lefel newydd o ddyfnder mewn genre sy’n medru teimlo’n eitha arwynebol, ac yn sicr ar ein radar ni erbyn hyn.
Sgwrs Yooka-Laylee
Mae ‘na ddewis gwych o sgyrsiau bob diwrnod yn EGX Rezzed, ond dim ond un ges i gyfle i’w weld flwyddyn yma – trafodaeth ar Yooka-Laylee, y gêm blatfform 3D sy’n cael ei rhyddhau wythnos nesa, ac yn anelu i ailgynnau fflam gemau fel Banjo-Kazooie a Donkey Kong 64.
Roedd ‘na ambell i beth diddorol yn y sgwrs, oedd – fel y ffaith bod Yooka-Laylee yn ddechrau ar ‘fydysawd’ newydd o gymeriadau i’r datblygwyr, Playtonic, ac un aelod o’r gynulleidfa yn codi ar ei draed, yn mynnu eu bod nhw’n ailgreu Diddy Kong Racing.
Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd hwn:
Dyna eu homage perffaith nhw i’r fideo mor-ddrwg-mae’n-dda oedd yn cychwyn DK64. Dwi dal ddim yn siŵr fydd y fideo yn y gêm, ta oedd yr holl beth yn ffŵl Ebrill mawr. Ond motsh. Mae’n bodoli’n rŵan. Dyna’r oll sy’n bwysig.
Ffiw. Dim amser i drafod yr holl stwff arall ges i brofi yn y sioe – Warhammer: Dawn of War 3, Snake Pass… na’r tro ‘na wnes i gau sesiwn aml-chwaraewr o Holodrive i lawr mewn camgymeriad.
Na. Dim amser i sôn am hynny. Dyna siom.
Ond jyst abowt digon i ddweud, unwaith eto, bod EGX Rezzed werth eich amser, ac y bydda i’n ôl flwyddyn nesa.
[…] Sine Mora EX oedd fy uchafbwynt o sioe EGX Rezzed flwyddyn yma. Roedd yn gêm berffaith i’w chwarae mewn digwyddiad o’r fath, dros gyfnod byr. Mewn cyfnod dipyn hirach, serch hynny, mae ambell wendid yn dod i’r amlwg. […]