gan Elidir Jones
Yn gyntaf oll, ymddiheuriadau am fod yn dawel wythnos diwetha. Ro’n i wrthi yng Nghaerdydd yn sgwennu fideos hurt ar gyfer y we. Ac yn cael fy nhalu am wneud, am unwaith. A tra ro’n i’n gwneud hynny, roedd Daf yn Efrog Newydd.
Ia. Wel. Mae o ‘di nghuro i eto, dydi?
Sôn am Efrog Newydd: The Division. Gêm sy’ wedi ei leoli yno.
Blam. Linc!
Fydd ‘na eitem ar The Division ganddon ni ar gyfres nesa Y Lle. Edrychwch ymlaen at hwnna. Ond, fel y rhan fwya o’n heitemau ar Y Lle, mae 99% o’r peth yn ddim byd ond gags stiwpid. Felly, gan bod hi’n gêm mor boblogaidd, mae’n debyg y dyliwn ni sôn amdani mewn dipyn mwy o fanylder. Et voila.
Y dyfodol agos. Neu’r presennol. Dwi ddim rhy siŵr. Mae terfysgwyr wedi dechrau epidemig o’r frech wen yn Efrog Newydd wrth orchuddio arian â’r feirws, ac mae’r ddinas ar ei liniau. Mae asiantaeth newydd o’r enw The Division yn gwneud eu gorau i dawelu’r dyfroedd wrth i’r holl ddinaswyr sydd ar ôl wneud eu gorau i rwygo ei gilydd yn ddarnau. A dyna lle ‘da chi’n dod i mewn…
Ar ei symla, mae The Division fel unrhyw un arall o gemau Ubisoft – map agored enfawr yn llawn stwff di-bwynt i wneud – ond wedi ei gyfuno â ychydig o systemau MMO wedi eu codi’n syth o Destiny. Fel canlyniad, mae’n teimlo ar adegau fel y gorau o’r ddau fyd yna. Mae’n gêm sy’n amlwg yn lot fawr iawn o hwyl i chwarae efo ffrindiau, ond – yn wahanol i Destiny, ella – mae’n berffaith hawdd ei mwynhau ar eich ben eich hun hefyd. Ac mae The Division yn ei gwneud hi’n llawer haws i ymuno efo dieithriaid, os ‘da chi’n teimlo’n anturus fel’na.
Os ‘da chi’n gyfarwydd efo Destiny, fyddwch chi’n gwbod gymaint mae’r gêm yna wedi newid ers ei lawnsio, ac felly ‘da ni’n gwynebu’r un broblem wrth drio dadansoddi The Division. Debyg iawn fydd popeth wedi newid mewn mater o fisoedd, ond i gyd fedrwn ni wneud rŵan ydi edrych ar y pecyn fel mae o.
Ac mae o’n… iawn. Eitha da, deud y gwir, os ‘da chi’n hoff o fformiwla Ubisoft. Dydi’r byd ddim mor afaelgar yn syth ag un sci-fi lliwgar Destiny, mae’n wir, ond mae’n edrych yn hyfryd, o leia, ac mae gweld yr holl ystadegau yn ticio i fyny’n araf wrth i’ch cymeriad gryfhau mor gyffrous ag erioed. Ac er bod ‘na ddim lot o amrywiaeth, efo bron i bob un tasg yn y gêm yn ymwneud â saethu ton ar ôl ton o elynion, dydych chi ddim yn meindio gormod achos bod yr holl beth yn teimlo mor dda.
Ond mae ‘na un gwahaniaeth mawr rhwng The Division a Destiny sy’n amlygu ei hun ar ôl gorffen y prif gêm. Yn Destiny, doedd y gêm go-iawn ddim wir yn cychwyn tan i chi gyrraedd eich uchafswm lefel, pan oedd pob math o opsiynau newydd yn agor. Yn The Division, mae’r gwrthwyneb yn wir. Wnes i gyrraedd y lefel ucha y diwrnod o’r blaen, ac er bod ‘na un neu ddau o bethau i’w gwneud wedi hynny – mae ‘na sialensau dyddiol a wythnosol yn cychwyn, er enghraifft, ac arfau a dillad i’w crefftio – does ‘na ddim digon ar hyn o bryd, o bell ffordd.
A’r siom mwya – ar hyn o bryd, o leia – ydi’r Dark Zone, sef yr un rhan o’r gêm lle allwch chi fynd mano-a-mano yn erbyn chwaraewyr eraill. Mae’n briliant ar bapur: mae ‘na ardal o’r map lle allwch chi ymuno efo pobol eraill er mwyn cael y stwff gora yn y gêm… ac, ar yr eiliad ola, troi arnyn nhw er mwyn ei ddwyn o i gyd eich hun. Y broblem ydi, dydi ymddwyn fel’na bron byth werth y drafferth. Mae ‘na wastad rhywun yno i’ch talu chi nôl am fod mor hŷ a sbwylio’ch hwyl i gyd. Ac ar yr un pryd, mae’r rhan fwya o’r map hefyd yn teimlo’n rhyfeddol o wag. Dyna be ydi’r Dark Zone ar y funud: cyfnodau hir o ddiflastod, ac adegau prin o siom i dorri’r profiad i fyny. Mae Ubisoft wedi rhyddhau un patsh yn barod i drio gwella pethau, ond mae ‘na lot fawr iawn i’w wneud eto.
Ro’n i yn ffan eitha mawr o’r gêm cyn cychwyn ar y rhan ola ‘ma, ond mae’n rhaid dweud bod y diweddglo wedi fy siomi. Ond mae ‘na ddigon o estyniadau ar y ffordd eto. Digon o amser i The Division fy ennill yn ôl.
Ond mae un gwendid arall i’w nodi. Un sydd dipyn bach fwy difrifol na hyn i gyd, deud y gwir. Mae The Division yn chwerthinllyd – yn beryglus – o adain-dde. Dydi hyn ddim yn syrpreis, wrth gwrs, gan bod enw Tom Clancy ar y peth, ond… waw. Mae’r rhan fwya o’r gêm yn fforsio chi i saethu pobol dlawd yn y gwyneb am ddim rheswm, jyst oherwydd eu bod nhw’n trio gwneud rhyw fath o fywoliaeth ar ddiwedd y byd. Ar ddiwedd un lefel, ‘da chi’n ymladd dynes ddu sydd, yng nghanol yr holl saethu, yn eich herio chi oherwydd ei bod hi ddim yn trystio heddlu’r UDA.
Ia… sori, ond dwi ar ei hochr hi.
Yn lle pobol yn mynd ymlaen hyd syrffed am beryglon trais mewn gemau, ella ddylien nhw ganolbwyntio ar stwff fel’ma, sydd wir yn gwneud drygioni.
Ond dyna ni. Ro’n i’n gwbod be i ddisgwyl pan es i mewn i’r peth. Os allwch chi wahanu’r profiad chwarae o bethau hyll fel’na – a wir, ddyliwn ni ddim gorfod gwneud hynny erbyn hyn – mae The Division yn berffaith hwyl (os nad yn arbennig o wreiddiol) am tua 40 awr, a wedyn… dydi o ddim. Digon o bethau da yma, ymysg yr hyll… ond dim byd i achosi obsesiwn, dwi’m yn meddwl. Ac os dydi MMO ddim yn achosi obsesiwn, mae ‘na rwbath wedi mynd o’i le yn rhywle.
Ydych chi wedi camu i fyd The Division hefyd? Yn meddwl gwneud? Sticiwch sylw isod.
[…] trafod The Division eitha dipyn ar f8, o’r golwg cynnar yma, i’r sylwadau gwasgarog fan hyn, i’r smorgasbord yma o nonsens ar Y […]