gan Elidir Jones
Wythnos diwetha, ro’n i’n teimlo fymryn yn aflonydd. Be well, felly, na thrip funud ola i Lundain er mwyn cael ymweld â sioe EGX Rezzed? Dyma frawd bach sioe fawr swanci EGX, ac un sy’n canolbwyntio ar gemau bach, diddorol, annibynnol… gydag un neu ddau o rai mwy wedi eu taflu i mewn i’r mics, wili-nili.
Ges i chwarae lot o gemau yn ystod cwrs y diwrnod. Gormod i’w ffitio i mewn i un cofnod. Felly rhwng hwn ac un cofnod arall nes mlaen wythnos yma, gewch hi’r holl hanes – o’r grêt, i’r siomedig, i’r bisâr.
Os ydi unrhyw gêm yn swnio’n ddiddorol, cliciwch ar yr enw er mwyn mynd yn syth i’r wefan swyddogol, wnewch chi? Gwd thing.
Wedi camu drwy’r drysau am ddeg o’r gloch, wnes i anelu’n syth at ystafell Bandai / Namco i gael trio Dark Souls 3 – gêm sy’n dod allan ar Ddydd Mawrth, ond un do’n i’m yn medru disgwyl i’w chwarae.
Ia. Dwi’n dipyn o ffan.
Ges i fy ngollwng i mewn i’r gêm, ychydig wedi’r cychwyn, a chael fy siarsio i drio curo bos yn yr ugain munud o’n i’n ei gael. Fe fyddai buddugoliaeth yn dod â chlod, edmygedd pawb o fy amgylch – ac yn bwysicach oll, crys-T am ddim.
Siom, felly, bod y rheolydd ges i wedi torri. Yn hytrach na symud ymlaen yn llyfn, roedd fy nghymeriad yn shyfflo o gwmpas y lle fel cranc meddw. Wnes i fy ngora. Wir yr. Ond ar ôl cael fy llosgi gan dân draig, rowlio oddi ar glogwyn, a chael fy nhrywanu yn union cyn cyrraedd y bos, efo dau funud i fynd, wnes i roi’r gorau iddi. Dim crys-T i fi, felly… ond dwi’n edrych ymlaen at gael chwarae’r gêm llawn hyd yn oed yn fwy nag o’n i’n barod, os ydi hynny’n bosib. Disgwyliwch adolygiad fideo llawn ganddon ni yn y man, thgwrs.
Roedd gan y gêm rasio yma – fel croes rhwng Mario Kart a Micro Machines – ardal eitha enfawr yng nghanol llawr y sioe. Braidd yn od, a chysidro bod gan Table Top Racing: World Tour ddim proffil mawr iawn. A hefyd oherwydd doedd y gêm… ddim yn grêt.
Dim bod ‘na lot yn bod efo’r peth, ond doedd ‘na ddim lot i’w hoffi chwaith. Simplistig ofnadwy oedd y profiad, yn enwedig i’w gymharu â Mario Kart. Ac er bod y traciau yn gwneud i atgofion melys o chwarae’r gemau Micro Machines nôl yn y dydd ruthro i fy meddwl, doedd o ddim yn ddigon i newid pethau’n llwyr. Iawn i blant, ella, ond ddim yn hanfodol i unrhywun arall o bell ffordd.
Ar fy nhrip cynta i ardal dywyll, boeth, brysur yn y gornel, yn llawn gemau bwrdd a gemau annibynnol, ges i chwarae Featherpunk Prime – cyfuniad rhyfedd o Joust a Mega Man, efo’r holl lefelau wedi eu creu ar hap. ‘Da chi’n chwarae fel ryw fath o hanner-robot, hanner-aderyn, gyda dewis eithriadol o eang o arfau ar gael i chi.
Roedd o’n anodd ond nid yn annheg. Ac er ‘mod i ddim yn eithriadol o hoff o’r steil graffegol, ac yn meddwl y byddai lefelau wedi eu cynllunio yn well na rhai wedi eu chwydu allan gan gyfrifiadur, dwi dal yn meddwl bod Featherpunk Prime yn gêm i gadw golwg arni, yn enwedig os ‘da chi’n ffan o gemau platfform 2D. A pwy sydd ddim?
Un arall o gemau mawr y sioe, ac un ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr at ei chwarae. Dwi’n hoff o fyd Warhammer, a’r gemau Total War… ac ar ben bob dim arall, dydi fy nghyfrifiadur i gartre ddim yn dod yn agos at allu ei redeg. Debyg iawn ga i ddim cyfle arall i’w chwarae yn fuan…
Peth da ‘mod i’n gyfarwydd efo’r gemau Total War, achos doedd ‘na ddim math o diwtorial ar gael yma. Ges i fy nhaflu reit i ganol pethau, ac yn gorfod gwneud fy ngorau i oroesi ymosodiad gan fyddin o fampirod a zombies a phethau erchyll fel’na. Spoilers: o’n i’n rybish. Yn hollol, hollol rybish. Mae Total War yn gyfres dwi’n ei fwynhau lot fawr iawn, ond… mam bach, dwi’n rybish. Er hyn i gyd, mae’n glir bod W:TW yn llyfn, ac yn eithriadol o brydferth, ac yn lot fawr iawn o hwyl, hyd yn oed pan ‘da chi’n colli…
A wedyn wnaeth y gêm grasho. Aeth y sgrîn yn ddu, gyda ychydig o synau o’r frwydr yn dal i’w clywed yn y cefndir. Ddim yn argoeli’n dda! Os dydi hyd yn oed cyfrifiaduron pwerus Rezzed ddim yn gallu ei redeg… wel. Pob lwc i chi os ‘da chi’n bwriadu prynu hwn. Dwi’n siŵr gewch chi lot fawr iawn o hwyl os, drwy ryw wyrth, mae popeth yn gweithio.
Dwi wedi clywed eitha dipyn am Dear Esther – gêm sydd wedi bod allan am rai blynyddoedd ar y PC, ond am gael ei ailryddhau ar y PS4 flwyddyn yma. Mae’n ran o genre sydd fel arfer yn cael ei ddisgrifio fel “walking simulator” (gweler hefyd: Firewatch, Everybody’s Gone To The Rapture), lle ‘da chi’n gwneud dim byd ond… wel… cerdded o gwmpas.
Dwi’n digwydd bod yn ffan o’r math yma o gêm, ond dim sioe fel’ma ydi’r lle gorau i’w chwarae nhw. Fedrwch chi ddim cael teimlad y peth ar ôl ychydig funudau… mae o fel darllen llond llaw o dudalennau cynta nofel cyn gorfod symud ymlaen. Serch hynny, mae ‘na ddigon yn Dear Esther i gnoi cîl drosto. Dyma, heb os, un o’r gemau mwya geiriog a deallusol dwi erioed wedi ei chwarae. Mae o fel ei fod wedi ei sgwennu gan Virginia Woolf.
Un i gadw golwg arno, felly, pan mae’n glanio ar gonsols o’r diwedd. Hynny yw, os nad oes ‘na “walking simulators” hyd yn oed mwy diddorol yn ymddangos yn y cyfamser. Gwyliwch y gofod hwn…
From the sublime to the ridiculous.
Mae 10 Second Ninja X yn gêm blatfform eithriadol o anodd, yn steil Super Meat Boy, lle mae’n rhaid i chi glirio bob lefel mewn deg eiliad. Syml. Effeithiol. Ac eithriadol o gaethiwus. Do’n i ddim isio rhoi’r gorau i chwarae, deud gwir, a siomi’r dorf oedd yn ffurfio y tu ôl i fi yn fy ngwylio i’r methu. Eto. Ac eto. Ac eto. Hwyl gwyllt i unrhywun sydd isio profiad cyflym rhwng sesiynau o gemau eraill, ac un o syrpreisys mawr y sioe hyd yn hyn.
Sialens Just Cause 3
Dyma sialens arall er mwyn ennill crys-T. Y broblem fan hyn oedd fy mod i erioed wedi chwarae’r un o’r gemau Just Cause o’r blaen. Ges i fy nghynghori gan y ferch oedd yn rhedeg y stondin ella y byddai dipyn bach o bractis i ddechrau yn help.
Wnes i ddim gwrando.
Rŵan gawn ni beidio trafod y peth eto? Diolch.
Hei, “walking simulator” arall! Dyna gyd-ddigwyddiad.
A dyma fy hoff un o’r sioe, dwi’n meddwl. Mae gan Rituals deimlad eithriadol o retro, fel rhywbeth ar yr Amiga yn y 90au cynnar. ‘Da chi’n cychwyn mewn swyddfa, fel rhywbeth allan o The Stanley Parable, ond yn cael eich dympio’n gyflym iawn i ganol coedwig, lle ‘da chi’n gorfod crwydro’r lle a datrys posau er mwyn parhau â’r gêm. Mae ‘na dwtsh o The Witness am y peth, a hefyd talp mawr o hen gemau antur point and click.
Os ‘da chi’n ffan o bosau, mae’n werth cael golwg ar hwn yn sicr. Mae ‘na gymaint o stwff wedi ei wasgu i mewn y tu ôl i’w ddelweddau syml. Gwerth suddo rhai oriau i mewn i’r peth, yn hytrach na’r ychydig funudau ges i yn y sioe.
Gêm RPG ffantasi tactegol, hyfryd yr olwg, yn steil Diablo neu Baldur’s Gate, ac yn drwm iawn ar y stori. Ia plis.
Do’n i ddim cweit yn siŵr am The Dwarves i ddechrau. Roedd y system ymladd yn ymddangos braidd yn simplistig – er ei bod hi dal yn eithriadol o foddhaol chwythu casgliad enfawr o Orcs i fyny mewn ffrwydrad o dân hud. Ond wedyn wnes i ddatgloi ail gymeriad, sylweddoli bod rhaid i chi newid rhwng cymeriadau yn gyflym er mwyn llwyddo yn y gêm, ac fe wnaeth yr holl brofiad ehangu’n sylweddol.
O, a wnes i farw’n syth. Ddim yn simplistig o gwbwl felly. Dwi’n gwbod dim byd.
Y gêm ola cyn cinio.
(Salad a chyw iâr di ffrio. Am ddeg punt. Diolch yn fawr, Llundain.)
A “walking simulator” arall! Ond un dipyn mwy seicedelig tro ‘ma, a dipyn bach yn sinistr hefyd. Yn Californium, ‘da chi’n chwarae fel awdur sy’n gorfod delio efo dipyn bach mwy na writer’s block. Mae’ch teulu wedi diflannu, ac mae realaeth ei hun yn dadfeilio o’ch cwmpas. O diar.
Wnes i ddim chwarae lot o’r gêm fy hun – roedd y posau braidd yn ormod i fi – ond wnes i wylio rhai eraill yn pasio’r pwynt lle wnes i gyrraedd, ac mae’r gêm yn ymddangos yn fwy prydferth, yn fwy agored, ac yn fwy diddorol wrth fynd ymlaen. Dim fy hoff gêm o’i fath yn Rezzed, ond werth go, yn sicr. Ac mae o allan rŵan!
Tro nesa: holl gemau’r prynhawn, gan gynnwys uchafbwyntiau’r sioe.
Iyp. Roedd ‘na gemau wnes i fwynhau yn fwy na Dark Souls 3, os allwch chi goelio hynny. Dewch nôl i glywed amdanyn nhw.
[…] fach wnes i ei phrofi yn sioe EGX Rezzed yn y gwanwyn, mae 10 Second Ninja X yn gêm blatfform sy’n hawdd i’w chwarae ond yn […]
[…] atgoffa’ch hun o’r trip flwyddyn diwetha, dyma fy adroddiad epig o’r sioe – fan hyn a fan hyn. Ond pwy sydd isio byw yn y gorffennol pan mae ‘na lwyth o stwff newydd a chyffrous […]